YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 17

17
PEN. XVII.
Abram a elwir Abraham. 8 Addewid arall i Abram ar dir Canaan. 12 Gossod enwaediad. 15 Sarai a elwir Sara. 16 Duw yn addo Isaac. 23 Abraham yn ei enwaedu ei hun, ac Ismael, ai holl deulu.
1Pan oedd Abram onid vn mlwydd cant, yna’r ymddāgosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho: myfi [ydwyf] Dduw hôllalluog, rhodia ger fy mrō i, a bydd berffaith.
2A mi a roddaf fyng-hyfammod rhyngof a thi, ac ath amlhâf di yn aml iawn.
3Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb, a llefarodd Duw wrtho ef gan ddywedyd.
4Myfi wele [a wnaf] fyng-hyfammod a thi, a thi a fyddi yn dâd llaweroedd o genhedloedd.
5Ath henw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham, canys yn dâd llaweroedd o genhedloedd i’th roddais.
6A mi a’th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a’th roddaf di yn genhedloedd, a brenhinoedd a ddeuant allan o honot ti.
7Cadarnhaf hefyd fyng-hyfammod rhyngof a thi, ac a’th hâd ar dy ôl di trwy eu hoesoedd #Genes.12.14.yn gyfammod tragywyddawl, i fod yn Dduw i ti, ac ith hâd ar dy ôl di.
8A mi a roddaf i ti, ac i’th hâd ar dy ôl di, wlâd dy ymdaith sef holl wlâd Canaan yn etifeddiaeth dragwyddawl, a mi a fyddaf Dduw iddynt.
9A Duw a ddywedodd wrth Abram, cadw dithe fyng-hyfammod, ti, a’th had ar dy ôl trwy eu hoesoedd.
10Dymma fyng-hyfammod yr hwn a gedwch rhyngof fi, a chwi, a’th hâd ar dy ôl di: #Act.7.8.enwaeder pôb gwryw o honoch chwi.
11Enwaedwch gan hynny gnawd eich dienwaediad: fel y byddo yn #Rhuf.4.11.arwydd cyfammod rhyngof fi, a chwithau.
12Pôb gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich oesoedd: yr hwn a aner yn tŷ, ac a brynner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o’th hâd ti.
13Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a brynner am dy arian di: felly byddo fyng-hyfammod yn eich cnawd chwi, yn gyfammod tragywyddawl.
14A’r gwryw dienwaededic yr hwn ni enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc ei bobl: [oblegit] efe a dorrodd fyng-hyfammod.
15Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara [fydd] ei henw hi.
16Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fâb o honi, ie bendithiaf hi fel y byddo yn gēhedloedd, brenhinoedd pobloedd fyddant o honi hi.
17Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, a blentir i fâb can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd, a phedwarugain?
18Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw ôh na bydde fyw Ismael ger dy fron di,
19A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fâb yn ddiau, a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fyng-hyfammod ag ef, yn gyfammod tragywyddawl iw had ef ar ei ol ef.
20Am Ismael hefyd ith wrandewais, wele mi ai bendithiais ef ac mi ai ffrwythlonaf ef, ac ai lluosogaf yn aml iawn: deuddec tywysog a gynhedla efe, a mi ai rhoddaf ef yn genhedlaeth fawr.
21Am cyfammod a gadarnhaf ag Isaac yr hwn a #Genes.18.10.ymddŵg Sara i ti y pryd hwn y flwyddyn nessaf.
22Yna y peidiodd a llafaru wrtho, a Duw a aeth i fynu oddi wrth Abraham.
23Ac Abraham a gymmerodd Ismael ei fâb, a’r rhai oll a anesyd yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynnase efe ai arian: pôb gwryw o ddyniō tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt, o fewn corph y dydd hwnnw, fel y llefarase Duw wrtho ef.
24Ac Abraham [oedd] fâb onid vn mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.
25Ac Ismael ei fâb ef yn fâb tair blwydd ar ddec pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.
26O fewn corph y dydd hwnnw’r enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fâb.
27A holl ddynion ei dŷ ef y rhai a anesyd yn tŷ, ac a brynnesyd ag arian gan neb dieithr a enwaedwyd gŷd ag ef.

Currently Selected:

Genesis 17: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in