YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 28

28
Y Psalm. XXVIII. Cywydd Llosgyrnog.
1Galwaf arnad, Geli fawrnerth,
Na fydh rinfawr fydhar anferth;
Duw fy nerth yw’m difai Naf:
Ond attebi imi omwedh,
Ail i un a êl o’i annedh
I ’r bedh, ar elawr, bydhaf.
2Clyw fy llais, ochais yn uchel, —
Fy nymuniad, fwyn Emmanuel, —
Oernad gêl, arnad galwaf;
Pan dhyrchafwyf a rhwyf y rhai ’n,
Anwyl o fodh, fy nwylaw fain,
Goelfain, tua’th dhirgelfaf.
3Na thyn fi yn annoeth anwr,
Waeth‐waeth, gyd a ’r drwg‐weithiwr,
Gwthiwr, y ’nghyd a ’r gwaethaf;
A’u geiriau caredig, oerion,
O degwch wrth eu cym’dogion;
I ’r galon dwyllfawr gwelaf.
4O’u gweithred kofied nad cyfion,
Afrad magiad drwg dhych’mygion
Anfwynion, gobrwy a fynnaf;
Bid eu cyflog, oriog wiriaw,
Ar ol gweithred hwylied, hylaw,
Eu dwylaw, hynod alaf.
5Nid ystyriant waith eurfaith, arfod,
Diwael henwi, dwylaw hynod,
Gwar uchod, Duw goruchaf;
Am hyn ’torrir, mwy anturiad,
Llwyr o gwestiwn, ir llawr gwastad,
Heb eu hadeilad, — bid waelaf.
6Mawl ir Arglwydh, arwydh irwyn,
Coel diweirbarch, clyw, a derbyn,
Fy holl ofyn, fwy llefaf;
7F’Arglwydh prydferth yw fy nerthwr
A’m tarian, ydwyf ymwanwr,
I Dduw waredwr ymdhiriedaf.
Llawen fy nghalon, bron heb rus,
Amcan adhwyn, a’m can wedhus, —
Yn felys ef a folaf;
8Eu nerth yw Duw, ni tharia dig,
A gwaredwr ei gu iredig, —
Didhig ei nerth, rhaid adhaf.
9Cadw dy lon dhynion dhewiniaeth,
Wyt fodhus, a’th etifedhiaeth,
Duw a’u gwnaeth, a’u bendig Naf;
Cyfod, Geli, gwna ’borthi ’n bêr;
Yn dragwydhawl, hawl a holer,
Yd archer, Duw dyrchaf.

Currently Selected:

Psalmau 28: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in