YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 7

7
1A meibion Issachar oedd, Tola, a Phua, Jasub, a Simron, pedwar. 2A meibion Tola; Ussi, a Reffaia, a Jeriel, a Jahmai, a Jibsam, a Semuel, penaethiaid ar dŷ eu tadau: o Tola yr ydoedd gwŷr cedyrn o nerth yn eu cenedlaethau; eu rhif yn nyddiau Dafydd oedd ddwy fil ar hugain a chwe chant. 3A meibion Ussi; Israhïa: a meibion Israhïa; Michael, ac Obadeia, a Joel, Isia, pump: yn benaethiaid oll. 4A chyda hwynt yn eu cenedlaethau, ac yn ôl tŷ eu tadau, yr ydoedd byddinoedd milwyr i ryfel, un fil ar bymtheg ar hugain: canys llawer oedd ganddynt o wragedd a meibion. 5A’u brodyr cedyrn o nerth, o holl deuluoedd Issachar, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn saith mil a phedwar ugain mil oll.
6A meibion Benjamin oedd, Bela, a Becher, a Jediael, tri. 7A meibion Bela; Esbon, ac Ussi, ac Ussiel, a Jerimoth, ac Iri; pump o bennau tŷ eu tadau, cedyrn o nerth, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn ddwy fil ar hugain a phedwar ar ddeg ar hugain. 8A meibion Becher oedd, Semira, a Joas, ac Elieser, ac Elioenai, ac Omri, a Jerimoth, ac Abeia, ac Anathoth, ac Alemeth: y rhai hyn oll oedd feibion Becher. 9A hwy a rifwyd wrth eu hachau, yn ôl eu cenedlaethau, yn bennau tŷ eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn ugain mil a dau cant. 10A meibion Jediael; Bilhan: a meibion Bilhan; Jeus, a Benjamin, ac Ehud, a Chenaana, a Sethan, a Tharsis, ac Ahisahar. 11Y rhai hyn oll oedd feibion Jediael, yn bennau eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn myned allan mewn llu i ryfel, yn ddwy fil ar bymtheg a deucant. 12Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, meibion Aher.
13Meibion Nafftali; Jasiel, a Guni, a Geser, a Salum, meibion Bilha.
14Meibion Manasse; Asriel, yr hwn a ymddûg ei wraig: (ond ei ordderchwraig o Syria a ymddûg Machir tad Gilead: 15A Machir a gymerodd yn wraig chwaer Huppim a Suppim, ac enw eu chwaer hwynt oedd Maacha:) ac enw yr ail fab Salffaad: ac i Salffaad yr oedd merched. 16A Maacha gwraig Machir a ymddûg fab, a hi a alwodd ei enw ef Peres, ac enw ei frawd ef Seres, a’i feibion ef oedd Ulam a Racem. 17A meibion Ulam; Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse. 18A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod, ac Abieser, a Mahala. 19A meibion Semida oedd, Ahïan, a Sechem, a Lichi, ac Aniham.
20A meibion Effraim; Suthela, a Bered ei fab ef, a Thahath ei fab yntau, ac Elada ei fab yntau, a Thahath ei fab yntau,
21A Sabad ei fab yntau, a Suthela ei fab yntau, ac Eser, ac Elead: a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir, a’u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn eu hanifeiliaid hwynt. 22Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer; a’i frodyr a ddaethant i’w gysuro ef.
23A phan aeth efe at ei wraig, hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Bereia, am fod drygfyd yn ei dŷ ef. 24(Seera hefyd oedd ei ferch ef, a hi a adeiladodd Beth-horon yr isaf, a’r uchaf hefyd, ac Ussen-sera.) 25A Reffa oedd ei fab ef, a Reseff, a Thela ei fab yntau, a Thahan ei fab yntau, 26Laadan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau, 27Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau.
28A’u meddiant a’u cyfanheddau oedd, Bethel a’i phentrefi, ac o du y dwyrain Naaran, ac o du y gorllewin Geser a’i phentrefi; a Sichem a’i phentrefi, hyd Gasa a’i phentrefi: 29Ac ar derfynau meibion Manasse, Beth-sean, a’i phentrefi, Taanach a’i phentrefi, Megido a’i phentrefi, Dor a’i phentrefi. Meibion Joseff mab Israel a drigasant yn y rhai hyn.
30Meibion Aser; Imna, ac Isua, ac Isuai, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. 31A meibion Bereia; Heber, a Malchiel, hwn yw tad Birsafith. 32A Heber a genhedlodd Jafflet, a Somer, a Hotham, a Sua eu chwaer hwynt. 33A meibion Jafflet; Pasach, a Bimhal, ac Asuath. Dyma feibion Jafflet. 34A meibion Samer; Ahi, a Roga, Jehubba, ac Aram. 35A meibion ei frawd ef Helem; Soffa, ac Imna, a Seles, ac Amal. 36Meibion Soffa; Sua, a Harneffer, a Sual, a Beri, ac Imra, 37Beser, a Hod, a Samma, a Silsa, ac Ithran, a Beera. 38A meibion Jether; Jeffunne, Pispa hefyd, ac Ara. 39A meibion Ula; Ara, a Haniel, a Resia. 40Y rhai hyn oll oedd feibion Aser, pennau eu cenedl, yn ddewis wŷr o nerth, yn bennau-capteiniaid. A’r cyfrif trwy eu hachau o wŷr i ryfel, oedd chwe mil ar hugain o wŷr.

Currently Selected:

1 Cronicl 7: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in