YouVersion Logo
Search Icon

Matthaw 13

13
PENNOD XIII.
Dammeg yr hauwr a’r hâd, yr efrau, yr hâd mwstard, y surdoes, y trysor cuddiedig, y perl, a’r rhwyd. Dirmygiad Christ gan ei gydwladwyr.
1Y DYDD hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac yr eisteddodd wrth lan y llyn. 2A thorfeydd lawer a ymgynnullasant atto ef, fel yr aeth efe i’r bâd, ac yr eisteddodd: a’r holl dyrfa a safodd ar y lan. 3Ac efe a lefarodd wrthynt lawer trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr hauwr a aeth allan i hau. 4Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar y ffordd; a’r adar a ddaethant ac a’i difasant. 5Arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear: 6Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant. 7Ac arall a syrthiodd ym mhlith y drain; a’r drain a godasant, ac a’u tagasant hwy. 8Arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri-ugeinfed, arall ar ei degfed ar hugain. 9Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed. 10A’i ddisgyblion a ddaethant ac a ofynnant iddo, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion? 11Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, oblegyd i chwi roddwyd i wybod dirgelion y lywodraeth nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy. 12Oblegyd pwy bynnag sydd ganddo yn helaeth, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag sydd ganddo ond ychydig, oddi arno ef y cymmerir, ïe, yr hyn sydd ganddo. 13Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy trwy ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. 14Ac ynddynt hwy cyflawnir prophwydoliaeth Esaias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeallwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch. 15Canys caledwyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â’u clustiau yn drwm, ac a gauasant eu llygaid; rhag canfod â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, ac iddynt droi, ac i mi eu hiachâu hwynt. 16Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a’ch clustiau, am eu bod yn clywed. 17Oblegyd yn wir y dywedaf i chwi, chwennychu o lawer o brophwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac ni’s gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac ni’s clywsant. 18Gwrandêwch gan hynny ddammeg yr hauwr. 19Pob un ag sydd yn clywed y gair am y lywodraeth, ac heb ei deall, y mae’r un drwg yn dyfod, ac yn cipio’r hyn a hauwyd yn ei galon ef. Dyma’r hwn a hauwyd ar y ffordd. 20A’r hwn a hauwyd ar y creigleoedd, yw’r hwn sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn; 21Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae; a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegyd y gair, yn ddioed efe a rwystrir. 22A’r hwn a hauwyd ym mhlith y drain, yw’r hwn sydd yn gwrandaw y gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth yn tagu’r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. 23Ond yr hwn a hauwyd yn y tir da, yw’r hwn sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri-ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain. 24Dammeg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Y lywodraeth nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a hauodd had da yn ei faes: 25A thra yr oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ac a hauodd efrau ym mhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. 26Ac wedi i’r eginyn, dyfu, a dangos ffrwyth, yna’r ymddangosodd yr efrau hefyd. 27A gweision gwr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni hauaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y daeth yr efrau? 28Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt? 29Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio y gwenith gyd â hwynt. 30Gadêwch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf: ac yn amser y cynhauaf mi a ddywedaf wrth y medelwŷr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i’w llwyr-losgi; ond cesglwch y gwenith i’m hysgubor. 31Dammeg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw lywodraeth nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn ac a’i hauodd yn ei faes. 32Yr hwn sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu ydyw y mwyaf o’r llysiau, ac yn myned yn bren; fel y daw adar y nef i nythu yn ei gangau. 33Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt, Cyffelyb yw’r lywodraeth nefoedd i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig ac a’i cuddiodd mewn tri pheccaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl. 34Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; ac heb ddammeg ni lefarodd efe wrthynt: 35Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd. 36Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i’r tŷ: a’i ddisgyblion a ddaethant atto, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau’r maes. 37Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau yr had da yw Mab y dyn; 38A’r maes yw’r byd; a’r had da yw plant y lywodraeth: a’r efrau yw plant yr un drwg. 39A’r gelyn yr hwn a’u hauodd hwynt, yw y diafol; a’r cynhauaf yw diwedd yr oes; a’r medelwŷr yw yr angylion. 40Megis gan hynny y cynhullir yr efrau, ac a’u llwyrlosgir yn y tân; felly y bydd yn niwedd yr oes hon. 41Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynhullant allan o’i lywodraeth ef yr holl dramgwyddiadau, a’r rhai a wnant anwiredd; 42Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân; yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd. 43Yna y llewyrcha y rhai cyfiawn fel yr haul, yn lywodraeth eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed. 44Drachefn, cyffelyb yw’r lywodraeth nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a’i celodd, ac o lawenydd am dano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu yr hyn oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnnw. 45Drachefn, cyffelyb yw’r lywodraeth nefoedd i farchnattawr, yn ceisio perlau teg: 46Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth ac a werthodd gymmaint oll ag a feddai, ac a’i prynodd ef. 47Drachefn, cyffelyb yw’r lywodraeth nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth: 48Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i’r lan, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai marchnadawl mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai diles. 49Felly y bydd yn niwed yr oes: yr angylion a ant allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn; 50Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd. 51Iesu a ofynnodd iddynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do, Arglwydd. 52A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifenydd wedi ei ddysgu i lywodraeth nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor, bethau newydd a hen. 53A bu, wedi i’r Iesu orphen, y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno. 54Ac efe a ddaeth i’w wlad ei hun, ac a’u dysgodd hwynt yn eu synagog; fel y synnodd arnynt, ac yr ymofynasant, O ba le y daeth y doethineb hyn a’r gweithredoedd nerthol i’r dyn hwn? 55Onid hwn yw mab y saer? onid Maria y gelwir ei fam ef? a Iacob, a Ioses, a Simon, a Iudas, ei frodyr ef? 56Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyd â ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll? 57A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt. Nid yw prophwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. 58Ac ni wnaeth efe nemmawr o weithredoedd nerthol yno, oblegyd eu hanghrediniaeth hwynt.

Currently Selected:

Matthaw 13: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in