YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 9

9
PEN. IX.
Haint anifeiliaid. 8 Cornwydydd a chenllysc. 27 Pharao yn cydnabod ei fai. 33 Y taranau a’r cessair yn peidio drwy weddi Moses.
1Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dos at Pharao: a llefara wrtho ef, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebræaid, gollwng ymmaith fy mhobl fel i’m gwasanaethant.
2O blegit os gwrthodi di [eu] gollwng ymmaith: ac attal o honot hwynt etto,
3Wele llaw’r Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai [ydynt] yn y maes, ar feirch, ar assynnod, ar gamelod, ar y gwarthec, ac ar y defaid: y daw haint drom iawn.
4A’r Arglwydd a nailltua rhwng anifeiliaid Israel, ac anifeiliaid yr Aiphtiaid: fel na byddo marw dim o gwbl [ar sydd] eiddo meibion Israel.
5A gosododd yr Arglwydd amser nodedic gan ddywedyd: y foru y gwna’r Arglwydd y peth hyn yn y wlad [hon].
6A’r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth, canys bu feirw holl anifeiliaid yr Aiphtiaid: ond o anifeiliaid meibion Israel, ni bu farw vn.
7A Pharao a anfonodd, ac wele ni buase farw gymaint ac vn o anifeiliaid Israel: er hynny caledodd calon Pharao, ac ni ollyngodd y bobl.
8A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, cymmerwch iwch loned eich llaw o ludw ffwrn: a thaned Moses ef tua’r nefoedd yng-ŵydd Pharao,
9Ac efe fydd yn llwch ar holl dîr yr Aipht: ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinoroc trwy holl wlad yr Aipht.
10Yna y cymmerasant ludw’r ffwrn, ac a safasant ger bron Pharao, a Moses ai tanodd tua’r nefoedd: ac efe aeth yn gornwyd chwysigennoc ar ddŷn ac ar anifail.
11A’r swyn-wyr ni allent sefyll ger bron Moses gan y cornwyd: o blegit yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Aiphtiaid.
12Er hynny’r Arglwydd a galedase galon Pharao fel na wrandawe arnynt: megis y #Pen.4.21.llefarase yr Arglwydd wrth Moses.
13Yna’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, cyfot yn foreu, a saf ger bron Pharao: a dywet wrtho, fel hyn y dyweddodd Arglwydd Dduw’r Hebræaid, gollwng fy mhobl i’m gwasanaethu.
14Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blagau ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl: fel y gwypech nad oes fyng-hyffelyb yn yr holl dîr.
15O herwydd yn awr mi a estynnaf fy llaw, ac a’th darawaf di, a’th bobl a haint y nodau: a thi a ddinistrir o’r tîr.
16Ac yn ddiau #Rhuf.9.17.er mwyn hynn i’th gyfodais di i ddangos i ti fy nerth: ac i fynegu fy enw drwy’r holl dîr.
17Tithe ydwyt yn ymdderchafu ar fy mhobl: eto heb eu gollwng hwynt ymmaith?
18Wele mi a lawiaf yng-hylch yr amser ymma y foru genllysc trymmion iawn: y rhai ni bu eu mâth yn yr Aipht o’r dydd y sylfaenwyd hi hyd yr awr hon.
19Anfon gan hynny yn awr, cascl dy anifeiliaid, a phôb dim ar y sydd it yn y maes: pôb dŷn, ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis casgler i dŷ, y descyn y cenllysc arnynt, ac a fyddant feirw.
20Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharao a yrrodd ei weision, ai anifeiliaid i dai.
21A’r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd: a adawodd ei weision ai anifeiliaid yn y maes.
22A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, estyn dy law tua’r nefoedd, fel y byddo cenllysc yn holl wlad yr Aipht: ar ddŷn ac ar anifail, ac ar holl lyssiau y maes o fewn tîr yr Aipht.
23Yna Moses a estynnodd ei wialen tua’r nefoedd, a’r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysc, ac aeth tân ar hyd y ddaiar, a chafododd yr Arglwydd genllysc ar dîr yr Aipht.
24Felly’r ydoedd cenllysc, a thân yn ymgymmeryd yng-hanol y cenllysc: yn drwm iawn yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aipht, er pan ydoedd yn genhedlaeth.
25A’r cenllysc a gurodd trwy holl wlad yr Aipht gwbl ar [oedd] yn y maes, yn ddyn, ac yn anifail: y cenllysc hefyd a gurodd holl lyssieu y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.
26Yn vnic yng-wlad Gosen yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi: nid oedd cenllysc.
27A Pharao a anfonodd, ac a alwodd ar Moses, ac Aaron, a dywedodd wrthynt, pechais y waith hon: yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minne a’m pobl yn annuwiol.
28Gweddiwch ar yr Arglwydd, (canys digon [yw hyn] na byddo taranau Duw na chenllysc, ac mi a’ch gollyngaf, ac ni arhoswch mwy.
29A dywedodd Moses wrtho, pan elwyf allan o’r ddinas, mi a ledaf fy nwylaw at yr Arglwydd: [a’r] taranau a beidiant, a’r cenllysc ni bydd mwy, fel y gwypech mai’r Arglwydd piau yr ddaiar.
30Ond mi a wn nad ydwyt ti etto na’th weision yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw.
31A’r llin a’r haidd a gurwyd: canys yr haidd [oedd] wedi hedeg, a’r llin wedi hadu.
32Ond y gwenith a’r rhŷg ni churwyd: o herwydd diweddar [oeddynt] hwy.
33Yna Moses a aeth oddi wrth Pharao allan o’r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo ar yr Arglwydd: a’r taranau a’r cenllysc a beidiasant, ac ni ddefnynnodd glaw ar y ddaiar.
34Pan welodd Pharao beidio o’r glaw, a’r cenllysc, a’r taranau, yna efe a chwanegodd bechu: canys caledodd ei galon ef ai weision.
35Ie caledodd calon Pharao fel na ollynge efe feibion Israel ymmaith: megis y llefarase’r Arglwydd trwy law Moses.

Currently Selected:

Exodus 9: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in