Yr Actau 13
13
1Ac yr oedd yn Antiochia, yn yr eglwys oedd yno, brophwydi ac athrawon, Barnabas a Shimon yr hwn a elwid Niger, a Lucius y Curenead, a Maenan brawd-maeth Herod y Tetrarch, a Shawl. 2Ac a hwy yn gwasanaethu’r Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd Glân, Neillduwch, yn awr, i Mi Barnabas a Shawl i’r gwaith at yr hwn y gelwais hwynt. 3Yna, wedi ymprydio a gweddïo, a dodi eu dwylaw arnynt, y gollyngasant hwynt ymaith.
4Hwythau, gan hyny, wedi eu danfon allan gan yr Yspryd Glân, a ddaethant i wared i Seleucia, ac oddi yno y mordwyasant ymaith i Cuprus. 5A phan yr oeddynt yn Shalamus, mynegasant Air Duw yn sunagogau yr Iwddewon; ac yr oedd ganddynt Ioan hefyd yn weinidog. 6Ac wedi tramwy trwy’r holl ynys hyd Paphos, cawsant ryw ŵr o swynwr, gau-brophwyd Iwddewig, a’i enw Bar-ieshu, 7yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr deallus; hwn, wedi galw atto Barnabas a Shawl, a ddeisyfiodd glywed Gair Duw: 8ond eu gwrthsefyll hwynt a wnaeth Elymas, y swynwr (canys felly y cyfieithir ei enw ef), gan geisio gwyrdroi y rhaglaw oddiwrth y ffydd. 9A Shawl, yr hwn a elwir hefyd Paul, wedi ei lenwi â’r Yspryd Glân, gan edrych yn graff arno, 10a ddywedodd, O gyflawn o bob twyll a phob anfadrwydd, mab diafol, gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi â gwyrdroi ffyrdd yr Arglwydd, y rhai uniawn? 11Ac yn awr, wele, llaw yr Arglwydd sydd arnat, a byddi ddall, heb weled yr haul am amser. Ac yn ddiattreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch, a chan fyned o amgylch, ceisiai rai i’w arwain erbyn ei law. 12Yna, gan weled o’r rhaglaw yr hyn a ddigwyddodd, credodd, yn aruthr ganddo wrth athrawiaeth yr Arglwydd.
13Ac wedi hwylio ymaith o Paphos, Paul a’r rhai gydag ef a ddaethant i Perga yn Pamphulia; ond Ioan, wedi ymadael â hwynt, a ddychwelodd i Ierwshalem; 14a hwythau, wedi tramwy o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia; ac wedi myned i’r sunagog ar y dydd Sabbath, eisteddasant; 15ac ar ol darllen y Gyfraith a’r Prophwydi, danfonodd pennaethiaid y sunagog attynt, gan ddywedyd Brodyr, os oes gair o gyngor genych i’r bobl, traethwch, 16Ac wedi cyfodi o Paul, ac amneidio â’i law, dywedodd,
Gwŷr o Israel, a’r rhai sy’n ofni Duw, gwrandewch. 17Duw y bobl hyn, Israel, a etholodd ein tadau; ac y bobl a ddyrchafodd Efe yn y preswyliad yngwlad yr Aipht, ac â braich uchel y dug hwynt allan o honi; 18ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd eu moesau yn yr anialwch; 19ac wedi dinystrio saith genedl yngwlad Canaan 20â choelbren y parthodd eu gwlad am ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain; ac wedi hyny y rhoddes farnwyr hyd Shamuel y prophwyd; 21ac ar ol hyny y gofynasant frenhin, ac iddynt y rhoddes Duw Shawl, mab Cish, gŵr o lwyth Beniamin, ddeugain mlynedd; 22ac wedi ei symmud ef, cyfododd Efe Dafydd iddynt, yn frenhin, i’r hwn y tystiolaethodd, gan ddywedyd, Cefais Dafydd, mab Ieshe, gŵr yn ol Fy nghalon, yr hwn a wna Fy holl ewyllys. 23O had hwn, Duw, yn ol Ei addewid, a ddug i Israel Iachawdwr, Iesu, gwedi rhag-bregethu o Ioan, 24o flaen Ei ddyfodiad i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel. 25A phan gyflawnai Ioan ei redfa, dywedodd, Pa beth y tybiwch fy mod i? Nid myfi yw Efe: eithr wele, dyfod ar fy ol y mae yr Hwn nad wyf deilwng i ddattod esgidiau Ei draed. 26Brodyr, meibion cenedl Abraham, a’r rhai yn eich plith y sy’n ofni Duw, i chwi y mae Gair yr iachawdwriaeth hon wedi ei ddanfon, 27canys y rhai yn trigo yn Ierwshalem a’u tywysogion, gan nad adwaenant Ef na lleisiau y prophwydi y rhai a ddarllenid bob Sabbath, gan Ei farnu Ef a’u cyflawnasant. 28Ac heb gael Ynddo ddim achos angau, dymunasant ar Pilat y lleddid Ef. 29A phan gwblhasant yr holl bethau a ’sgrifenasid am Dano, wedi Ei dynnu i lawr oddi ar y pren, dodasant Ef mewn bedd. 30Ond Duw a’i cyfododd Ef o feirw, ac Efe a welwyd 31ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fynu gydag Ef o Galilea i Ierwshalem, y rhai, yr awr hon, ydynt Ei dystion wrth y bobl. 32Ac nyni sy’n efengylu i chwi yr addewid a wnaed i’r tadau, mai hwn y mae Duw wedi ei gyflawni i’n plant, gan gyfodi yr Iesu; 33fel ag yn yr ail psalm yr ysgrifenwyd,
“Fy Mab Tydi ydwyt, Myfi heddyw a’th genhedlais;”
34ac y cyfododd Ef o feirw, ddim mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y dywedodd,
“Rhoddaf Iddo drugareddau sicr Dafydd:”
35o herwydd Iddo mewn psalm arall ddweud,
“Ni roddi Dy Sanct i weled llygredigaeth.”
36Canys Dafydd, yn wir, wedi iddo yn ei genhedlaeth wasanaethu cynghor Duw, a hunodd, ac a roddwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth; 37ond yr Hwn y bu i Dduw Ei gyfodi, ni welodd lygredigaeth. 38Bydded hyspys, gan hyny, i chwi, frodyr, mai trwy Hwn i chwi y mynegir maddeuant pechodau: 39ac oddi wrth yr holl bethau na allech trwy Gyfraith Mosheh eich cyfiawnhau oddi wrthynt, trwy Hwn pob un a gredo a gyfiawnheir. 40Edrychwch, gan hyny, na ddelo arnoch yr hyn a ddywedwyd yn y Prophwydi,
41“Gwelwch, chwi ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflenwch;
Canys gwaith yr wyf Fi yn ei weithio yn eich dyddiau,
Gwaith na chredwch mo’no er i neb ei fynegi i chwi.”
42Ac wrth fyned allan o honynt, deisyfiasant gael ar y Sabbath nesaf fynegi iddynt yr ymadroddion hyn. 43A phan ollyngwyd y cyfarfod ymaith, canlynodd llawer o’r Iwddewon ac o’r proselytiaid defosiynol ar ol Paul a Barnabas, y rhai, gan lefaru wrthynt, a gynghorasant iddynt aros yngras Duw.
44A’r Sabbath nesaf, bron yr holl ddinas a gasglwyd ynghyd i glywed Gair Duw. 45A chan weled o’r Iwddewon y torfeydd, llanwyd hwynt o eiddigedd, a gwrth-ddywedasant yn erbyn y pethau a leferid gan Paul, gan gablu. 46A chan lefaru yn hyderus o Paul a Barnabas hefyd, dywedasant, Wrthych chwi yn gyntaf yr oedd rhaid i Air Duw gael ei lefaru; ac o herwydd ei wrthod yr ydych, ac yn barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragywyddol, wele, troi at y cenhedloedd yr ydym; 47canys felly y gorchymynodd yr Arglwydd i ni, gan ddywedyd,
“Gosodais di yn oleuni i’r cenhedloedd,
Fel y byddit yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.”
48Ac wrth glywed hyn, y cenhedloedd a lawenychent ac a ogoneddent Air Duw; a chredodd cynnifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol. 49A dygpwyd Gair yr Arglwydd trwy’r holl wlad. 50Ond yr Iwddewon a annogasant y gwragedd defosiynol, y rhai anrhydeddus, a phennaethiaid y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a bwriasant hwynt allan o’u terfynau; 51ond hwy, wedi ysgwyd ymaith lwch eu traed yn eu herbyn hwynt, a aethant i Iconium; 52a’r disgyblion a lanwyd o lawenydd ac o’r Yspryd Glân.
Actualmente seleccionado:
Yr Actau 13: CTB
Destacar
Compartir
Copiar

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.