YouVersion Logo
Search Icon

Matthaw 7

7
PENNOD VII.
Christ yn gwahardd barn ehud, yn annog i weddĂŻo, i ymgadw rhag gau-brophwydi ag i fod yn wneuthur-wyr y gair.
1NA fernwch, fel na’ch barner. 2Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir: ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau. 3A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 4Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gâd i mi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad; ac wele, drawst yn dy lygad dy hun? 5Oh ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun; ac yna y gweli yn eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.
6¶ Na roddwch y peth sydd sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemmau o flaen y môch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
7¶ Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. 8Canys pob un sy’n gofyn, sy’n derbyn; a’r neb sy’n ceisio, sy’n cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 9Pwy ddyn sydd o honoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 10Ac os gofyn efe am bysgodyn, a rydd iddo sarph? 11Os chwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynant iddo? 12Am hynny pa bethau bynnag a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwi iddynt hwy; canys hyn yw’r gyfraith a’r prophwydi.
13¶ Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys llydan yw’r porth, a helaeth yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: 14Mor gyfyng y porth, a cûl y ffordd sydd yn arwain i’r bywyd; a mor ychydig yw y rhai sydd yn myned iddi?
15¶ Ymogelwch rhag gau-brophwydi, y rhai a ddeuant attoch y’ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn ydynt fleiddiaid rheibus. 16Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Ni chesglir grawn-win oddi ar ddrain, na ffigys oddi ar ysgall. 17Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. 18Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. 19Pob pren ni ddwg ffrwythau da a dorrir i lawr, ac a deflir i’r tân. 20Gan hynny wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
21¶ Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i’r lywodraeth nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 22Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? 23Ac yna mynegaf wrthynt, Ni’s adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwŷr anwiredd. 24Gan hynny pwy bynnag sy’n gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffelybaf ef i wr câll, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig. 25A’r gwlaw a gwympodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw, etto ni syrthiodd; canys efe a sylfaenwyd ar y graig. 26A phob un a’r sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac ddim yn eu gwneuthur, a gyffelybir i wr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod: 27A’r gwlaw a gwympodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw: ac efe a syrthiodd, ac a gwympodd y rhan fwyaf. 28Ac wedi i’r Iesu ddibenu yr ymadroddion hyn, y torfeydd a synnasant wrth ei athrawiaeth ef. 29Canys yr oedd efe yn eu haddysgu fel un a braint ganddo, ac nid fel yr ysgrifennyddion.

Currently Selected:

Matthaw 7: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in