YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 10

10
PEN. X.
Cyndynrwydd Pharao. 4 Y locustiaid. 16 Cyffes Pharao. 19 Gweddi Moses. 21 Tywyllwch anferthol.
1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dos at Pharao: o herwydd mi galedais ei galon ef, a chalon ei weision, fel y gosodwn fy arwyddion hyn yn ei fysc ef.
2Ac fel y mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, #Exod.4.21.yr hynn a wneuthum yn yr Aipht, a’m harwyddion y rhai a osodais yn eu plith hwynt: ac y gwypoch mai myfi [ydwyf] yr Arglwydd.
3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharao, a dywedasant wrtho, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw’r Hebræaid, pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymmaith fy mhobl, fel i’m gwasanaethant.
4O herwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl: wele, y foru y dygaf locustiaid i’th frô,
5Y rhai a orchuddiant wyneb y ddaiar, fel na allo [vn] weled y ddaiar: ac hwy a yssant y gweddill yr hwn a adawyd i chwi yn ddiangol gan y cenllysc, difaant hefyd bôb pren a fyddo yn blaguro iwch yn y maes.
6Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai’r holl Aiphtiaid, y cyfryw ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaiar hyd y dydd hwn: yna efe a drôdd, ac a aeth allan oddi wrth Pharao.
7A gwesion Pharao a ddywedasant wrtho, pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymmaith y gwŷr, fel y gwasanaethant yr Arglwydd eu Duw: oni wyddosti etto ddifetha’r Aipht?
8A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharao, ac efe a ddywedodd wrthynt, ewch gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw: pa rai sy’n myned?
9A Moses a ddywedodd, a’n llangciau, ac a’n hynafgwyr yr awn ni: a’n meibion hefyd, ac a’n merched, a’n defaid, ac a’n gwarthec, yr awn ni o blegit rhaid i ni gadw gŵyl i’r Arglwydd.
10Ac efe a dywedodd wrthynt, yr vn modd y byddo’r Arglwydd gyd a chwi, ag y gollyngaf chwi a’ch plant: gwelwch mai ar ddrwg y mae eich brŷd.
11Nid felly, ewch yn awr y gwŷr, a gwasanaethwch yr Arglwydd, canys hyn yr oeddech yn ei geisio: felly hwynt a wthiwyd o wydd Pharao.
12Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, estyn dy law ar wlad yr Aipht am locustiaid fel y deuannt ar dîr yr Aipht: ac y bwyttaant holl lyssieu y ddaiar [sef] cwbl ar a adawodd y cenllysc.
13Felly Moses a estynnodd ei wialen ar dîr yr Aipht, a’r Arglwydd a ddug ddwyreinwynt ar y tîr yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos honno: a [phan] ddaeth y borau gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.
14A’r locustîaid a ddaethant ar holl wlad yr Aipht, ac a arhosasant ym mhob ardal i’r Aipht: yn drwm iawn, ni bu y fath locustiaid oi blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb.
15Canys toasant wyneb yr holl dîr, a thywyllodd y wlad, a hwynt a yssasant holl lyssiau y ddaiar, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillase y cenllysc: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lyssieu y maes o fewn holl wlad yr Aipht.
16Am hynny Pharao a alwodd am Moses, ac Aaron ar frŷs, ac a ddywedodd: pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, ac yn eich erbyn chwithau.
17Ac yn awr maddeu di attolwg fy mhechod y waith hon yn vnic, a gweddiwch ar yr Arglwydd eich Duw: ar iddo dynnu oddi wrthif yn vnic y farwolaeth hon.
18A [Moses] a aeth allan oddi wrth Pharao: ac a weddiodd ar yr Arglwydd.
19A’r Arglwydd a drodd wynt gorllewyn crŷf iawn, ac efe a gododd ymmaith y locustiaid, ac ai bwriodd hwynt i’r môr coch: ni adawyd vn locust o fewn holl derfynau’r Aipht.
20Er hynny caledodd yr Arglwydd galon Pharao: fel na ollynge efe feibion Israel ymmaith.
21A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, estynn dy law tua’r nefoedd fel y byddo tywyllwch ar dîr yr Aipht: ac y [gellir] teimlo y tywyllwch.
22Felly Moses a estynnodd ei law, tua’r nefoedd: #Doeth.17.2.a bu dywyllwch niwloc drwy holl wlad yr Aipht dri diwrnod.
23Ni wele neb ei gilydd, ac ni chododd neb oi le dri diwrnod: ond #Doeth.8.1.yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.
24Yna y galwodd Pharao am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, ewch gwasanaethwch yr Arglwydd, arhoed eich defaid a’ch gwarthec yn vnig: aed eich plant hefyd gyd a chwi.
25A dywedodd Moses, ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoeth offrymmau: fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.
26Am hynny’r aiff ein hanifeiliaid hefyd gyd a ni, ni adewir ewin, o blegit o honynt y cymmerwn i wasanaethu’r Arglwydd ein Duw: canys ni wyddom a pha beth y gwasanaethom yr Arglwydd, hyd oni ddelom yno.
27Ond yr Arglwydd a galedodd galon Pharao: fel nad oedd efe fodlon iw gollwng hwynt.
28A dywedodd Pharao wrtho, dos oddi wrthif: gwylia arnat rhac gweled fy wyneb mwy, o blegit y dydd y gwelech fy wyneb y byddi farw.
29A dywedodd Moses inion y dywedaist: ni welaf dy wyneb mwy.

Currently Selected:

Exodus 10: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in