YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 11

11
PEN. XI.
Yr Arglwydd yn peri’r Hebræaid fenthygio tlysau gan yr Aiphtiaid. 5 Marwolaeth y cyntaf-anedic.
1A’r Arglwydd a ddywedase wrth Moses, vn bla etto a ddygaf ar Pharao, ac ar yr Aiphtiaid, wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymmaith oddi ymma: pan ollyngo efe yn gwbl, gan wthio efe a’ch gwythia chwi oddi ymma.
2Dywet yn awr lle y clywo’r bobl: am geisio ohonynt bôb gwr gan ei gymydog, #Exod.3.22.a phob gwraig gan ei chymdoges ddodrefn arian, a dodrefn aur.
3A’r Arglwydd a roddodd i’r bobl ffafor yng-olwg yr Aiphtiaid: ac [yr ydoedd] #Heb.11.28.Moses yn wr mawr iawn yng-wlad yr Aipht yng-olwg gweision Pharao, ac yng-olwg y bobl. )
4Moses hefyd a ddywedodd, fel hynn y llefarodd yr Arglwydd: yng-hylch hanner nos yr afi allan i ganol yr Aipht.
5A phôb cyntaf-anedic yng-wlad yr Aipht a fydd marw, o gyntaf-anedic Pharao yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrn-gader ef, hyd gyntaf-enedic y wasanaethferch yr hon [sydd] ar ol y felin: a phôb cyntaf-anedic o anifail.
6Yna y bydd gweiddi mawr drwy holl wlad yr Aipht: yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.
7Ond ym mysc meibion Israel ni symmud cî ei dafod ar ddŷn nac anifail: fel y gwypoch mai’r Arglwydd a nailltuodd rhwng yr Aiphtiaid ac Israel.
8A’th holl weision hynn a ddeuant i wared attafi, ac a ymgrymmant i mi gā ddywedyd, dos allan, a’r holl bobl y rhai [ydynt] ar dy ol, ac wedi hynny’r afi allan: felly efe a aeth allan oddi wrth Pharao mewn digllonedd llidioc.
9A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ni wrendu Pharao arnoch: fel yr amlhaer fy rhyfeddodau yng-wlad yr Aipht.
10Felly Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn ger bron Pharao: a’r Arglwydd a galedodd galon Pharao, fel na ollynge efe feibion Israel allan oi wlad.

Currently Selected:

Exodus 11: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in