YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 18

18
PEN. XVIII.
Abraham yn derbyn tri angel iw dy. 10. Addewid o Isaac. 12. Sara’n ammeu’r addewid. 18. Addewid o Grist. 21. Duw yn rhybuddio Abraham am ddinistr Sodoma. 23. Ac Abraham yn eiriol trostynt.
1A’r Arglwydd a ymddangossodd iddo ef yng-wastadedd Mamre: ac efe yn eistedd [wrth] ddrŵs y babell, yng-wrês y dydd.
2Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele dry-ŵyr yn sefyll ger ei fron, pan welodd, yna efe a redodd iw cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd tua ar ddaiar.
3Ac efe a ddywedodd fy arglwydd, os cefais yn awr ffafor yn dy olwg di, na ddos heibio oddi wrth dy wâs.
4Cymmerer attolwg ychydic ddwfr, a golchwch eich traed, a gorphwysswch dann y prenn hwnn,
5Ac mi a ddygaf dammed o fara fel y cryfhaoch eich calon, wedi hynny y cewch fyned ymmaith, o herwydd i hynny y daethoch heb law eich gwâs: a hwynt a ddywedasant, gwna felly fel y dywedaist:
6Ac Abraham a fryssiodd i’r babell at Sara, ac a ddywedodd, paratoa di ar frŷs dair phioled o flawd peillied, telina a gwna yn deissēnau.
7Ac Abraham a rêdodd at y gwarthec, ac a gymmerodd lô tŷner, a dâ, ac ai rhoddodd at y llangc, yr hwn a fryssiodd iw baratoi ef.
8Ac efe a gymmerodd ymenyn, a llaeth, a’r llô yr hwn a baratoase efe, ac a roddes oi blaen hwynt, ac efe a safodd gyd a hwynt tann y prēn, a hwynt a fwytawsant.
9Yna y dywedasant wrtho ef, mae Sara dy wraig? ac efe a ddywedodd wele [hi] yn y Babell.
10Ac [un] a ddywedodd, #Genes.17.19.|GEN 17:19. Genes.21.2.|GEN 21:2. Rhuf.9.9.gan ddychwelyd y dychwelaf attat yng-hylch amser bywiolaeth, ac wele fab i Sara dy wraig, a Sara oedd yn clywed [wrth] ddrws y babell, a hwnnw [oedd] oi ôl ef.
11Abraham hefyd, a Sara [oeddynt] hên, wedi myned mewn oedran [a] pheidiase fod i Sara yn ôl arfer gwragedd.
12Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gā ddywedyd: ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch #1 Pet.3.6.a’m harglwydd yn hên [hefyd?]
13Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham, pa ham y chwarddodd Sara fel hynn, gan ddywedydd, a blantaf yn wir, wedi fy heneiddio?
14A fydd dim yn anhawdd i’r Arglwydd? ar yr amser nodedic y dychwelaf attat, yng-hylch amser bywiolaeth, a mâb [fydd] i Sara.
15A Sara a wadodd, gan ddywedyd: ni chwerddais, o herwydd hi a ofnodd: yntef a ddywedodd nid [gwir,] oblegit ti a chwerddaist.
16A’r gwŷr a godasāt oddi yno, ac a edrychasant tua Sodoma, ac Abraham a aeth gyd â hwynt, iw hanfon hwynt.
17A’r Arglwydd a ddywedodd, a gelaf fi oddi wrth Abraham yr hyn a wnaf fi?
18Canys Abraham gan fod a fydd yn gēhedlaeth fawr, a chref, #Genes.12.2.|GEN 12:2. Genes.22.17ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaiar.
19Am i mi ei adnabod ef [ni chelaf] fel y gorchymynno efe iw feibion, ac iw dylwyth ar ei ôl ef gadw o honynt ffordd yr Arglwydd gan wneuthur cyfiawnder, a barn; fel y dygo’r Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am danaw.
20Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, am [fod] gwaedd Sodoma, a Gomorra yn ddirfawr, ai pechod hwynt yn drwm iawn.
21Descynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl ei gwaedd yr hon a ddaeth attafi, y gwnaethāt yn hollawl, ac onide, mynnaf wybod.
22A [dau] or gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodoma, ac Abraham yn sefyll etto ger bron yr Arglwydd.
23Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, a ddifethi di y cyfyawn hefyd yng-hyd a’r annuwiol?
24Ond odid y mae dec a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas, a ddifethi di [hwynt] hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y dec a deugain cyfiawn y rhai [ydynt] oi mewn hi?
25Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyd a’r annuwiol, fel y byddo y cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo [hynny] i ti, oni wna barnudd yr holl dir farn?
26Yna y dywedodd yr Arglwydd, os câf fi yn Sodoma ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, yna y maddeuaf i’r holl fangre honno er eu mwyn hwynt.
27Ac Abraham a attebodd, ac a ddywedodd, wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw.
28Ond odid bydd pump yn eisiau o’r dec a deugain cyfiawn a ddifethi di’r holl ddinas er pump? yntef a ddywedodd na ddifethaf os câf yno bump a deugain.
29Chwanegodd hefyd lefaru wrtho ef etto, a dywedodd: ond odid ceir yno ddeugain, yntef a ddywedodd nis gwnaf er mwyn y deugain.
30Yna y dywedodd na ddigied fy Arglwydd atolwg os llefaraf, ceir yno onid odid ddêc ar hugain: yntef a ddywedodd nis gwnaf os caf yno ddêc ar hugain.
31Yna y dywedodd efe wele yn awr y chwenychwn lefaru wrth fy Arglwydd, ond odid ceir yno ugain: yntef a dywedodd nis difethaf er mwyn ugain.
32Yna y dywedodd efe, na ddigied fy Arglwydd atolwg, a llefaraf y waith hon yn unic, ond odid ceir yno ddêc: yntef a ddywedodd nis difethaf er mwyn dêc.
33Yna’r aeth yr Arglwydd ymmaith pan ddarfu iddo lefaru wrth Abraham, ac Abraham a ddychwelodd iw le ei hun.

Currently Selected:

Genesis 18: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in