YouVersion Logo
Search Icon

Sechareia 10

10
1 Duw sydd raid ymofyn ag ef, ac nid eilunod. 5 Megis yr ymwelodd efe â’i ddiadell am eu pechod, felly yr achub ac yr adfera efe hwy.
1Erchwch #Jer 14:22gan yr Arglwydd #Deut 11:14law #Job 29:23mewn pryd diweddar law; a’r Arglwydd a bair #10:1 Neu, fellt, neu, luched.ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes. 2Canys #Jer 10:8; Hab 2:18y #10:2 Heb. teraffim.delwau a ddywedasant wagedd, a’r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; #Job 13:4rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, #10:2 Neu, atebasant nad oedd bugail.cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail. 3Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys Arglwydd y lluoedd a ymwelodd â’i braidd tŷ Jwda, ac #Can 1:9a’u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel. 4Y gongl a ddaeth allan ohono, yr hoel ohono, y bwa rhyfel ohono, a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono.
5A byddant fel cewri #Salm 18:42yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr Arglwydd gyda hwynt; a #10:5 Neu, chywilyddiant farchogion.chywilyddir marchogion meirch. 6A nerthaf dŷ Jwda, a gwaredaf dŷ Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i’w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, ac a’u gwrandawaf hwynt. 7Bydd Effraim hefyd fel cawr, a’u calonnau a lawenychant fel trwy win: a’u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr Arglwydd. 8Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhânt fel yr amlhasant. 9A #Hos 2:23heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y’m cofiant, a byddant fyw gyda’u plant, a dychwelant. 10A #Esa 11:11dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac #Esa 49:20ni cheir lle iddynt. 11Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac #Edrych Esa 11:15a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith. 12Nerthaf hwynt hefyd yn yr Arglwydd, ac #Micha 4:5yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr Arglwydd.

Currently Selected:

Sechareia 10: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Free Reading Plans and Devotionals related to Sechareia 10

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy