YouVersion Logo
Search Icon

Mark 12

12
PENNOD XII.
Ddammeg y winllan. Christ yn gochelyd magl y Pharisai a’r Herodianiaid ynghŷlch talu teyrn-ged i Kæsar; yn argyhoeddi amryfusedd y Sadwkai, y rhai a wadent yr adgyfodiad; yn atteb yr ysgrifenydd oedd yn ymofyn am y gorchymyn cyntaf; ac yn canmol y weddw dlawd am ei dwy hatling, yn fwy nâ neb.
1AC efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gwr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o’i hamgylch, ac a gloddiodd ynddi wasg-gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwŷr, ac a aeth oddi cartref. 2Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwŷr, i dderbyn gan y llafurwŷr o ffrwyth y winllan. 3A hwy a’i daliasant ef, ac a’i baeddasant, ac a’i gyrrasant ymaith yn wag-law. 4A thrachefn yr anfonodd efe attynt was arall: a hwnnw y taflasant gerrig atto, ac yr archollasant ei ben, ac a’i gyrrasant ymaith yn ammharchus. 5A thrachefn yr anfonodd ef un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill. 6A chanddo etto un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd attynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab. 7Ond y llafurwŷr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd; deuwch, lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd ein eiddo ni. 8A hwy a’i daliasant ef, ac a’i lladdasant, ac a’i bwriasant allan o’r winllan. 9Beth gan hynny a wna Arglwydd y winllan? efe a ddaw, ac a ddifetha y llafurwŷr, ac a rydd y winllan i eraill. 10Oni wyddoch yr ysgrythyr hon? Y maen a wrthododd yr adeiladwŷr, a wnaethpwyd yn ben y gongl. 11Gan yr Arglwydd y gwnaethwyd hyn; a rhyfeddol yw yn ein llygaid ni. 12A hwy a geisiasant ei ddala ef; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddammeg: a hwy a’i gadawsant ef, ac a aethant ymaith. 13A hwy a anfonasant atto rai o’r Pharisai, ac o’r Herodianiaid, i’w rwydo ef yn ei ymadrodd. 14Hwythau pan ddaethant a ddywedasant wrtho, Athraw, ni a wyddom dy fod di yn eirwir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlawn rhoi teyrn-ged i Kæsar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi? 15Ond efe, gan wybod eu rhagrith, a ddywedodd wrthynt, Paham y profwch fi? dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi. 16A hwy a’i dygasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy yw y fath a’r argraph hon? A hwy a ddywedasant wrtho, Kæsar. 17A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch yr eiddo Kæsar i Kæsar, a’r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaethant o’i blegyd. 18Daeth y Sadwkai hefyd atto, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd, 19Athraw, fe ysgrifenodd Moses i ni, O bydd marw brawd neb, a gadael ei wraig, ac heb adael plant, am gymmeryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd. 20Yn awr fe fu saith o frodyr: a’r cyntaf a gymmerth wraig; a phan fu farw, ni adawodd had. 21A’r ail a’i cymmerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntau had: a’r trydydd yr un modd. 22A hwy a’i cymmerasant hi ill saith, ac ni adawsant had. Yn ddiweddaf o’r cwbl bu farw y wraig hefyd. 23Yn yr adgyfodiad gan hynny, pan adgyfodant, gwraig i ba un o honynt fydd hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig. 24A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Onid ydych yn cyfeiliorni yn hyn, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythyrau, na gallu Duw? 25Canys pan adgyfodant o feirw, ni wreicant, ac ni wrant; eithr y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd. 26Ond am y meirw, yr adgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llafarodd Duw wrtho yn y llwyn, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaak, a Duw Iakob? 27Nid yw efe Dduw y meirw, ond Duw y rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni yn fawr. 28Ac un o’r ysgrifenyddion, wedi eu clywed hwynt yn ymresymmmu, a gwybod atteb o hono iddynt yn gymmwys, a ddaeth, ac a ofynodd iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl? 29A’r Iesu a attebodd iddo, Y cyntaf o’r oll orchymynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw sydd un Arglwydd: 30A châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth. Hwn yw’r gorchymyn cyntaf. 31A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymmydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy nâ’r rhai hyn. 32A dywedodd yr ysgrifenydd wrtho, Da, Athraw, mewn gwirionedd y dywedaist, mai Duw sydd un, ac nad oes arall ond efe: 33A’i garu ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac a’r holl enaid, ac â’r holl nerth, a charu ei gymmydog megis ei hun, sydd fwy nâ'r holl boeth-offrymmau a’r aberthau. 34A’r Iesu pan welodd iddo atteb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth freniniaeth Duw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef. 35A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml, Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd? 36Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy yr Yspryd Glân, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfaingc i’th draed. 37Y mae Dafydd ei hun gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd: ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a’i gwrandawent ef yn gymerus. 38Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwennychant rodio mewn ysginau, a chael cyfarch yn y llysoedd, 39A’r prif-gadeiriau yn y synagogau, a’r prif-eisteddleoedd mewn ciniawau; 40Y rhai sydd yn llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon, mewn rhith hir-weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth pwysfawr. 41A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn a’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. 42A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw y bedwaredd. 43Ac efe a alwodd ei ddisgyblion atto, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, i’r wraig weddw dlawd hon fwrw i mewn fwy nâ’r holl rhai a fwriasant i’r drysorfa. 44Canys hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yngweddill ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl gynhaliaeth.

Currently Selected:

Mark 12: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in