Rhufeiniaid 14
14
1Yr hwn sydd wan yn y ffydd derbyniwch attoch, ond nid i ymrafaelion ymresymmiadau. 2Un sydd a chanddo ffydd i fwytta pob peth; ond y gwan, llysiau a fwytty. 3Yr hwn sy’n bwytta, na ddirmyged yr hwn nad yw yn bwytta; a’r hwn nad yw’n bwytta, na farned yr hwn sydd yn bwytta, canys Duw a’i derbyniodd ef. 4Tydi, pwy wyt, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll neu yn syrthio; a sefydlir ef, canys abl yw’r Arglwydd i wneud iddo sefyll. 5Un a farn ddiwrnod uwchlaw diwrnod, ac arall a farn bob diwrnod yn ogyfuwch: bydded pob un wedi ei iawn-berswadio yn ei feddwl ei hun. 6Yr hwn sy’n ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a’r hwn sy’n bwytta, i’r Arglwydd y mae yn bwytta, ac yn diolch i Dduw; a’r hwn nad yw yn bwytta, i’r Arglwydd nid yw yn bwytta, a diolch i Dduw y mae. 7Canys nid oes neb o honom yn byw iddo ei hun, na neb yn marw iddo ei hun; 8canys os byw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ac os marw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn marw: gan hyny, pa un bynnag ai byw yr ydym ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym; 9canys er mwyn hyn Crist a fu farw a byw, fel ar y meirw a’r byw hefyd yr arglwyddiaethai. 10Ond tydi, paham y berni dy frawd? Neu, tydi etto, paham y dirmygi dy frawd? Canys pawb o honom a osodir ger bron brawd-faingc Duw; 11canys ysgrifenwyd,
“Fel mai byw wyf Fi, medd Iehofah, i Mi y plyga pob glin,
A phob tafod a gyffesa i Dduw.”
12Gan hyny, ynte, pob un o honom am dano ei hun a rydd gyfrif i Dduw.
13Na fydded i ni mwyach, gan hyny, farnu ein gilydd; eithr bernwch hyn yn hytrach, sef peidio â rhoi maen-tarawo i frawd, na thramgwydd. 14Gwn, a pherswadiwyd fi yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan o hono ei hun; ond i’r hwn sy’n cyfrif rhyw beth i fod yn aflan, iddo ef aflan yw. 15Canys os o achos bwyd y mae dy frawd yn cael ei dristau, nid yn ol cariad yr wyt yn rhodio mwyach; na fydded i ti â’th fwyd ddistrywio hwnw tros yr hwn y bu Crist farw. 16Na chabler, gan hyny, eich daioni chwi; 17canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod, eithr cyfiawnder a thangnefedd a llawenydd yn yr Yspryd Glân. 18Canys y neb sydd yn y peth hwn yn gwasanaethu Crist sydd foddlawn gan Dduw, a chymmeradwy gan ddynion. 19Gan hyny, ynte, ymerlynwn â phethau heddwch ac â phethau adeiladaeth tuag at ein gilydd. 20Na fydded i ti o achos bwyd ddinystrio gwaith Duw. Pob peth sydd lân: eithr drwg yw i’r dyn sy’n bwytta trwy dramgwydd. 21Da yw peidio â bwytta cig, nac yfed gwin, na gwneud yr hyn y mae dy frawd yn tripio wrtho. 22Tydi, y ffydd y sydd genyt, bydd â hi gyda thi dy hun ger bron Duw. Dedwydd yw’r hwn na farna ei hun yn yr hyn a gymmeradwya efe: 23ond yr hwn sy’n ammeu, os bwytty, condemniwyd ef gan nad o ffydd y bwytty; a phob peth nad yw o ffydd, pechod yw.
Actualmente seleccionado:
Rhufeiniaid 14: CTB
Destacar
Compartir
Copiar

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.