YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 29

29
Y Psalm. XXIX. Cyrch a Chwtta.
1Rhowch ir Arglwydh, arwydh yn,
Plant y nerthawl, hawl hwylwyn,
Nerth gogoniant moliant myn;
2Rhowch ir Arglwydh, rwydh wreidhyn,
Ogoniant prydferth perthyn:
Rhowch i enw Nêr hyder hyn,
Adholwch Arglwydh haelwyn
Yn annedh gogonedh gwỳn:
3Lleferydh Nêr, arfer oedh,
Ar dhyfroedh, llifoedh, a llyn.
Duw’ gogoniant, moliant mau,
Diwair enw, gwnaiff daranau;
Mae yr Arglwydh, wiwlwydh wau,
Ar y mawrdhyfr, Iôr myrdhau:
4Llafar yr Arglwydh llefau,
Yn fy marn sydh gadarn gau;
Llef yr Arglwydh, rhwydh er iau,
Sydh ogoniant, swydh genau;
5Llef yr Arglwydh, wiwrwydh war,
A dyr Sedar dros oedau.
Tyr yr Arglwydh, gwiwrwydh gar,
Libanon, Seidon, Sedar;
6Gwnaiff i naid di raid drydar,
Oll i gyd, fal llöau gwar;
Libanon, Sirion, sy eirwar,
Fal uncorn was orn is ar;
7Llef yr Arglwydh burlwydh ba ’r
Rannu im’ eirian marwar;
8Llef yr Arglwydh, llwydh Iôr llwyd,
Ysgwyd dhiffeith, a’u gwasgar.
Diffaith Cedes fawrles fu
Deg rinwedh, gwnaiff Duw’i grynu;
9Gwnaiff llef fy Nêr, Gwiwner gu,
Fwrw o ewig lo yforu;
A ’r fforestudh datgudh dû,
Doedant ogoniant ganu,
Pawb yw deml ef, freinlef fru:
10Duw a eistedh, mae ’n gwedhu,
O dhifrif, ar ei dhyfroedh,
Drwy ’n oesoedh, i deyrnasu.
11Rhydh Duw nerth prydferth, pêr oedfa — dhawnus,
I’w dhynion sydh yma;
I bobloedh, Nêr dyner da,
O degwch, a fendiga.

Currently Selected:

Psalmau 29: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in