YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 2

2
PEN. II.
Geni Moses ai fwrw i’r hesc. 5 Merch Pharao yn ei godi ai gadw. 12 Moses yn lladd yr Aipht-ddyn. 15 yn ffoi yn cael gwasanaeth, ac yn priodi. 23 Marwolaeth Pharao, a gweddi Israel.
1Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth: ac a briododd ferch Lefi.
2A’r wraig a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb: a phan welodd hi mai têg ydoedd efe, yna hi ai cuddiodd ef dri mis.
3A phan na alle hi ei guddio ef yn hwy, yna y cymmerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw a chlai ac a phŷg: ac a ossododd y bachgen ynddo, ac ai rhoddodd ym mysc yr hesc a’r fin yr afon.
4Ai chwaer ef a safodd o bell: i gael gwybod beth a wneid iddo.
5Yna merch Pharao a ddaeth i wared i’r afon i ymolchi, (ai llangcesau oeddynt yn rhodio ger llaw’r afon: ) a hi a ganfu y cawell yng-hanol yr hesc ac a anfonodd ei llaw-forwyn iw gyrchu.
6Wedi iddi ei agoryd a chanfod y bachgen, ac wele y plentyn yn wylo: yna hi a dosturiodd wrtho ac a ddywedodd, [vn] o blant yr Hebreaid [yw] hwn.
7Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharao, a âfi i alw attat famhaeth-wraig o’r Hebræesau, fel y mago hi y bachgen it?
8A merch Pharao a ddywedodd wrthi, dôs: a’r llangces a aeth ac a alwodd fam y bachgen.
9A dywedodd merch Pharao wrth honno dŵg ymmaith y bachgen hwnn, a maga ef i mi, a minne a roddaf dy gyflog: yna’r wraig a gymmerodd y bachgen ac ai magodd.
10Pan aeth y bachgen yn fawr, yna hi ai dug ef i ferch Pharao, ac efe a fu iddi yn lle mab: a hi a alwodd ei enw ef Moses, o herwydd (ebr hi) o’r dwfr y tynnais ef.
11A bu yn y dyddiau hynny pan aeth Moses yn fawr, fyned o honaw allan at ei frodyr, ac edrych ar eu llwythau hwynt: a #Act.7.24.gweled Aipht-wr yn taro Hebræ-wr [vn] o’i frodyr.
12Ac efe a edrychodd ymma, ac accw, a phan welodd nad [oedd yno] neb: yna efe a laddodd yr Aiphtiad, ac ai cuddiodd yn y tyfod.
13Ac efe a aeth allan yr ail dydd, ac wele ddau Hebræ-wr yn ymryson: ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar gam, pa ham y tarewi dy gyfaill?
14A dywedodd yntef, pwy a’th osododd di yn bennaeth-wr, ac yn frawd-wr arnom ni? ai meddwl yr wyti fy lladd i megis y lleddaist yr Aiphtiad? yna Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, diau y gwyddir y peth hynn.
15Pan glubu Pharao y peth hyn, yna efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffoawdd rhac Pharao, ac a arhosodd yn-nhîr Madian, ac a eisteddodd wrth bydew.
16Ac i offeiriad Madian yr ydoedd saith merched: a’r [rhai hynny] a ddaethant, ac a dynasant [ddwfr,] ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tâd.
17Ond y bugeiliaid a ddaethant ac ai gyrrasant ymmaith: yna y cododd Moses, ac ai hachubodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt.
18Yna y daethant at Raguel eu tad: ac efe a ddywedodd pa ham y daethoch heddyw cyn gynted?
19A hwynt a ddywedasant, Aiphtwr a’n hachubodd ni o law y bugeiliaid: a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd, ac a ddyfrhaodd y praidd.
20Yna efe a ddywedodd wrth ei ferched, pa le [y mae] efe? pa ham y gollyngasoch ymmaith y gŵr? gelwch arno, a bwytaed fara.
21A bu Moses fodlon i drigo gyd a’r gŵr: ac yntef a roddodd Sephora ei ferch i Moses.
22A hi a escorodd ar fab, ac efe a alwodd #Pen.18.4.ei enw ef Gershom: o herwydd dieithr (ebr ef) a fum mi mewn gwlad dieithr.
23Ac o fewn y dyddiau hynny (y #Act.7.30.rhai [oeddynt] lawer) y bu farw brenin yr Aipht, a meibion Israel a vcheneidiasant rhac y caethiwed, ac a waeddasant: ai gwaedd hwynt rhac y caethiwed a dderchafodd at Dduw.
24Yna Duw a glybu eu huchenaid hwynt: a Duw a gofiodd ei gyfammod ag Abraham, ag Isaac, ac ag Iacob.
25A Duw a edrychodd ar feibion Israel: Duw hefyd a gydnabu [a hwynt.]

Currently Selected:

Exodus 2: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in