YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 6

6
PEN. VI.
Am eluseni, 5 gweddi, 16 ympryd, 25 gwahardd gofalu am bethau bydol.
1Gochelwch rhag gwneuthur eich elusen yng-ŵydd dynion er mwyn cael eich gweled ganddynt, os amgen, ni chewch dâl gan eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd.
2 # Rom.12.8. Am hynny pan wnelech elusen, na phâr ganu vdcorn o’th flaen, fel y gwna’r rhagrithwŷr yn y synagogau, ac ar yr heolydd iw moli hwy gan ddynion, yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr.
3Eithr pan wnelech ti elusen, na ŵyped dy law asswy pa beth a wna dy law ddehau,
4Fel y byddo dy elusen yn ddirgel, a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.
5A phan weddiech, na fydd fel y rhagrithwŷr, canys hwy a garant sefyll a gweddio yn y Synagogau, ac yng-honglau yr heolydd, er mwyn cael eu gweled gan ddynion: yn wîr meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr,
6Tithe pan weddiech dos i’th stafell, ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dâd yr hwn [sydd] yn ddirgel, a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel a’th obrwya di yn yr amlwg.
7Hefyd pan weddioch na fyddwch siaradus fel y cenhedloedd, canys y maent hwy yn tybied y gwrandewir hwy am eu haml eiriau.
8Am hynny na thybygwch iddynt hwy, canys gŵyr eich Tâd pa bethau sy arnoch eu heisieu, cyn ceisio o honoch ganddo.
9Am hynny gweddiwch chwi fel hyn, #Luc.11.2.Ein tâd yr hwn ydwyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw.
10Deled dy deyrnas, bydded dy ewyllys ar y ddaear, megis yn y nefoedd.
11Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol.
12A maddeu di i ni ein dyledion fel y maddeuom ninnau i’n dyled-wŷr.
13Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwaret ni #Math.13.19.rhag drwg: canys eiddot ti yw’r deyrnas, a’r nerth, a’r gogoniāt, yn oes oesoedd, Amē.
14O #Mar.11.25. Eccles. 28.2blegit os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tâd nefol a faddeu hefyd i chwithau.
15Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tâd i chwithau eich camweddau.
16 # 6.16-21 ☞ Yr Efengyl y dydd cyntaf o’r grawys. Hefyd pan ymprydioch, na fyddwch wyneb sarric fel rhagrith-wŷr: canys anffurfio eu hwynebau y byddant, er ymddangos i ddynion yn ymprydio, yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr.
17Eithr pan ymprydiech di, eneinia dy benn, a golch dy wyneb,
18Rhag ymddangos i ddynion fod yn ymprydio, onid i’th Dâd ’r hwn sydd yn y dirgel; a’th Dâd yr hwn a wêl yn ddirgel a dâl i ti yn yr ālwg.
19Na chesclwch dryssor i chwi ar y ddaiar, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd, ac yn lladratta.
20 # Luc.12.33. 1 timoth.6.19. Eithr cesclwch i chwi dryssorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni’s cloddia’r lladron trwodd, ac ni’s lladratânt.
21Canys lle y mae eich tryssor, yno y bydd eich calon hefyd.
22 # Luc.11.34 Goleuni’r corph yw’r llygad, am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorph fydd yn oleu.
23Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorph fydd yn dywyll, am hynny os bydd y goleuni yr hwn sydd ynot yn dywyllwch, pa faint [fydd] y tywyllwch?
24 # 6.24-34 ☞ Yr Efengyl y pympthecfed Sul wedi ’r Drindod # Luc.16.13. Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd, canys naill ai efe a gasâ’r naill, ac a gâr y llall, ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a esceulusa’r llall: ni ellwch wasanaethu Duw a golud-bydol.
25 # Luc.12.22. phil.4.6. 1.timoth.6.8. 1.pet.5.7. psal.55.22.Am hynny meddaf i chwi, na ofelwch am eich bywyd pa beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch: nac am eich cyrph, pa beth a wiscoch: onid yw’r bywyd yn fwy nâ’r bwyd? a’r corph yn fwy nâ’r dillad?
26Edrychwch ar adar y nefoedd, o blegit nid ydynt nac yn medi, nac yn cywain i’r yscuboriau, ac y mae eich Tâd nefol yn eu porthi hwynt, onid ydych chwi yn rhagori arnynt hwy?
27A phwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu vn cufydd at ei faint?
28A pha ham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? dyscwch pa wedd y mae lili’r maes yn tyfu: nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu.
29Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na bu Solomon yn ei holl ogoniant mor drwsiadus ag vn o’r rhai hyn.
30Am hynny os dillada Duw lysieun y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru a fwrir i’r ffwrn, oni [ddillada efe] chwi yn fwy o lawer, ô rai o ychydig ffydd?
31Am hynny na ofelwch gan ddywedyd, beth a fwytawn? neu beth a yfwn? neu â pha beth yr ymddilladwn?
32Canys am y pethau hyn holl yr ymofyn y cenhedloedd, o blegit eich Tâd nefol a ŵyr fod arnoch eisieu yr holl bethau hyn.
33Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw ai gyfiawnder, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn chawneg.
34Na ofelwch gan hynny dros drannoeth, canys trannoeth a ofala trosto ei hunan, digon i’r diwrnod ei ddryganiaeth ei hun.

Currently Selected:

Mathew 6: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in