YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 15

15
PEN. XV.
Crist yn escusodi ei ddyscyblion am fwyta y tywys yd ar y Sabboth gan ddangos rhagrith y Pharisæaid, 15 A chan egluro iw ddiscyblion nad yr hyn sydd yn myned i’r corph sydd yn halogi y corph, 32 Ac yn porthi llawer â phedair torth o fara.
1Yna #Marc.7.1yr scrifennyddion a’r Pharisæaid y rhai oeddynt o Ierusalem a ddaethant at yr Iesu gan ddywedyd,
2Pa ham y mae dy ddiscyblion di yn torri traddodiadau yr henafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwyttânt fara.
3Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, a pha ham yr ydych chwi yn torri gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi?
4Canys Duw a orchymynnodd, gan ddywedyd, #Exod.20.12. Deut.5.16. Ephes.6.2. Exod 21.17.|EXO 21:17. Leuit.20.9.|LEV 20:9. Prou.20.20.Anrhydedda dy dâd a’th fam: a’r hwn a felldithio dâd neu fam, lladder ef yn farw.
5Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, pwy bynnac a ddywed wrth dâd neu fam, drwy y rhodd [a offrymmir] gennifi y daw llesâd i ti,
6Er nas anrhydedda efe ei dâd neu ei fam, [di-fai fydd:] ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ofer trwy eich traddodiad eich hun.
7Oh ragrith-wŷr, da y prophwydodd Esaias am danoch chwi, gan ddywedyd,
8 # Esai.29.13. Nesau y mae y bobl hyn attaf â’i genau, a’m anrhydeddu â’u gwefusau, a’u calon sydd bell oddiwrthif.
9Eithr ofer i’m hanrhydeddant i gan ddyscu gorchymynnion dynion yn ddysceidiaeth.
10Yna y galwodd efe y dyrfa atto gan ddywedyd wrthynt, clywch a dehellwch.
11Nid yr hyn sydd yn myned i’r genau, sydd yn halogi dŷn, ond yr hyn sydd yn #Mar.7.18.dyfod allan o’r genau, hynny sydd yn halogi dŷn.
12Yna y daeth ei ddiscyblion, ac a ddywedasant wrtho, oni ŵyddosti rwystro y Pharisæaid wrth glywed yr ymadrodd hyn?
13Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd, #Ioan.15.2.pob planhigin a’r ni’s plannodd fy Nhâd nefol a ddiwreiddir.
14Gadewch iddynt, #Luc.6.39.tywysogion deillion i’r deillion ydynt, ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffôs.
15 # Marc.7.17. Yna yr attebodd Petr ac a ddywedodd wrtho, eglura i ni y ddammeg hon.
16Yna y dywedodd yr Iesu, a ydych chwi etto heb ddeall?
17Onid ydych chwi yn deall etto fôd yr hyn oll sydd yn myned i mewn i’r genau, yn cilio i’r bola, ac y bwrir ef allan i’r gaudŷ?
18Eithr y pethau a ddeuant allan o’r genau sy yn dyfod o’r galon, a hwynt hwy a halogant ddŷn.
19 # Gen.6.5.|GEN 6:5. Marc.7.21. Canys o’r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod, llofruddiaeth, tor-priodas, godinebu, lledrat, cam destiolaeth, cabledd.
20Dymma y pethau sy yn halogi dŷn, eithr bwytta â dwylo heb olchi ni haloga ddŷn.
21 # 15.21-28 ☞ Yr Efengyl yr ail Sul o’r grawys. A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.
22Ac wele, #Mar.7.25.gwraig o Canaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, trugarhâ wrthif, ô Arglwydd fâb Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythrael.
23Eithr nid attebodd efe iddi vn gair, yna y daeth ei ddiscyblion atto, ac yr attolygâsant iddo, gan ddywedyd, gollwng hi ymmaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hôl.
24Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, #Math.10.6.ni’m danfonwyd onid at ddefaid colledic tŷ Israel.
25Er hynny hi a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, ô Arglwydd cymmorth fi.
26Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, nid da cymmeryd bara y plāt ai fwrw i’r cenawon cŵn.
27Hithe a ddywedodd, gwîr yw ô Arglwydd, er hynny y mae’r cenawō cŵn yn bwytta’r briwsion a syrth oddi ar fwrdd eu harglwyddi.
28Yna yr attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, ha wraig mawr yw dy ffydd, bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio: a’i merch a iachawyd yn yr awr honno.
29A’r #Mar.7.31.Iesu gan fyned oddi yno, a ddaeth ger llaw môr Galilæa, ac efe a escynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno.
30A daeth atto dorfeudd mawrion, #Esa.35.5.a chanddynt gloffion, deillion, mudion, efryddion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt.
31Fel y rhyfeddodd y dyrfa, wrth weled y mudion yn dywedyd, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: ac hwy a ogoneddâsant Dduw yr Israel.
32 # Marc.8.1. Yna y galwodd yr Iesu ei ddiscyblion atto, ac a ddywedodd, yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa, am iddynt aros gyd â mi er ys tri-diau bellach, ac nad oes ganddynt ddim i’w fwytta: a’u gollwng hwy ar eu cythlwng ni’s gwnaf, rhag eu llewygu ar y ffordd.
33A’i ddiscyblion a ddywedasant wrtho, o ba le y caem ni gymmaint o fara yn y dyffaethwch, ag y diwellid tyrfa gymmaint?
34A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, pa sawl torth sydd gennych? a hwy a ddywedâsant, saith, ac ychydig byscod bychein.
35Yna y gorchymynnodd efe i’r dyrfa eistedd ar y ddaiar.
36A chan gymmeryd y saith dorth, a’r pyscod, a diolch, efe a’u torrodd, ac a’u rhoes iw ddiscyblion, a’r discyblion i’r dyrfa.
37Ac hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon: ac a godasant o’r briwfwyd yr hwn oedd yng-weddill saith fascedaid.
38A’r rhai a fuasent yn bwytta oeddynt bedeir-mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant.
39Yna wedi iddo ollwng y dyrfa i ffordd, efe a aeth i long, ac a ddaeth i dueddau Magdala.

Currently Selected:

Mathew 15: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in