YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 14

14
PEN. XIIII.
1 Tyb Herod am Grist. 3 Carchar Ioan a’i ddihenydd. 23 Iesu yn porthi pum mil o bobl â phum torth, 23 Ac yn rhodio ar y môr.
1Y #Mar.6.14.|MRK 6:14. Luc.9.7.Pryd hynny y clybu Herod y Tetrarch sôn am yr Iesu,
2Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, hwn yw Ioan fedyddiwr, efe a gyfodes o feirw, ac am hynny y mae gwrthiau yn gweithio ynddo ef.
3Canys #Marc.6.17. Luc.3.19.Herod a ddaliase Ioan, ac a’i rhwymase, ac a’i dodase yng-harchar o blegit Herodias gwraig Philip ei frawd ef.
4Canys Ioan a ddywedodd wrtho, #Leuit.18.16.|LEV 18:16 & 20.21.nid cyfraithlawn i ti ei chael hi.
5Ac phan oedd yn ei frŷd ef ei roddi ef i farwolaeth, efe a ofnodd y bobl, canys #Math.21.26.hwy a’i cymmerent ef fel prophwyd.
6Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bronn hwy, ac a ryngodd fodd Herod.
7Fel yr addawodd efe trwy lw y rhodde efe iddi beth bynnac a geisie hi.
8Ac y hi wedi ei dyscu gan ei mam, a ddywedodd, dyro i mi ymma ben Ioan fedyddiwr mewn dyscl.
9A’r brenin a fu drîst ganddo, eithr o herwydd y llw, a’r rhai a eisteddent gyd ag ef wrth y ford, efe a orchymmynodd i roi ef [iddi hi.]
10Ac efe a anfonodd gennad, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar.
11A ducpwyd ei ben ef mewn dyscl, ac a’i rhoddwyd i’r llangces: ac hi a’i dug iw mam.
12A’i ddiscyblion ef a ddaethant, ac a gymerâsant ei gorph ef, ac a’i claddâsant, ac a aethant, ac a ddywedâsant i’r Iesu.
13A phan glybu’r Iesu, #Mar.6.32.|MRK 6:32. Luc.9.10.efe a giliodd oddi yno mewn llong i anghyfannedd-le o’r nailltu, ac wedi clywed o’r dyrfa, hwy a’i dilynasant ef ar draed allan o’r dinasoedd.
14A’r Iesu a aeth ymmaith, ac a welodd fintai fawr, ac a dosturiodd wrthynt, ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.
15Ac #Mar.6.35.|MRK 6:35. Luc.9.12. Ioan.6.5.wedi ei myned hi yn hwyr y daeth ei ddiscyblion atto, gan ddywedyd: y lle sydd anghyfannedd, a’r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymmaith i fyned i’r dinasoedd i brynu iddynt fwyd.
16A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, nid rhaid iddynt fyned ymmaith: rhoddwch chwi iddynt beth iw fwytta.
17Yna y dywedasant wrtho, nid oes gennym ymma onid pum torth, a dau byscodyn.
18Ac efe a ddywedodd, dygwch hwynt ymma i mi.
19Ac efe a orchymynnodd i’r dorf eistedd ar y gwellt glâs, ac a gymmerth y pum torth, a’r ddau byscodyn, ac a edrychodd i fynu tu a’r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd, ac a roddes y torthau iw ddiscyblion, a’r discyblion i’r dyrfa.
20A hwynt oll a fwytâsant, ac a gawsant eu digon, ac a godâsant o’r briwfwyd yr hwn oedd yng-weddill ddeuddec bascedaid.
21A’r rhai a fwytâsent oeddynt yng-hylch pum mîl o wŷr heb law gwragedd a phlant.
22Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddiscyblion i fyned i’r llong, ac i fyned i’r lan arall o’i flaen ef, tra y gollynge efe y dyrfa ymmaith.
23Ac wedi iddo ddanfon y dyrfa ymmaith, efe a escynnodd i’r mynydd wrtho ei hun i weddio: #Mar.6.4.|MRK 6:4. Ioan.6.16.ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn vnic.
24A’r llong oedd bellach yng-hanol y môr, ac a drallodit gan donnau, canys gwynt gwrthwyneb ydoedd.
25Ac yn y bedwaredd ŵylfa o’r nos yr aeth yr Iesu attynt, gan rodio ar y môr.
26A phan welodd y discyblion ef yn rhodio ar y môr, y dychrynâsant hwy, gan ddywedyd, drychiolaeth ydyw, ac hwy a waeddasant rhag ofn.
27Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, cymmerwch gyssur, myfi ydwyf, nac ofnwch.
28Yna yr attebodd Petr ef, ac a ddywedodd, ô Arglwydd, os ty di yw, arch i mi ddyfod attat ar y dwfr.
29Ac efe a ddywedodd, tyret: ac wedi descyn o Petr o’r llong, efe a rodiodd ar y dwfr, i ddyfod at yr Iesu.
30Ond pan welodd efe wynt cadarn, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.
31Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, ty di o ychydig ffydd, pa ham y petrusaist?
32Ac er cynted yr aethant i’r llong y peidiodd y gwynt.
33Yna y daeth y rhai oeddynt yn y llong #Marc 6.54.ac a’i haddolasant ef, gan ddywedyd, yn wîr Mâb Duw ydwyt ti.
34Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dîr Genezareth.
35A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i’r wlâd honno o amgylch ogylch, ac a ddugasant atto y rhai oll oeddynt mewn anhwyl,
36Ac a attolygasant iddo gael cyffwrdd yn vnic ag ymyl ei wisc ef: a chynifer ac a gyffyrddodd â hi, a iachauwyd.

Currently Selected:

Mathew 14: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in