YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 33

33
Manasse Brenin Jwda
2 Bren. 21:1–9, 17–18
1Deuddeng mlwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am hanner cant a phump o flynyddoedd yn Jerwsalem. 2Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra'r cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid. 3Ailadeiladodd yr uchelfeydd a ddinistriodd ei dad Heseceia, a chododd allorau i'r Baalim a gwneud delwau o Asera, ac ymgrymodd i holl lu'r nef a'u haddoli. 4Adeiladodd allorau yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani, “Yn Jerwsalem y bydd fy enw am byth.” 5Cododd allorau i holl lu'r nef yn nau gyntedd y deml. 6Ef oedd yr un a barodd i'w feibion fynd trwy dân yn nyffryn Ben-hinnom, arferodd hudoliaeth, swynion a chyfaredd, ac ymhél ag ysbrydion a dewiniaeth. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio. 7Gwnaeth ddelw gerfiedig a'i gosod yn y deml y dywedodd Duw amdani wrth Ddafydd a'i fab Solomon, “Yn y tŷ hwn ac yn Jerwsalem, y lle a ddewisais allan o holl lwythau Israel, yr wyf am osod fy enw'n dragwyddol. 8Ni throf Israel allan mwyach o'r tir a roddais i'ch hynafiaid, ond iddynt ofalu gwneud y cwbl a orchmynnais iddynt yn y gyfraith, y deddfau a'r cyfreithiau a gawsant gan Moses.” 9Ond arweiniodd Manasse Jwda a thrigolion Jerwsalem ar gyfeiliorn, i wneud yn waeth na'r cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
10Er i'r ARGLWYDD lefaru wrth Manasse a'i bobl, ni wrandawsant. 11Yna anfonodd yr ARGLWYDD swyddogion byddin brenin Asyria yn eu herbyn; daliasant hwy Manasse â bachau a'i roi mewn gefynnau pres a mynd ag ef i Fabilon. 12Yn ei gyfyngder gweddïodd Manasse ar yr ARGLWYDD ei Dduw, a'i ddarostwng ei hun o flaen Duw ei hynafiaid. 13Pan weddïodd arno, trugarhaodd Duw wrtho; gwrandawodd ar ei weddi a dod ag ef yn ôl i Jerwsalem i'w frenhiniaeth. Yna gwybu Manasse mai'r ARGLWYDD oedd Dduw.
14Ar ôl hyn adeiladodd fur allanol i Ddinas Dafydd yn y dyffryn i'r gorllewin o Gihon hyd at fynedfa Porth y Pysgod, ac amgylchu Offel a'i wneud yn uchel iawn. Gosododd hefyd swyddogion milwrol yn holl ddinasoedd caerog Jwda. 15Tynnodd ymaith y duwiau dieithr a'r ddelw o dŷ'r ARGLWYDD, a'r holl allorau a adeiladodd ym mynydd tŷ'r ARGLWYDD ac yn Jerwsalem, a'u taflu allan o'r ddinas. 16Atgyweiriodd allor yr ARGLWYDD, ac offrymodd arni heddoffrymau ac offrymau diolch a gorchymyn Jwda i wasanaethu'r ARGLWYDD, Duw Israel. 17Er hynny, yr oedd y bobl yn dal i aberthu ar yr uchelfeydd, ond i'r ARGLWYDD eu Duw yn unig.
18Am weddill hanes Manasse, ei weddi ar ei Dduw, a geiriau'r gweledyddion a fu'n siarad ag ef yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, y maent yng nghronicl brenhinoedd Israel. 19Y mae ei weddi a'r ateb ffafriol a gafodd, a hanes ei holl bechod a'i gamwedd, a'r lleoedd yr adeiladodd uchelfeydd a gosod pyst Asera a cherfddelwau ynddynt cyn iddo ymostwng, wedi eu hysgrifennu yng nghronicl y gweledyddion. 20A bu farw Manasse, a'i gladdu yn ei balas; a daeth ei fab Amon yn frenin yn ei le.
Amon Brenin Jwda
2 Bren. 21:19–26
21Dwy ar hugain oed oedd Amon pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddwy flynedd yn Jerwsalem. 22Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei dad Manasse. Aberthodd Amon i'r holl gerfddelwau a wnaeth ei dad, ac fe'u gwasanaethodd. 23Ond nid ymostyngodd o flaen yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Manasse; yr oedd ef, Amon, yn troseddu'n waeth. 24Cynllwynodd ei weision yn ei erbyn, a'i ladd yn ei dŷ; 25ond yna, lladdwyd pawb a fu'n cynllwyn yn erbyn y Brenin Amon gan bobl y wlad, a gwnaethant ei fab Joseia yn frenin yn ei le.

Currently Selected:

2 Cronicl 33: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy