YouVersion Logo
Search Icon

Matthaw 8

8
PENNOD VIII.
Christ yn glanhau’r gwahan-glwyfus, yn iachau gwas y Canwriad, mam gwraig Pedr, ac amrhyw eraill; yn gostegu’r dymmestl ar y môr, ac yn gyrru cythreuliaid allan.
1AC wedi ei ddyfod ef i wared o’r mynydd, torfeydd lawer a’i canlynasant ef. 2Ac wele, un gwahan-glwyfus a ddaeth, ac a’i cyfarchodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau. 3A’r Iesu a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhäer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd. 4A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwel na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrymma’r rhodd a orchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
5¶ Ac wedi dyfod yr Iesu i Kapernäum, daeth atto Ganwriad, gan ddeisyfu arno, 6A dywdedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, ac mewn poen dirfawr. 7A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf ac a’i hiachâf ef. 8A’r Canwriad a attebodd, ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyf fi deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd: eithr yn unig dywed y gair, a’m gwas a iacheir. 9Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filŵyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Dyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. 10A’r Iesu pan glybu a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymmaint ffydd, na ddo yn yr Israel. 11Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin, ac a eisteddant wrth y bwrdd gyd ag Abraham ac Isaac a Iacob yn y lywodraeth nefol. 12Ond etifeddion y lywodraeth a deflir iʼr tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd. 13A dywedodd yr Iesu wrth y Canwriad, Dos ymaith; a megis y credaist, bydded i ti. A’i was a iachawyd yn yr awr honno.
14¶ A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o’r cryd-twym. 15Ac efe a gyffyrddodd â’i llaw hi; ar cryd a’i gadawodd: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.
16¶ Ac wedi ei hwyrhâu, hwy a ddygasant atto lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysprydion ai air; ac a iachaodd yr holl gleifion; 17Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd, Efe a gymmerodd ein gwendid ni, ac a ddûg ein clefydau.
18¶ A’r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch, a orchymynodd fyned drosodd i’r lan arall. 19A rhyw ysgrifenydd a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, Athraw, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 20A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffauau, a chan ehediad y nefoedd nythod: ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr. 21Ac arall, un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 22A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gâd i’r meirw gladdu eu meirw.
23¶ Ac wedi iddo fyned i’r llong, ei ddisgyblion a’i canlynasant ef. 24Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y llyn, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu. 25A’i ddisgyblion a ddaethant atto, ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: fe dderfir am danom. 26Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr; a bu dawelwch mawr. 27A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhâu iddo?
28¶ Ac wedi ei ddyfod ef i’r lan arall, i wlad y Gergesiai, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o’r beddau; mor ffyrnig, fell na allai neb fyned y ffordd honno. 29Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i’n poeni ni cyn yr amser? 30Ac yr oedd ym mhell oddi wrythynt genfaint o foch lawer, yn pori. 31A’r cythreuliaid a ddeisyfiasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniattâ i ni fyned ymaith i’r genfaint foch. 32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i’r genfaint foch. Ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd. 33A’r meichiaid a ffoisant: ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i’r rhai dieflig. 34Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu: a phan ei gwelsant, attolygasant iddo ymadael o’u cyffiniau hwynt.

Currently Selected:

Matthaw 8: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in