YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 4

4
A.D. 27. —
1 Ympryd Crist, a’i demtiad. 11 Yr angylion yn gweini iddo. 13 Efe yn trigo yn Capernaum, 17 yn dechrau pregethu, 18 yn galw Pedr ac Andreas, 21 Iago ac Ioan; 23 ac yn iacháu yr holl gleifion.
1Yna yr #Marc 1:12; Luc 4:1Iesu a arweiniwyd i fyny i’r anialwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan ddiafol. 2Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd. 3A’r temtiwr pan ddaeth ato, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i’r cerrig hyn fod yn fara. 4Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifennwyd, #Deut 8:3Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw. 5Yna y cymerth diafol ef i’r #Neh 11:1; Esa 48:2; Pen 27:53ddinas sanctaidd, ac a’i gosododd ef ar binacl y deml; 6Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifennwyd, #Salm 91:11Y rhydd efe orchymyn i’w angylion amdanat; a hwy a’th ddygant yn eu dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg. 7Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ysgrifennwyd drachefn, #Deut 6:16Na themtia yr Arglwydd dy Dduw. 8Trachefn y cymerth diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd, a’u gogoniant; 9Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a’m haddoli i. 10Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, #Deut 6:13; 10:20; 1 Sam 7:3Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi. 11Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, angylion a ddaethant, ac a weiniasant iddo.
12A #Marc 1:14; Luc 3:20; 4:14, 31; Ioan 4:43phan glybu’r Iesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilea. 13A chan ado Nasareth, efe a aeth ac a arhosodd yng Nghapernaum, yr hon sydd wrth y môr, yng nghyffiniau Sabulon a Neffthali: 14Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, 15#Esa 9:1, 2Tir Sabulon, a thir Neffthali, wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, Galilea’r Cenhedloedd: 16Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i’r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt.
17 # Marc 1:14 O’r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, #Pen 3:2; 10:7Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.
18 # Marc 1:16; Luc 5:2 A’r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn #Ioan 1:42a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr; canys pysgodwyr oeddynt: 19Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a mi a’ch gwnaf yn bysgodwyr dynion. 20A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant ef. 21#Marc 1:19Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyda Sebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a’u galwodd hwy. 22Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a’u tad, a’i canlynasant ef.
23A’r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, #Pen 9:35gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl. 24Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a’r rhai cythreulig, a’r rhai lloerig, a’r sawl oedd â’r parlys arnynt; ac efe a’u hiachaodd hwynt. 25#Marc 3:7A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef o Galilea, a Decapolis, a Jerwsalem, a Jwdea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen.

Currently Selected:

Mathew 4: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in