YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 44

44
PEN. XLIIII.
2 Ioseph yn peri gosod cwppan arian yn sach Beniamin 15 Efe yn eu ceryddu hwynt am eu lladrad. 33 Iuda’n ei gynnig ei hun yn wâs i Ioseph, yn lle Beniamin.
1Yna y gorchymynnodd i’r hwn [oedd olygwr] ar ei dŷ ef gan ddywedyd: llanw sachau y gwyr o fwyd, cymmaint ac a allant ddwyn, a gosod arian pob vn yng-enau ei sach.
2A gosot fyng-hwppan fy hun [sef] y cwpan arian yng-enau sach yr ieuangaf, gyd ag arian ei ŷd ef: yntef a wnaeth ar ôl gair Ioseph yr hwn a ddywedase efe.
3Y borau a oleuodd, ar gwyr a ollyngwyd ymmaith, hwynt, ai hassynnod.
4Hwythau a aethant allan o’r ddinas [ac] nid aethant nepell, pan ddywedodd Ioseph wrth yr hwn [oedd olygwr] ar ei dŷ ef: cyfot [a] dilyn ar ol y gwyr, fel y goddiweddech hwynt a dywet wrthynt, pa ham y talasoch ddrŵg am dda?
5Onid dymma [y cwppan] yr hwn yr yfe fy arglwydd ynddo, a chan brophwydo y prophwyde ef wrtho? drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.
6Yntef ai goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.
7Y rhai a ddywedasant wrtho yntef, pa ham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ado Duw i’th weision di wneuthur y cyfryw beth.
8Wele dygasom attat ti ailwaith o wlâd Canaan yr arian yr hwn a gawson yng-enau ein sachau: pa fodd gan hynny y ladrattaem arian, neu aur o dŷ dy arglwydd di?
9Yr hwn o’th weision di y ceffir [y cwppan] gyd ag ef, bydded hwnnw farw: a ninnau hefyd a fyddwn weision i’m harglwydd.
10Yntef a ddywedodd felly [y bydd] hyn yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir [y cwppan] gyd ag ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddiangol.
11Hwythau a frysiasant, ac a ddescynnasant bob vn ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffettan.
12Yntef a chwiliodd: ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd, a’r cwppan a gafwyd yn sach Beniamin.
13Yna y rhwygasant eu dillad, ac a bynniasant pawb ar ei assyn ac a ddychwelasant i’r ddinas.
14Ac Iuda ai frodyr i dŷ Ioseph, ac efe etto yno: ac a syrthiasāt i lawr ger ei fron ef.
15Yna y dywedodd Ioseph wrthynt pa waith [yw] hwn yr hwn a wnaethoch? oni wyddech, mai gan brophwydo y prophwyde gwr yr hwn [a fydde] fel myfi?
16Yna y dywedodd Iuda pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd Duw anwiredd dy weision: wele ni yn weision i’m harglwydd, ie nyni a’r hwn y cafwyd y cwppan gyd yn ei law ef hefyd.
17Yntef a ddywedodd na ado [Duw] i mi wneuthur hyn: y gŵr yr hwn y cafwyd y cwppan yn ei law, efe fydd wâs i mi: ewch chwithau i fyny mewn heddwch at eich tad.
18Yna’r aeth Iuda atto ef, ac a ddywedodd [gwrando] arnaf fy arglwydd, caffed attolwg dy wâs ddywedyd gair yng-hlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy wâs, o herwydd yr ydwyt ti megis Pharao.
19Fy arglwydd a ymmofynnodd ai weision gan ddywedyd: a oes i chwi dâd neu frawd.
20Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, y mae i ni dâd yn hen-wr, a phlentyn ei henaint ef [sydd] ieangc, ai frawd a fu farw, felly y gadawyd ef ei hunan oi fam ef: ai dâd ai hoffa ef.
21Tithe a ddywedaist wrth dy weision dygwch ef i wared attaf fi fel y gosodwyf fy llygaid arno ef.
22Yna y dywedasom wrth fy arglwydd, y llangc ni ddichon ymadel ai dâd: o blegit os ymedu efe ai dâd marw fydd efe.
23Tithe a ddywedaist wrth dy weision, #Genes.43.3.oni ddaw eich brawd ieuangaf i wared gyd a chwi, nac edrychwch [yn] fy wyneb mwy.
24Bu hefyd wedi ein myned ni i fynu at dy was fy nhâd inne, pan fynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd,
25A dywedyd o’n tâd ewch eilwaith, prynnwch i’m ychydic lyniaeth.
26Ddywed o honom ninne, nis gallwn fyned i wared: os bydd ein brawd ieuangaf gyd a ni, ny ni a awn i wared: o blegit ni allwn edrych [yn] wyneb y gŵr, a’n brawd ieuangaf heb ei [fod] gyd a ni.
27Yna y dywedodd dy wâs fy nhad, wrthym ni: chwi a wyddoch mai dau a blantodd fyng-wraig i mi:
28Ac vn a aeth allan oddi wrthif fi, minneu a ddywedais #Gen.37.33.yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef, ac nis gwelais ef hyd yn hyn.
29Os cymmerwch hefyd hwn ymmaith o’m golwg, a digwyddo marwolaeth iddo ef, yna y gwnewch i’m penllwydni ddescyn mewn gofid i fedd.
30Bellach gan hynny pan ddelwyf at dy was fy nhâd, oni [bydd] y llangc gyd a mi (gan fod ei hoedl ef yng-lŷn wrth ei hoedl yntef. )
31Yna pan welo efe na [ddaeth] y llangc, marw fydd efe: a’th weision a barant i benwynnedd dy was di ein tâd ni ddescyn mewn gofid i fedd.
32Ar #Gene.43.9.feichniaeth y cafodd dy was y llangc oddi wrth fy nhâd gan ddywedyd: Onis dygaf ef attat ti, yna byddaf euog yn erbyn fy nhâd bŷth.
33Gan hynny weithian attolwg arhôsed dŷ wâs am y llangc, yn wâs i’m harglwydd, ac aed y llangc i fynu gyd ai frodyr.
34O blegit pa fodd yr âf i fynu at fy nhâd, a’r llangc heb [fod] gyd a mi? rhac i mi weled y gofid yr hwn a gaiff fy nhad.

Currently Selected:

Genesis 44: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in