YouVersion Logo
Search Icon

Matthaw 21

21
PENNOD XXI.
Crist yn marchogaeth ar asen i Ierusalem; yn gyrru’r prynwŷr a’r gwerthwŷr o’r deml; yn melldithio’r ffigysbren; yn gostegu’r offeiriaid a’r henuriaid, ac yn eu ceryddu trwy gyffelybrwydd y ddau fab, a’r llafurwŷr a laddasant y rhai a anfonwyd attynt.
1A PHAN ddaethant yn gyfagos i Ierusalem, a’u dyfod hwy i Bethphage, i fynydd yr Olewŷdd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl, 2Gan ddywdedyd wrthynt, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym ac ebol gyd â hi: gollyngwch hwynt, a dygwch attaf fi. 3Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch. Y mae yn rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a’u denfyn hwynt. 4A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn draethwyd trwy y prophwyd, yn dywedyd, 5Hyspyswch i ferch Sïon, Wele, dy Frenin yn dyfod i ti yn addfwyn, ac yn eistedd ar asyn, ac ar ebol llwdn asyn. 6Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymynasai yr Iesu iddynt. 7A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a’i gosodasant ef i eistedd ar hynny. 8A thyrfa ddirfawr a danasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorrasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u tanasant ar hŷd y ffordd. 9A’r torfeydd, y rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ol, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Hosanna yn y goruchaf. 10Ac wedi ei ddyfod ef i Ierusalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn? 11A’r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y prophwyd y sydd o Nazaret yn Galilaia. 12A’r Iesu a aeth i mewn i deml Duw, ac a fwrodd allan bawb a’r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fryddau yr echwynwŷr arian, a chadeiriau y rhai oedd yn#21.12 Rhoi echwyn arian, a gwerthu aberth oeddynt gwaharddedig gan gyfraith Moses. gwerthu colommennod. 13Ac efe ddywedodd wrthynt, Ysgrifenwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 14A daeth y deillion a’r cloffion atto yn y deml; ac efe a’u hiachaodd hwynt. 15A phan welodd yr arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a’r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant, 16Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant? 17Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o’r ddinas i Bethania, ac a lettyodd yno. 18A’r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd. 19A phan welôdd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth atto, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig; ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren. 20A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymmwth y crinodd y ffigysbren! 21A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb ammeu, ni wnewch yn unig hyn a wnaethum i i’r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fynu, a bwrier di i’r môr; hynny a fydd. 22A pha beth bynnag a ofynoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a’i derbyniwch. 23Ac wedi ei ddyfod ef i’r deml, yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant atto, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon? 24A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Minnau a ofynaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
25¶ Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed wrthym, Paham gan hynny na’s credasoch ef? 26Ond os dywedwn, O ddynion; y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan megis prophwyd. 27A hwy a attebasant i’r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
28¶ Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan wr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddyw yn fy ngwinllan. 29Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth. 30A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth. 31Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â’r publicanod a’r putteiniaid i mewn i lywodraeth Duw o’ch blaen chwi. 32Canys daeth Ioan attoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef: ond y publicanod a’r putteiniaid a’i credasant ef. Chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef. 33Clywch ddammeg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi wasg-gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwŷr, ac a aeth oddi cartref. 34A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwŷr, i dderbyn ei ffrwythau hi. 35A’r llafurwŷr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant. 36Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, uwch na’r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd. 37Ac yn ddiweddaf oll, efe a anfonodd attynt ei fab ei hun; gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab. 38A phan welodd y llafurwŷr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a meddianwn ei etifeddiaeth. 39Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant. 40Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafurwŷr hynny? 41Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwŷr eraill, y rhai a dalant iddo y ffrwythau yn eu hamserau. 42Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythyrau, Y maen a wrthododd yr adeiladwŷr, a wnaethpwyd yn ben i’r gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni! 43Am hynny meddaf i chwi, y dygir breniniaeth Duw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau. 44A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir ganddo: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw. 45A phan glybu yr arch-offeiriaid a’r Pharisai ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai. 46Ac a hwy yn ceisio ei ddala, a ofnasant y torfeydd; am eu bod yn ei gymmeryd ef fel prophwyd.

Currently Selected:

Matthaw 21: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in