YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 19

19
1 Lot yn derbyn angylion i’w dŷ. 4 Taro y Sodomiaid annuwiol â dallineb. 12 Danfon Lot i’r mynydd er mwyn ei ddiogelwch. 18 Yntau yn cael cennad i fyned i Soar. 24 Dinistrio Sodom a Gomorra, 26 Troi gwraig Lot yn golofn halen. 30 Lot yn trigo mewn ogof. 31 Godinebus fonedd Moab ac Ammon.
1A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â’i wyneb tua’r ddaear; 2Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, #Heb 13:2trowch, atolwg, i dŷ eich gwas; lletywch heno hefyd, a #Pen 18:4golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i’ch taith. A hwy a ddywedasant, #Edrych Luc 24:28Nage; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol. 3Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troesant ato, ac y daethant i’w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwytasant.
4Eithr cyn gorwedd ohonynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuanc, sef yr holl bobl o bob cwr; 5Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? #Barn 19:22dwg hwynt allan atom ni, fel yr adnabyddom hwynt. 6Yna y daeth Lot atynt hwy allan i’r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl; 7Ac a ddywedodd, Atolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg. 8#Edrych Barn 19:24Wele yn awr, y mae dwy ferch gennyf fi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i’r gwŷr hyn; #Edrych Pen 18:5oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i. 9A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri’r ddôr. 10A’r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i’r tŷ, ac a gaeasant y ddôr. 11Trawsant hefyd y dynion #Edrych 2 Bren 6:18; Act 13:11oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio’r drws.
12A’r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb eto? mab yng nghyfraith, a’th feibion, a’th ferched, a’r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o’r fangre hon. 13Oblegid ni a ddinistriwn y lle hwn; am fod #Pen 18:20eu gwaedd hwynt yn fawr gerbron yr Arglwydd: a’r Arglwydd a’n hanfonodd ni i’w ddinistrio ef. 14Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o’r fan yma; oherwydd y mae’r Arglwydd yn difetha’r ddinas hon: ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.
15Ac ar godiad y wawr, yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymer dy wraig, a’th ddwy ferch, y rhai sydd i’w cael; rhag dy ddifetha di #19:15 yng nghosbedigaeth.yn anwiredd y ddinas. 16Yntau a oedd hwyrfrydig, a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferch; am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef; ac a’i dygasant ef allan, ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas. 17Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dianc am dy einioes; #ad. 26; Mat 24:16, 17, 18; Luc 9:62; Phil 3:13, 14nac edrych ar dy ôl, ac na saf yn yr holl wastadedd: dianc i’r mynydd, rhag dy ddifetha. 18A dywedodd Lot wrthynt, O nid felly, fy Arglwydd. 19Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddianc i’r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw ohonof. 20Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gad i mi ddianc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid. 21Yntau a ddywedodd wrtho, Wele, mi a #19:21 Dderbyniais dy wyneb.ganiateais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist. 22Brysia, dianc yno; oherwydd #Edrych Pen 32:25, 26; Exod 32:10; Deut 9:14; Marc 6:5ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe #Pen 13:10; 14:2enw y ddinas Soar.
23Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar. 24Yna yr #Deut 29:23; Esa 13:19; Jer 50:40; Esec 16:49; Hos 11:8; Amos 4:11; Seff 2:9; Luc 17:29; 2 Pedr 2:6; Jwdas 7Arglwydd a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr Arglwydd, allan o’r nefoedd. 25Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.
26Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ôl ef, a hi a aeth #Luc 17:32yn golofn halen.
27Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle #Pen 18:22y safasai efe ynddo gerbron yr Arglwydd. 28Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.
29A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.
30A Lot a esgynnodd o Soar, ac a drigodd yn y mynydd, a’i ddwy ferch gydag ef: oherwydd efe a ofnodd drigo yn Soar; ac a drigodd mewn ogof, efe a’i ddwy ferch.
31A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Ein tad ni sydd hen, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod atom ni, wrth ddefod yr holl ddaear. 32Tyred, rhoddwn i’n tad win i’w yfed, a gorweddwn gydag ef, fel y cadwom had o’n tad. 33A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno: a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda’i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi. 34A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyda’m tad; rhoddwn win iddo ef i’w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gydag ef, fel y cadwom had o’n tad. 35A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno hefyd: a’r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gydag ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi. 36Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd o’u tad. 37A’r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddiw. 38A’r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Ben‐ammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddiw.

Currently Selected:

Genesis 19: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in