YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 20

20
PEN. XX.
Dec gorchymyn Duw. 18 Duw yn ymddangos mewn mellt i beri ei ofni. 23 Duw yn gwahardd delwau. 24 portreiad yr allor.
1A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn gan ddywedyd.
2Myfi [ydwyf] yr Arglwydd dy Dduw: yr hwn a’th ddygais di allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
3Na fydded it dduwiau eraill ger fy mrō i.
4Na wna it ddelw gerfiedic, na llun dim a’r [y sydd] yn y nefoedd oddi vchod, nac a’r y [sydd] yn y ddaiar oddi isod: nac a’r [y sydd] yn y dwfr oddi tann y ddaiar.
5Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: o blegit myfi yr Arglwydd dy Dduw[ydwyf] Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd [genhedlaeth] o’r rhai a’m casânt.
6Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd: o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fyng-orchymynnion.
7Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
8Cofia y dydd Sabboth iw sancteiddio ef.
9Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith.
10Onid y seithfed dydd [yw] Sabboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna [ynddo] ddim gwaith, tydi na’th fab, na’th ferch, na’th wâsanaethwr nath wasanaeth-ferch, na’th anifail, na’th ddieithr-ddyn a fyddo o fewn dy byrth.
11O herwydd [mewn] chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd, ar ddaiar, y môr, a’r hyn oll [sydd] ynddynt, ac a orphwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabboth, ac ai sancteiddiodd ef.
12Anrhydedda dy dad a’th fam: fel yr estynno dy ddyddiau ar y ddaiar yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
13Na ladd.
14Na wna odineb.
15Na ledratta.
16Na ddwg gamm destiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
17Na chwennych dŷ dy gymydog: na chwennych wraig dy gymydog, nai wasanaethwr, nai wasanaeth ferch, na’i ŷch, nai assyn, na dim ar [sydd] eiddo dy gymydog.
18A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr udcorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl yna y ciliasant, a safasant o hîr-bell.
19A dywedasant wrth Moses, llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared Duw wrthym, rhac i ni farw.
20Yna y dywedodd Moses wrth y bobl, nac ofnwch o herwydd ich profi chwi y daeth Duw: ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.
21A safodd y bobl o hirbell: a nessaodd Moses i’r cwmmwl lle [yr ydoedd] Duw.
22A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, fel hyn y dywedi wrth feibion Israel: chwi a welsoch mai o’r nefoedd y lleferais wrthich.
23Na wnewch [dduw arall] gyd a mi na wnewch i chwi dduwiau arian, na duwiau aur.
24Gwna di i mi #Exod.27.8.allor bridd, ac abertha arni dy boeth offrymmau, a’th ebyrth hedd, dy ddefaid, a’th eidionnau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o’m henw, y deuaf attat, ac i’th fendithiaf.
25Ond os gwnei i mi allor gerric #Deut.27.5. Iosu.8.31.na nâdd y rhai hynny: pan gottech dy forthwyl arni ti ai halogaist.
26Ac na ddos i fynu ar hyd grissiau i’m hallor: fel nad amlyger dy noethni wrthi hi.

Currently Selected:

Exodus 20: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in