YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 34

34
Joseia a'i Ddiwygiad
2 Bren. 22:1–2
1Wyth mlwydd oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri deg ac un o flynyddoedd yn Jerwsalem. 2Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybrau ei dad Dafydd yn gwbl ddiwyro. 3Yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ac yntau'n dal yn llanc ifanc, dechreuodd geisio Duw ei dad Dafydd. Yn y ddeuddegfed flwyddyn, dechreuodd buro Jwda a Jerwsalem o'r uchelfeydd, y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd. 4Gorchmynnodd ddinistrio allorau'r Baalim, a thorrodd i lawr yr allorau arogldarth a oedd uwch eu pen; drylliodd yn chwilfriw y pyst Asera, y cerfddelwau a'r delwau tawdd; malodd hwy'n yfflon a thaenu eu llwch hyd wyneb beddau y rhai a fu'n aberthu iddynt. 5Llosgodd esgyrn yr offeiriaid ar eu hallorau, a phurodd Jwda a Jerwsalem. 6Gwnaeth yr un peth yn ninasoedd Manasse, Effraim a Simeon, hyd at Nafftali, ac yn yr adfeilion o'u cwmpas, 7sef dryllio'r allorau a'r pyst Asera, a malu'r cerfluniau'n yfflon a dinistrio'r holl arogldarth trwy Israel gyfan; yna dychwelodd i Jerwsalem.
Darganfod Llyfr y Gyfraith
2 Bren. 22:3–20
8Yn y ddeunawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar ôl puro'r wlad a'r deml, anfonodd Saffan fab Asaleia, Maaseia rheolwr y ddinas a Joa fab Joahas y cofiadur i atgyweirio tŷ'r ARGLWYDD ei Dduw. 9Pan ddaethant at Hilceia yr archoffeiriad rhoesant iddo'r arian a ddygwyd i dŷ Dduw ac a gasglodd y Lefiaid, ceidwaid y drws, oddi wrth Manasse ac Effraim a gweddill Israel, ac o holl Jwda, Benjamin a thrigolion Jerwsalem. 10Yna rhoddwyd ef i'r goruchwylwyr oedd yn gofalu am dŷ'r ARGLWYDD; rhoddasant hwythau ef i'r gweithwyr oedd yn gweithio yn nhŷ'r ARGLWYDD ac yn atgyweirio'i agennau. 11Fe'i rhoesant hefyd i'r seiri a'r adeiladwyr i brynu cerrig nadd a choed ar gyfer distiau a thrawstiau i'r adeiladau yr oedd brenhinoedd Jwda wedi eu hesgeuluso. 12Yr oedd y dynion yn gweithio'n ddiwyd dan oruchwyliaeth y Lefiaid oedd yn eu hannog, sef Jahath ac Obadeia o feibion Merari, a Sechareia a Mesulam o feibion y Cohathiaid. Ac yr oedd y Lefiaid, pob un a fedrai ganu offeryn cerdd, 13hefyd yn gofalu am y cludwyr ac yn arolygu pob gweithiwr, beth bynnag oedd ei waith. Yr oedd rhai o'r Lefiaid hefyd yn ysgrifenyddion, swyddogion a phorthorion.
14Wrth iddynt ddwyn allan yr arian a ddygwyd i dŷ'r ARGLWYDD, darganfu Hilceia'r offeiriad lyfr cyfraith yr ARGLWYDD, a roddwyd trwy Moses. 15Dywedodd Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, “Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ'r ARGLWYDD.” A rhoddodd y llyfr i Saffan. 16Aeth Saffan â'r llyfr at y brenin a'r un pryd rhoi adroddiad iddo a dweud, “Y mae dy weision yn gwneud y cwbl a orchmynnwyd iddynt. 17Y maent wedi cyfrif yr arian oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD ac wedi ei drosglwyddo i'r ymgymerwyr a'r gweithwyr.” 18Ac ychwanegodd Saffan yr ysgrifennydd wrth y brenin, “Rhoddodd Hilceia'r offeiriad lyfr imi”; a darllenodd Saffan ef i'r brenin. 19Pan glywodd y brenin gynnwys y gyfraith, rhwygodd ei ddillad, 20a gorchmynnodd i Hilceia ac i Ahicam fab Saffan, ac i Abdon fab Nicha, ac i Saffan yr ysgrifennydd ac i Asaia gwas y brenin, 21“Ewch i ymgynghori â'r ARGLWYDD ar fy rhan, ac ar ran pawb sydd ar ôl yn Israel a Jwda, ynglŷn â chynnwys y llyfr a ddaeth i'r golwg; oherwydd y mae llid yr ARGLWYDD yn fawr, ac wedi ei ennyn yn ein herbyn am na chadwodd ein hynafiaid air yr ARGLWYDD na gwneud yr hyn a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn.”
22Yna aeth Hilceia, a'r rhai a orchmynnodd#34:22 Felly llawysgrifau. TM heba orchmynnodd. y brenin, at y broffwydes Hulda, gwraig Salum fab Ticfa, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd. Yr oedd hi'n byw yn yr Ail Barth yn Jerwsalem; ac wedi iddynt ddweud eu neges, 23dywedodd hi wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dywedwch wrth y gŵr a'ch anfonodd ataf, 24‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn dwyn drwg ar y lle hwn a'i drigolion, sef yr holl felltithion sy'n ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenwyd yng ngŵydd brenin Jwda, 25am eu bod wedi fy ngwrthod ac wedi arogldarthu i dduwiau eraill, i'm digio ym mhopeth a wnânt; y mae fy nig wedi ei ennyn yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir.’ 26Dyma a ddywedwch wrth frenin Jwda, a'ch anfonodd i ymgynghori â'r ARGLWYDD: ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, ynglŷn â'r geiriau a glywaist: 27Am i'th galon dyneru ac iti ymostwng o flaen Duw pan glywaist ei eiriau am y lle hwn a'i drigolion, am iti ymostwng ac wylo o'i flaen, a rhwygo dy ddillad, yr wyf finnau wedi gwrando, medd yr ARGLWYDD. 28Am hynny pan fyddi farw, dygir di i'r bedd mewn heddwch, ac ni wêl dy lygaid yr holl ddrwg a ddygaf ar y lle hwn a'i drigolion.’ ” Dygasant hwythau'r ateb i'r brenin.
Cyfamod Joseia
2 Bren. 23:1–20
29Yna anfonodd y brenin a chasglu ynghyd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem; 30ac aeth i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, a holl bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem gydag ef, a hefyd yr offeiriaid a'r Lefiaid a phawb o'r bobl, o'r lleiaf hyd y mwyaf. Yna darllenodd yn eu clyw holl gynnwys y llyfr cyfamod a gaed yn nhŷ'r ARGLWYDD. 31Safodd y brenin wrth ei golofn, a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion a'i dystiolaethau a'i ddeddfau â'i holl galon ac â'i holl enaid, ac i gyflawni geiriau'r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn. 32Gwnaeth i bawb oedd yn byw yn Jerwsalem a Benjamin gadw'r cyfamod. Yna cadwodd trigolion Jerwsalem gyfamod Duw, Duw eu hynafiaid. 33Felly tynnodd Joseia ymaith bob ffieidd-dra o'r holl diriogaeth oedd yn perthyn i'r Israeliaid, a gwnaeth i bawb oedd yn byw yn Israel wasanaethu'r ARGLWYDD eu Duw. Yn ei gyfnod ef ni throesant oddi ar ôl yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.

Currently Selected:

2 Cronicl 34: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy