YouVersion Logo
Search Icon

Mark 11

11
PENNOD XI.
Christ yn marchogaeth i Ierusalem: y pren deiliog diffrwyth. Christ yn glanhâu y deml: ac yn annog ei ddisgyblion i fod yn ddisigl mewn ffydd; ac i faddeu i’w gelynion.
1AC wedi eu dyfod yn agos i Ierusalem, i Bethphage a Bethania, wrth fynydd yr Olewŷdd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion. 2Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref sydd gyferbyn â chwi: ac yn y man y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhŷdd, a dygwch yma. 3Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn yma. 4A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, yn yr heol; ac a’i gollyngasant ef yn rhŷdd. 5A rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol? 6A dywedasant wrthynt fel y gorchymynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt. 7A dygasant yr ebol at yr Iesu, a bwriasant eu mantellu arno; ac efe a eisteddodd arno. 8A llawer a danasant eu mantellu ar hŷd y ffordd: ac eraill a dorrasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u tanasant ar y ffordd. 9A’r rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn canlyn, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna: Bendigedig fyddo yr hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd. 10Bendigedig yw breniniaeth ein tad Dafydd sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Hosanna yn y goruchaf. 11A’r Iesu a aeth i mewn i Ierusalem, ac i’r deml: ac wedi iddo edrych ar bob peth o’i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Bethania gyd â’r deuddeg. 12Ac ar y foru, wedi iddynt ddyfod allan o Bethania, yr oedd arno chwant bwyd. 13Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth atto, ni chafodd ond y dail: canys nid oedd amser ffigys. 14A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Na fwyttâed neb ffrwyth o honot byth mwy. A’i ddisgyblion ef a glywsant. 15A hwy a ddaethant i Ierusalem. A’r Iesu a aeth i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau yr echwynwyr, a chadeiriau y gwerthwŷr colommennod: 16Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml. 17Ac efe a’u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw yn ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 18A’r ysgrifenyddion a’r arch-offeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef; canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegyd ei athrawiaeth ef. 19A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o’r ddinas. 20A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwreiddiau. 21A Phedr, wedi adgofio, a ddywedodd wrtho, Athraw, wele, y ffigysbren a geryddaist, wedi crino. 22A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw. 23Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo; beth bynnag a ddywedo a fydd iddo. 24Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch gan weddïo, credwch y derbyniwch, ac efe fydd i chwi. 25A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau. 26Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddeu chwaith eich camweddau chwithau. 27A hwy a ddaethant drachefn i Ierusalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y deml, yr arch-offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid, a ddaethant atto. 28Ac a ofyn wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod i wneuthur y pethau hyn? 29A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynaf i chwithau un gair; ac attebwch fi, a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. 30Ai o’r nef oedd bedydd Ioan, ai o ddynion? attebwch fi. 31A hwy a ymresymmasant ynddynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech iddo? 32Eithr os dywedwn, O ddynion; yr oedd arnynt ofn y bobl: canys pawb a gyfrifent Ioan yn prophwyd yn ddïau. 33A hwy a attebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ac ni ddywedaf finnau i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

Currently Selected:

Mark 11: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in