YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 19

19
PEN. XIX.
Dyfodiad Israel i fynydd Sinai. 5 Rhagoriaeth Israel. 8 y bobl yn addo vfydd-dod i Dduw. 10 Duw yn erchi sancteiddio y bobl: ac yn gwahardd iddynt gyffwrdd a’r mynydd. 14 y bobl yn ymsancteiddio. 16 Duw yn ymddangos mewn taranau, a mellt.
1Yn y trydydd mîs wedi dyfod meibion Israel allan o wlâd yr Aipht: y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.
2Canys hwy a aethant o Raphidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai, gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: sef yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd.
3A Moses aeth i fynu at Dduw: a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, fel hyn y dywedi wrth dŷ Iacob, ac y mynegi wrth feibion Israel.
4Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Aiphtiaid: modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac i’ch dygais chwi attafi.
5Yn awr gan hynny os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fyng-hyfammod: byddwch yn dlws cuach gennifi na’r holl bobloedd, canys eiddo fi yr holl fyd.
6A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd: dymma y geiriau y rhai a leferi di wrth feibion Israel.
7Yna y daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl: ac a osododd ger eu bronnau hwynt, yr holl eiriau hyn, y rhai a orchymynnase’r Arglwydd iddo.
8A’r holl bobl a gyd attebasant, ac a ddywedasant, nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd: a Moses a ddug trachefn eiriau’r bobl at yr Arglwydd.
9A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, wele mi a ddeuaf attat mewn niwl tew, fel y clywo’r bobl pan ymddiddanwyf a thi, ac fel y credant it byth: a Moses a fynegase eiriau’r bobl i’r Arglwydd.
10Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, dos at y bobl a sancteiddia hwynt heddyw ac y foru: a golchant eu dillad.
11Fel y byddant barod erbyn y trydydd dydd: o herwydd y trydydd dydd y descyn yr Arglwydd yngolwg yr holl bobl, ar fynydd Sinai.
12A gosot derfyn i’r bobl o amgylch gan ddywedyd, gwiliwch arnoch rhac myned i fynu i’r mynydd, neu gyffwrdd ai gwrr ef: pwy bynnac a gyffyrddo a’r mynydd a leddir yn farw.
13Na chyffyrdded llaw ag ef, onid gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef: pa vn bynnac ai dyn ai anifail na chaed fyw, pan gano’r udcorn yn hir-llaes, deuant i’r mynydd.
14Yna Moses a ddescynnodd o’r mynydd at y bobl: ac a sancteiddiodd y bobl, a hwynt a olchasant eu dillad.
15Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, byddwch barod erbyn y trydydd dydd: nac ewch yn agos at wraig.
16A’r trydydd dydd ar y boreuddydd yr oedd taranau, a mellt, a niwl trwm ar y mynydd, a llais yr udcorn ydoedd gryf iawn: fel y dychrynodd yr holl bobl yr rhai [oeddynt] yn y gwerssyll.
17A Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod a Duw: a hwynt a safasant yng-odre y mynydd.
18A mynydd Sinai a fygodd ei gyd, o herwydd descyn o’r Arglwydd arno mewn tân: ai fwg a dderchafodd fel mwg ffwrn, a’r holl fynydd a grynnodd yn ddirfawr.
19Pan ydoedd llais yr udcorn yn myned, ac yn cryfhau yn odieth: Moses a lefarodd, a Duw a attebodd mewn llais.
20A’r Arglwydd a ddescynnodd ar fynydd Sinai, ar benn y mynydd: a galwodd yr Arglwydd a’r Moses i benn y mynydd, ac aeth Moses i fynu.
21Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses dos i wared testiolaetha i’r bobl: rhac iddynt ruthro at yr Arglwydd i weled, a chwympo llawer o honynt.
22Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nessânt at yr Arglwydd: rhac i’r Arglwydd ruthro arnynt.
23A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, ni ddichon y bobl ddyfod i fynu i fynydd Sinai: o blegit ti a destiolaethaist wrthym gan ddywedyd, terfyna y mynydd, a sancteiddia ef.
24A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, dos cerdda i wared, a thyret ti i fynu ac Aaron gyd a thi: ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl i ddyfod i fynu at yr Arglwydd, rhac iddo yntef ruthro arnynt hwy.
25Yna’r aeth Moses i wared at y bobl, ac a ddywedodd wrthynt.

Currently Selected:

Exodus 19: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in