YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 13

13
PENNOD XIII.
Yr Iesu yn golchi traed ei ddisgyblion: yn eu hannog i ostyngeiddrwydd, a chariad: yn rhag-ddywedyd, ac yn datguddio i Ioan, trwy arwydd, y bradychai Iudas ef: yn gorchymyn iddynt garu eu gilydd: ac yn rhybuddio Pedr y gwadai efe ef.
1A CHYN gwledd y pasg, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei awr ef i ymadael â’r byd hwn at y Tad, efe yn caru yr eiddo, y rhai oedd yn y byd, a’u carodd hwynt hyd y diwedd. 2Ac wedi darfod cwynos (wedi i ddiafol eisoes roi ynghalon Iudas Iscariot, fab Simon, ei fradychu ef) 3Yr Iesu yn gwybod roddi o’r Tad bob peth oll yn ei ddwylaw ef, a’i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw. 4Efe a gyfododd oddi ar swpper, ac a roes heibio ei wisg uchaf: ac a gymmerodd dywel, ac a ymwregysodd. 5Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i’r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion, a’u sychu â’r tywel, â’r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu. 6Yna y daeth efe at Simon Pedr. A hwn a ddywedodd wrtho, Arglwydd, a wyt ti yn golchi fy nhraed i? 7Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awrhon: eithr ti a gei wybod ar ol hyn. 8Pedr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a attebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyd â myfi. 9Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylaw a’m pen hefyd. 10Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, ac y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb. 11Canys efe a wyddai pwy a’i traddodai: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb. 12Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymmeryd ei gochl-wisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wnaethum i chwi? 13Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athraw, a’r Arglwydd: a da y dywedwch: canys felly yr ydwyf. 14Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athraw, a olchais eich traed chwi; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd. 15Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi. 16Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw y gwas yn fwy nâ’i arglwydd; na’r hwn a ddanfonwyd yn fwy nâ’r hwn a’i danfonodd. 17Gan y gwyddoch y pethau hyn, gwŷn eich byd os gwnewch hwynt. 18Nid wyf fi yn dywedyd am danoch oll; mi a wn pwy a ddewisais: ond fel y cyflawnid yr ysgrythyr, Yr hwn sydd yn bwytta bara gyd â mi a gododd ei sawdl yn fy erbyn. 19Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch mai myfi yw efe. 20Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a’r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 21Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr yspryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un o honoch fi. 22Yna y disgyblion a edrychasant ar eu gilydd, gan ammeu am bwy yr oedd efe yn dywedyd. 23Ac yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu. 24Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd. 25Ac yntau yn pwyso ar ddwyfron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? 26Yr Iesu a attebodd, Efe i’r hwn y rhoddaf fi dammaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu y tammaid, efe a’i rhoddodd i Iudas Iscariot, fab Simon. 27Ac ar ol y tammaid, yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys. 28Ac ni wyddai neb o’r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho. 29Canys rhai oedd yn tybied, am fod Iudas â’r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Pryn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn y wledd, neu, ar roi o hono beth i’r tlodion. 30Yntau gan hynny, wedi derbyn y tammaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi yn nos. 31Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef. 32Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd. 33O blant bychain, etto yr wyf ennyd fechan gyd â chwi. Chwi a’m ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iudaion, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awrhon. 34Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu o honoch eich gilydd, fel y cerais i chwi, ar garu o honoch chwithau bawb eich gilydd. 35Os bydd gennych gariad i’ch gilydd, wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych. 36A Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti yn myned? Yr Iesu a attebodd iddo, Lle yr ydwyf fi yn myned, ni elli di yn awr fy nghanlyn: eithr ar ol hyn y’m canlyni. 37Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, paham na allaf fi dy ganlyn yr awrhon? mi a roddaf fy einioes drosot. 38Yr Iesu a attebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.

Currently Selected:

Ioan 13: JJCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in