YouVersion Logo
Search Icon

Matthaw 14

14
PENNOD XIV.
Tyb Herod am Grist. Dihennydd Ioan. Iesu yn porthi lluoedd a phum torth, a dau byscodyn, yn rhodio ar y llyn, ac yn iachau y cleifion a gyffyrddai ag ymyl ei wisg ef.
1YN yr un amser clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu. 2Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef. 3Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai, ac a’i dodasai y’ngharchar oblegyd Herodias, gwraig Philip ei frawd ef. 4Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlawn i ti ei chael hi. 5Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a’i cymmerent ef megis prophwyd. 6Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu fron, ac a ryngodd fodd i Herod. 7O ba herwydd efe a addawodd trwy lw roddi iddi beth bynnag a ofynai. 8A hithau, wedi ei rhag-ddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl. 9A’r brenhin a fu drist ganddo: eithr o herwydd y llw, a’r rhai a orweddasant gyd ag ef i fwyta, efe a orchymynodd ei roi. 10Ac efe a anfonodd ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar. 11A dycpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a’i rhoddwyd i’r llangces; a hi a’i dug ef i’w mam. 12A’i ddisgyblion ef a ddaethant ac a gymmerasant ei gorph, ac a’i claddasant: ac a aethant ac a fynegasant i’r Iesu. 13A phan glybu yr Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn bâd i anghyfanneddle o’r naill du: ac wedi clywed o’r torfeydd, hwy a’i canlynasant ef ar draed allan o’r dinasoedd. 14A’r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, a dosturiodd wrthynt, ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt. 15Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion atto, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a’r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i’r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd. 16A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt i’w fwytta. 17A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn. 18Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi. 19Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymmeryd y pum torth, a’r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fynu tu a’r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd, ac a roddes y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd. 20A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o’r briw-fwyd oedd y’ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn. 21A’r rhai a fwyttasent oeddent ynghylch pum-mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant. 22Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i gymmerid bâd, ac i fyned i’r lan arall o’i flaen ef, tra byddai efe yn gollwng ymaith y torfeydd. 23Ac wedi iddo ollwng ymaith y torfeydd, efe a esgynodd i’r mynydd wrtho ei hun, i weddïo: ac wedi ei hwyrhâu hi, yr oedd efe yno yn unig. 24A’r bâd oedd yn awr yn nghanol y llyn, yn drallodus gan donnau: canys y gwŷnt oedd wrthwynebus. 25Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos yr aeth yr Iesu attynt, gan rodio ar y llyn. 26A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y llyn, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw, A hwy a waeddasant rhag ofn. 27Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymmerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch. 28A Phedr a’i hattebodd, ac a ddywedodd, Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod attat ar y dyfroedd. 29Ac efe a ddywedodd, Dyred. Ac wedi i Pedr ddisgyn o’r bâd efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu. 30Ond pan welodd efe y gwŷnt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi. 31Ac yn y man yr estynodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist? 32A phan aethant hwy i mewn i’r bâd, peidiodd y gwŷnt. 33A daeth y rhai oedd yn y bâd, ac a’i cyfarchasant ef, gan ddywedyd, Yn wir ydwyt fab Duw. 34Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret. 35A phan adnabu gwŷr y lle hwnnw ef, hwy a anfonasant i’r holl wlad o amgylch, ac a ddygasant atto y rhai oll oedd mewn anhwyl: 36Ac a attolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynnifer ag a gyffyrddodd a iachawyd.

Currently Selected:

Matthaw 14: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in