YouVersion Logo
Search Icon

Matthaw 22

22
PENNOD XXII.
Dammeg prïodas mab y brenin. Y dylid taly teyrn-ged i Kæsar. Crist yn atteb y Sadwkai ynghylch yr adgyfodiad; y cyfreithiwr, pa un yw y gorchymyn cyntaf, a’r mawr; ac yn holi y Pharisai ynghylch y Mesïas.
1A’R Iesu a attebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd, 2Cyffelyb yw’r lywodraeth nefoedd i frenin a wnaeth brïodas wledd i’w fab, 3Ac a ddanfonai ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r brïodas wledd: ac ni fynnent hwy ddyfod. 4Trachefn efe a anfonai weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, parottoais fy nghiniaw: fy ychain a’m pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i’r brïodas wledd. 5A hwy yn ddïystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i’w faes, ac arall i’w fasnach: 6A’r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a’u hammharchasant, ac a’u lladdasant. 7A phan glybu y brenin, efe a lidiodd; ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinystriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas. 8Yna efe a ddywedai wrth ei weision, Yn wir y brïodas wledd sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. 9Ewch gan hynny i’r groes-heolidd a chynnifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r brïodas.
10¶ A’r gweision hynny a aethant allan i’r heolidd, ac a gasglasant ynghŷd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y brïodas wledd o wahoddedigion. 11A phan ddaeth y brenhin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg brïodas am dano: 12Ac efe ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fod y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg brïodas? Ac efe a dawodd. 13Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, rhwymwch ei draed a’i ddwylaw, a chymmerwch ef ymaith, a theflwch i’r tywyllwch allanawl: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd. 14Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis. 15Yna’r aeth y Pharisai, ac a gymmerasant gynghor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. 16A hwy a ddanfonasant atto eu disgyblion ynghŷd â’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegyd nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion. 17Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlawn rhoddi teyrn-ged i Kæsar, ai nid yw? 18Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy mhrofi i, chwi ragrithwŷr. 19Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant iddo geiniog. 20Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy yw y fâth a’r enw hwn? 21Dywedasant wrtho, Kæsar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Kæsar i Kæsar, a’r eiddo Duw i Dduw. 22A phan glywsant hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adael ef, a myned ymaith. 23Y dydd hwnnw y daeth atto y Sadwkai, y rhai sydd yn dywedyd nad oes adgyfodiad, ac a ofynasant iddo, 24Gan ddywedyd, Athraw, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i’w frawd. 25Yn awr yr oedd gyd â ni saith o frodyr: ar cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i’w frawd. 26Felly hefyd yr ail, a’r trydydd, hyd y seithfed. 27Ac yn ddiweddaf oll bu farw y wraig hefyd. 28Yn yr adgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o’r saith fydd hi? canys hwynt oll a’i cawsant hi. 29A’r Iesu a attebai ac a ddywedai wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythyrau, na gallu Duw. 30Oblegyd yn yr adgyfodiad nid ydynt nac yn gŵreica, nac yn gŵra; eithr y maent fel angylion Duw yn y nef. 31Ac am adgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, 32Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaak, a Duw Iakob? Nid yw Duw, Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. 33A phan glybu y torfeydd hynny, hwy a synnasant wrth ei athrawiaeth ef. 34Ac wedi clywed o’r Pharisai ddarfod i’r Iesu ostegu y Sadukai, hwy a ymgynnullasant ynghŷd i’r un lle. 35Ac un o honynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynodd iddo, gan ei brofi, a dywedyd, 36Athraw, pa un yw y gorchymyn mawr yn y gyfraith? 37A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac a’th holl enaid, ac a’th holl feddwl. 38Hwn yw’r cyntaf, a’r gorchymyn mawr. 39A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymmydog fel ti dy hun. 40Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl gyfraith a’r prophwydi yn sefyll. 41Ac wedi ymgasglu o’r Pharisai ynghŷd, yr Iesu a ofynodd iddynt, 42Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd. 43Dywedai yntau wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr yspryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, 44Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfaingc i’th draed di? 45Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo? 46Ac nid allodd neb atteb gair iddo; ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ymholi ag ef mwyach.

Currently Selected:

Matthaw 22: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in