YouVersion Logo
Search Icon

Sechareia 11

11
1 Dinistr Jerusalem. 3 Gofalu am yr etholedigion, a gwrthod y lleill. 10 Torri ffon Hyfrydwch a Rhwymau, trwy wrthod Crist. 15 Arwydd a melltith y bugail ynfyd.
1Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd. 2Y ffynidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai #11:2 Neu, cedyrn, neu, gwychion.ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig #11:2 Neu, gaeëdig.y gwin‐gynhaeaf.
3 Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen. 4Fel hyn y dywed yr Arglwydd fy Nuw; Portha ddefaid y lladdfa; 5Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, #Jer 2:3; 50:7heb dybied eu bod yn euog; a’u gwerthwyr #Deut 29:19; Hos 12:8a ddywedant, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, am fy nghyfoethogi: a’u bugeiliaid nid arbedant hwynt. 6Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr Arglwydd; ond wele fi #11:6 Heb. yn peri cael y dynion bob un yn llaw, &cyn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o’u llaw hwy. 7A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, #11:7 Neu, yn ddiau drueiniaid, &c sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a’r llall a elwais #11:7 Neu, Rhwymwyr.Rhwymau; a mi a borthais y praidd. 8A thorrais ymaith dri bugail #Hos 5:7mewn un mis; a’m henaid a #11:8 Heb. gyfyngwyd o’u hachos.alarodd arnynt hwy, a’u henaid hwythau a’m ffieiddiodd innau. 9Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: #Jer 15:2; 43:11a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i’w dorri ymaith, torrer ef ymaith; a’r gweddill, ysant bob un gnawd ei #11:9 Heb. gyfaill, neu, gymydog.gilydd.
10A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn â’r holl bobl. 11A’r dydd hwnnw y torrwyd hi: #11:11 Neu, a thrueiniaid y praidd y rhai, &c a wybuant yn sicr mai, &cac felly #Seff 3:12y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr Arglwydd oedd hyn. 12A dywedais wrthynt, Os #11:12 Heb. da yw yn eich golwg.gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a’m gwerth #Mat 26:15a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian. 13A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Bwrw ef i’r #Mat 27:9, 10crochenydd: pris teg â’r hwn y’m prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dŷ yr Arglwydd, i’r crochenydd. 14Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef #11:14 Heb. Rhwymwyr.Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.
15A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl. 16Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya #11:16 Neu, yr hyn a dorrwyd ymaith.y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni #11:16 Neu, chynnal, neu, ddwg.phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt. 17#Jer 23:1; Esec 34:2; Ioan 10:12Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a’i lygad deau gan dywyllu a dywylla.

Currently Selected:

Sechareia 11: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in