YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 20

20
1 Abraham yn ymdaith yn Gerar, 2 yn gwadu ei wraig, ac yn ei cholli hi. 3 Ceryddu Abimelech mewn breuddwyd o’i hachos hi. 9 Yntau yn ceryddu Abraham, 14 yn rhoddi Sara yn ei hôl, 16 ac yn ei cheryddu hi, 17 ac yn cael ei iacháu trwy weddi Abraham.
1Ac Abraham a aeth oddi yno i dir y deau, ac a gyfanheddodd rhwng #Pen 16:7, 14Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar. 2A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, #Pen 12:13Fy chwaer yw hi: ac Abimelech brenin Gerar a anfonodd, ac a gymerth Sara. 3Yna #Salm 105:14y daeth Duw at Abimelech, noswaith, #Job 33:14, 15mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymeraist, a hithau yn #20:3 Heb. briod i ŵr.berchen gŵr. 4Ond Abimelech ni nesasai ati hi: ac efe a ddywedodd, Arglwydd, a leddi di genedl gyfiawn hefyd? 5Oni ddywedodd efe wrthyf fi, Fy chwaer yw hi? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd, Fy mrawd yw efe: #20:5 yn syml rwydd.ym mherffeithrwydd fy nghalon, ac yng nglendid fy nwylo, y gwneuthum hyn. 6Yna y dywedodd Duw wrtho ef, mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a #Pen 31:7; 35:5; Exod 34:24; 1 Sam 25:26mi a’th ateliais rhag pechu #Pen 39:9; Lef 6:2; Salm 51:4i’m herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi. 7Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i’r gŵr; oherwydd proffwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddiau, ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti. 8Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn #20:8 Heb. yn eu clustiau hwy.wrthynt hwy: a’r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr. 9Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i’th erbyn, pan #Pen 26:10ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur. 10Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn? 11A dywedodd Abraham, Am ddywedyd ohonof fi, Yn ddiau nid oes ofn Duw yn y lle hwn: a hwy a’m lladdant i o achos fy ngwraig. 12A hefyd yn wir fy chwaer yw hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi. 13Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; #Pen 12:13dywed amdanaf fi, Fy mrawd yw efe. 14Yna #Pen 12:16y cymerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morynion, ac a’u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig drachefn. 15A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg. 16Ac wrth Sara y dywedodd, Wele, rhoddais i’th frawd fil o ddarnau arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i’r rhai oll sydd gyda thi, a chyda phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.
17Yna Abraham a weddïodd ar Dduw: a Duw a iachaodd Abimelech, a’i wraig, a’i forynion; a hwy a blantasant. 18Oherwydd yr Arglwydd gan gau a gaeasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.

Currently Selected:

Genesis 20: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in