YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 14

14
PENNOD XIV.
Christ yn cysuro ei ddisgyblion; yn proffesu mai efe yw y ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd; a’i fod yn un â’r Tad: y bydd eu gweddïau hwy yn ei enw ef yn ffrwythlawn: yn dymuno cariad ac ufudd-dod: yn addaw yr Yspryd Glân y Diddanydd; ac yn gadael ei dangnefedd gyd â hwynt.
1NA thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, ac yr ydych yn credu ynof finnau. 2Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i barottôi lle i chwi. 3Ac os myfi a af, ac a barattoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymmeraf chwi attaf fy hun: fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd. 4Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a’r ffordd a wyddoch. 5Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i i ba le yr wyt ti yn myned a pha fodd y gallwn wybod y ffordd? 6Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw y ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi. 7Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a’i gwelsoch ef. 8Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni. 9Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyd â chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb am gwelodd i, a welodd y Tad; a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad? 10Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid o honof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd. 11Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau: ac onid ê, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain. 12Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy nâ’r rhai hyn a wna efe: oblegyd yr wyf fi yn myned at fy Nhad. 13A pha beth bynnag a ofynoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab. 14Os gofynwch yn fy enw i, mi a’i gwnaf. 15Os cerwch fi, cedwch fy ngorchymynion. 16A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyd â chwi yn dragywyddol; 17Yspryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef: o herwydd y mae yn aros gyd â chwi, ac efe a fydd ynoch. 18Ni’s gadawaf chwi yn amddifaid: mi a ddeuaf attoch chwi. 19Etto ennyd bach, a’r byd ni’m gwel mwy: eithr chwi a’m gwelwch; canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd. 20Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau. 21Yr hwn sydd â’m gorchymynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw yr hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo. 22Dywedodd Iudas wrtho, (nid yr Iscariot) Arglwydd, pa beth yw yr achos yr wyt ar fedr dy eglurhâu dy hun i ni, ac nid i’r byd? 23Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a’m Tad a’i câr yntau, a nyni â ddeuwn atto, ac a wnawn ein trigfa gyd ag ef. 24Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a’r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo y Tad a’m hanfonodd i. 25Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyd â chwi. 26Eithr y Diddanydd, yr Yspryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi bob peth, ac a ddwg ar gof i chwi yr holl bethau a ddywedais i chwi. 27Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei rhoddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned. 28Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf attoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi. 29Ac yr awrhon y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch. 30Nid ymddiddanaf â chwi nemmawr bellach: canys llywydd y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes i mi. 31Ond i wneud i’r byd wybod fy mod i yn caru y Tad, ac megis y gorchymynodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.

Currently Selected:

Ioan 14: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in