YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 43

43
PEN. XLIII.
13 Iacob yn gollwng Beniamin gyd ai frodyr. 23 Simeon yn myned allan oi garchar. 30 Ioseph yn tynnu o’r nailldu ac yn wylo. 32 brodyr Ioseph yn cáffel gwledd fawr ganddo ef.
1A’r newyn [oedd] drwm yn y wlâd.
2Felly y bu pan orphennasant fwytta’r ŷd a ddygasent o’r Aipht ddywedyd oi tâd wrthynt hwy, ewch eilwaith, prynnwch i ni ychydic lyniaeth.
3Yna Iuda a attebodd, gan ddywedyd, gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr ny ni, gan ddywedyd: #Genes.42.20.nac edrychwch [yn] fy wyneb hêb eich brawd gyd a chwi.
4Os wyt ti yn anfon ein brawd gyd a ni, ni a awn i wared, ac a brynnwn i ti lyniaeth.
5Ond os ti nid anfoni, nid awn i wared, o blegit y gŵr a ddywedodd wrthym ni, #Genes.42.20.nac edrychwch [yn] fy wyneb heb eich brawd gyd a chwi.
6Yna Israel a ddywedodd, pa ham y drygasoch fi, gan fynegu i’r gŵr [fod] i chwi etto frawd.
7Hwythau a attebasant, gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr am danom ni, ac am ein cenhedlaeth ni gan ddywedyd: ai byw eich tâd chwi etto? a oes frawd i chwi? ninne a ddywedasom wrtho ef, ar ol y geiriau hynny: a allem ni gan wybôd, wybôd y dywede efe? dygwch eich brawd i wared.
8Iuda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, gollwng y bachgen gŷd a mi, ninneu a gyfodwn, ac a awn ymmaith, fel y byddom byw, ac na byddom feirw: yn gystal nyni, a thithe, a’n plant ni.
9Myfi a feichniaf [am dano] ef, o’m llaw i y gofynni ef, #Genes.44.32.onis dygaf ef attat ti, ai osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog i’th erbyn byth.
10Canys pe na bussem hwyrfrydic daethem eilchwael ymma ddwy waith bellach.
11Yna Israel eu tâd hwynt a ddywedodd wrthynt, Os felly, gwnewch hyn: cymmerwch o ffrwythau canmoladwy y wlad yn eich llestri a dygwch yn anrheg i’r gŵr, ychydic balm, ac ychydic fêl, llysiau, a myrh, cnau, ac almonau.
12Cymerwch hefyd ddau cymmeint o arian gyd a chwi, a dygwch eilwaith gyd a chwi yr arian, y rhai a roddwyd trachefn yng-enau eich sachau chwi: onid odid amryfusedd [fu] hynny.
13Hefyd cymmerwch eich brawd, a chyfodwch ewch eilwaith at y gŵr.
14A Duw holl alluog a roddo i chwi drugaredd ger bron y gwr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Beniamin: minne fel i’m diblantwyd a ddiblentir.
15Felly y gwyr a gymmerasant yr anrheg honno, a chymmerasant arian yn ddwbl yn eu llaw hwynt, a Beniamin [hefyd] a chyfodasant, ac aethant i wared i’r Aipht, a safasant, ger bron Ioseph.
16Yna Ioseph a ganfu Beniamin gyd a hwynt, ac a ddywedodd wrth yr hwn [oedd olygwr] ar ei dŷ ef, dŵg y gwyr i’r tŷ a lladd laddfa, ac arlwya: o blegit y gwyr a gânt fwytta gyd a’m fi ar hanner dydd.
17A’r gŵr a wnaeth fel y dywedodd Ioseph: o blegit y gŵr a ddûg y dynion i dŷ Ioseph.
18A’r dynion a ofnasant, pan ddycpwyd hwynt i dŷ Ioseph, ac a ddywedasant, o blegit yr arian (yrhai a roddwyd eilwaith yn êin sachau ni yn y dechreuad) y dycpwyd nyni i mewn: i ymdreiglo arnom ni ac i ruthro inni, ac i’n cymmeryd ni yn gaethion, a’n hassynnod hefyd.
19Yna y nesasant at y gŵr ’r hwn [oedd olygwr] ar dŷ Ioseph, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ.
20Ac a ddywedasant [gwrando] arnaf fy arglwydd, gan ddescyn y descynnasom yn y dechreuad #Genes.42.3.i brynnu llyniaeth.
21A bu pan ddaethom i’r llettŷ, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob vn ym mîn ei sach ef: ein harian ni [meddaf] yn ei bwys, ond ni ai dygasom eilwaith yn ein llaw.
22Dygasom hefyd arian arall i wared yn ein llaw, i brynnu llyniaeth: nis gwyddom pwy a ossododd ein harian ni yn ein ffettanau.
23Yntef a ddywedodd heddwch iwch: nac ofnwch, eich Duw chwi, a Duw eich tâd chwi, a roddes i chwi dresor yn eich sachau: daeth eich arian chwi attafi, ac efe a ddûg Simeon allan attynt hwy.
24Felly y gŵr a ddûg y dynion i dŷ Ioseph, ac a roddes ddwfr fel y golchent eu traed, ac a roddes ebran iw hassynod hwynt.
25Hwythau a ddarparasant eu hanrheg, erbyn dyfod Ioseph ar hanner dydd: o blegit clywsent mai yno y bwyttaent fwyd.
26Pan ddaeth Ioseph i’r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg yr hon [oedd] ganddynt i’r tŷ, ac a ymgrymmasant iddo ef hyd lawr.
27Yntef a ofynnodd iddynt am eu hiechyd hwynt, ac a ddywedodd, ai iach yr hen-wr eich tâd chwi, ’r hwn y sonniasoch [am dano’:] ai byw efe etto?
28Hwythau a ddywedasant iach yw dy wâs, ein tâd ni, byw [yw] efe etto: yna yr ymgrymmasant, ac yr ymostyngasant.
29Yntef a dderchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Beniamin, mâb ei fam ei hun, ac a ddywedodd: ai dymma eich brawd iangaf chwi am yr hwn y dywedasoch wrthif fi? yna y dywedodd, Duw a roddo grâs i ti fy mâb.
30Ar hynny Ioseph a fryssiodd, (o blegit cynhessase ei ymyscaroedd ef tu ag at ei frawd) ac a geisiodd [le] i wylo, ac a aeth i mewn i’r stafell, ac a wylodd yno.
31Gwedi hynny [efe] a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymattaliodd ei hun, ac a ddywedodd gosodwch fwyd.
32Hwythau a osodasant [fwyd] iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun ac i’r Aiphtiaid y rhai oeddynt yn bwyta gyd ag ef wrthynt eu hunain: o blegit ni alle’r Aiphtiaid fwytta bwyd gyd a’r Hebreaid, o herwydd ffieidd-dra oedd hynny gan yr Aifftiaid.
33Yna’r eisteddasant ger ei fron ef, y cyntafanedic, yn ol ei gyntafanedigaeth: a’r ieuangaf ar ol ei ieuenctyd ef, a rhyfeddodd y gwŷr bob vn wrth ei gilydd.
34Yntef a gymmerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy, a mwy ydoedd saig Beniamin o bum rhan nai seigiau hwynt oll: felly ’r yfasant, ac y gwleddasant gyd ag ef.

Currently Selected:

Genesis 43: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in