YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 5

5
A.D. 31. —
1 Crist yn dechrau ei bregeth ar y mynydd; 3 ac yn dangos pwy sydd ddedwydd, 13 pwy yw halen y ddaear, 14 goleuni y byd, dinas ar fryn, 15 y gannwyll: 17 ei ddyfod ef i gyflawni y gyfraith. 21 Beth yw lladd, 27 a godinebu, 33 a thyngu. 38 Y mae yn annog i ddioddef cam, 43 i garu, ie, ein gelynion, 48 ac i ymegnïo at berffeithrwydd.
1A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato. 2Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, 3#Luc 6:20; Diar 16:19; 29:23; Esa 57:15Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 4#Esa 61:3; Luc 6:21Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. 5#Salm 37:11Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys #Rhuf 4:13hwy a etifeddant y ddaear. 6Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: #Esa 55:1; 65:13canys hwy a ddiwellir. 7Gwyn eu byd y rhai trugarogion: #Pen 6:14 Marc 11:25; 2 Tim 1:16; Iago 2:13canys hwy a gânt drugaredd. 8#Salm 15:2; 24:4; Heb 12:14Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys #1 Cor 13:12; 1 Ioan 3:2hwy a welant Dduw. 9Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw. 10#2 Tim 2:12; 1 Pedr 3:14Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 11#Luc 6:22; 1 Pedr 4:14Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant, ac y’ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. 12Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid #Act 7:52felly yr erlidiasant hwy’r proffwydi a fu o’ch blaen chwi.
13Chwi yw halen y ddaear: #Marc 9:50; Luc 14:34eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i’w fwrw allan, a’i sathru gan ddynion. 14Chwi yw goleuni’r byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio. 15Ac ni #Marc 4:21; Luc 8:16; 11:33oleuant gannwyll, a’i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ. 16Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, #1 Pedr 2:12fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac #1 Cor 14:25y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
17Na thybiwch fy nyfod i dorri’r gyfraith, neu’r proffwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni. 18Canys yn wir meddaf i chwi, #Luc 16:17Hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, nid â un iod nac un tipyn o’r gyfraith heibio, hyd oni chwblhaer oll. 19#Iago 2:10Pwy bynnag gan hynny a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a’u gwnelo, ac a’u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd. 20Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.
21Clywsoch ddywedyd #5:21 Neu, wrth.gan y rhai gynt, #Exod 20:13; Deut 5:17Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn: 22Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, #1 Ioan 3:15Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern. 23Gan hynny, os dygi dy rodd i’r allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn; 24Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a #Job 42:8; Pen 18:19; 1 Tim 2:8; 1 Pedr 3:7dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd. 25#Luc 12:58Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys, #Salm 32:6; Esa 55:6tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’th daflu yng ngharchar. 26Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.
27Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, #Exod 20:14; Deut 5:18Na wna odineb; 28Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd #Job 31:1yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. 29#Pen 18:8; Marc 9:43–47Ac os dy lygad deau a’th rwystra, #Edrych Pen 19:12; Rhuf 8:13; 1 Cor 9:27; Col 3:5tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 30Ac os dy law ddeau a’th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 31A dywedwyd, #Deut 24:1; Edrych Pen 19:3 &c; Marc 10:2 &cPwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar: 32Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod #Pen 19:9; Luc 16:18; 1 Cor 7:10, 11pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.
33Trachefn, clywsoch #Pen 23:16ddywedyd gan y rhai gynt, #Exod 20:7; Lef 19:12; Deut 5:11Na thwng anudon; eithr #Deut 23:23tâl dy lwon i’r Arglwydd: 34Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, #Pen 23:16, 18, 22; Iago 5:12Na thwng ddim: nac i’r nef; canys #Esa 66:1gorseddfa Duw ydyw: 35Nac i’r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys #Salm 48:2dinas y brenin mawr ydyw. 36Ac na thwng i’th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu. 37Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o’r drwg y mae.
38Clywsoch ddywedyd, #Exod 21:24; Lef 24:20; Deut 19:21Llygad am lygad, a dant am ddant: 39Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, #Diar 24:29; Luc 6:29; Rhuf 12:17, 19; 1 Cor 6:7; 1 Thess 5:15; 1 Pedr 3:9Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau, tro’r llall iddo hefyd. 40Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd. 41A phwy bynnag #Edrych Pen 27:32; Marc 15:21a’th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy. 42Dyro i’r hwn a ofynno gennyt; ac #Deut 15:8, 10; Luc 6:35na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.
43Clywsoch ddywedyd, #Lef 19:18Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. 44Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, #Luc 6:27; Rhuf 12:14, 20Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a #Luc 23:34; Act 7:60; 1 Cor 4:12, 13; 1 Pedr 2:23; 3:9gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; 45Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 46#Luc 6:32Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth? 47Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly? 48Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, #Eff 5:1fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.

Currently Selected:

Mathew 5: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in