YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 6

6
1Meibion Lefi; Gerson, Cohath, a Merari. 2A meibion Cohath; Amram, Ishar, a Hebron, ac Ussiel. 3A phlant Amram; Aaron, Moses, a Miriam: a meibion Aaron; Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.
4Eleasar a genhedlodd Phinees, Phinees a genhedlodd Abisua, 5Ac Abisua a genhedlodd Bucci, a Bucci a genhedlodd Ussi, 6Ac Ussi a genhedlodd Seraheia, a Seraheia a genhedlodd Meraioth. 7Meraioth a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub, 8Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Ahimaas, 9Ac Ahimaas a genhedlodd Asareia, ac Asareia a genhedlodd Johanan, 10A Johanan a genhedlodd Asareia; (hwn oedd yn offeiriad yn y tŷ a adeiladodd Solomon yn Jerwsalem:) 11Ac Asareia a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub, 12Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Salum, 13A Salum a genhedlodd Hilceia, a Hilceia a genhedlodd Asareia, 14Ac Asareia a genhedlodd Seraia, a Seraia a genhedlodd Jehosadac: 15A Jehosadac a ymadawodd, pan gaethgludodd yr Arglwydd Jwda a Jerwsalem trwy law Nebuchodonosor.
16Meibion Lefi; Gersom, Cohath, a Merari. 17A dyma enwau meibion Gersom; Libni, a Simei. 18A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, a Hebron, ac Ussiel. 19Meibion Merari; Mahli, a Musi. A dyma dylwyth y Lefiaid, yn ôl eu tadau. 20I Gersom; Libni ei fab, Jahath ei fab yntau, Simma ei fab yntau, 21Joa ei fab yntau, Ido ei fab yntau, Sera ei fab yntau, a Jeaterai ei fab yntau. 22Meibion Cohath; Aminadab ei fab ef, Cora ei fab yntau, Assir ei fab yntau, 23Elcana ei fab yntau, ac Ebiasaff ei fab yntau, ac Assir ei fab yntau, 24Tahath ei fab yntau, Uriel ei fab yntau, Usseia ei fab yntau, a Saul ei fab yntau. 25A meibion Elcana; Amasai, ac Ahimoth. 26Elcana: meibion Elcana; Soffai ei fab ef, a Nahath ei fab yntau. 27Eliab ei fab yntau, Jeroham ei fab yntau, Elcana ei fab yntau. 28A meibion Samuel; y cyntaf-anedig, Fasni, yna Abeia. 29Meibion Merari; Mahli, Libni ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Ussa ei fab yntau, 30Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau. 31Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr Arglwydd, ar ôl gorffwys o’r arch. 32A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod, nes adeiladu o Solomon dŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem: a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasanaeth. 33A dyma y rhai a weiniasant, a’u meibion hefyd: o feibion y Cohathiaid; Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel, 34Fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa, 35Fab Suff, fab Elcana, fab Mahath, fab Amasai, 36Fab Elcana, fab Joel, fab Asareia, fab Seffaneia, 37Fab Tahath, fab Assir, fab Ebiasaff, fab Cora, 38Fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, fab Israel. 39A’i frawd Asaff, yr hwn oedd yn sefyll ar ei law ddeau, sef Asaff mab Beracheia, fab Simea, 40Fab Michael, fab Baaseia, fab Malcheia, 41Fab Ethni, fab Sera, fab Adaia, 42Fab Ethan, fab Simma, fab Simei, 43Fab Jahath, fab Gersom, fab Lefi. 44A’u brodyr hwynt, meibion Merari, oedd ar y llaw aswy: Ethan mab Cisi, fab Abdi, fab Maluc, 45Fab Hasabeia, fab Amaseia, fab Hilceia, 46Fab Amsi, fab Bani, fab Samer, 47Fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi. 48A’u brodyr hwynt y Lefiaid oedd gwedi eu rhoddi ar holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw.
49Ond Aaron a’i feibion a aberthasant ar allor y poethoffrwm, ac ar allor yr arogl-darth, i gyflawni holl wasanaeth y cysegr sancteiddiolaf, ac i wneuthur cymod dros Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses gwas Duw. 50Dyma hefyd feibion Aaron; Eleasar ei fab ef, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau, 51Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau, 52Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau, 53Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.
54A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion Aaron, o dylwyth y Cohathiaid: oblegid eiddynt hwy ydoedd y rhan hon. 55A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda, a’i meysydd pentrefol o’i hamgylch. 56Ond meysydd y ddinas, a’i phentrefi, a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne. 57Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda, sef Hebron, y ddinas noddfa, a Libna a’i meysydd pentrefol, a Jattir ac Estemoa, a’u meysydd pentrefol, 58A Hilen a’i meysydd pentrefol, a Debir a’i meysydd pentrefol, 59Ac Asan a’i meysydd pentrefol, a Bethsemes a’i meysydd pentrefol: 60Ac o lwyth Benjamin; Geba a’i meysydd pentrefol, ac Alemeth a’i meysydd pentrefol, ac Anathoth a’i meysydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg. 61Ac i’r rhan arall o feibion Cohath o deulu y llwyth hwnnw, y rhoddwyd o’r hanner llwyth, sef hanner Manasse, ddeg dinas wrth goelbren. 62Rhoddasant hefyd i feibion Gersom trwy eu teuluoedd, o lwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o lwyth Manasse yn Basan, dair ar ddeg o ddinasoedd. 63I feibion Merari trwy eu teuluoedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd. 64A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol. 65A hwy a roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt. 66I’r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Effraim. 67A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa, sef Sichem a’i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim; Geser hefyd a’i meysydd pentrefol, 68Jocmeam hefyd a’i meysydd pentrefol, a Beth-horon a’i meysydd pentrefol, 69Ac Ajalon a’i meysydd pentrefol, a Gath-rimmon a’i meysydd pentrefol. 70Ac o hanner llwyth Manasse; Aner a’i meysydd pentrefol, a Bileam a’i meysydd pentrefol, i deulu y rhai oedd yng ngweddill o feibion Cohath. 71I feibion Gersom o deulu hanner llwyth Manasse y rhoddwyd, Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol, Astaroth hefyd a’i meysydd pentrefol. 72Ac o lwyth Issachar; Cedes a’i meysydd pentrefol, Daberath a’i meysydd pentrefol, 73Ramoth hefyd a’i meysydd pentrefol, ac Anem a’i meysydd pentrefol. 74Ac o lwyth Aser; Masal a’i meysydd pentrefol, ac Abdon a’i meysydd pentrefol, 75Hucoc hefyd a’i meysydd pentrefol, a Rehob a’i meysydd pentrefol. 76Ac o lwyth Nafftali; Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol, Hammon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Chiriathaim a’i meysydd pentrefol. 77I’r rhan arall o feibion Merari y rhoddwyd o lwyth Sabulon, Rimmon a’i meysydd pentrefol, a Thabor a’i meysydd pentrefol. 78Ac am yr Iorddonen a Jericho, sef o du dwyrain yr Iorddonen, y rhoddwyd o lwyth Reuben, Beser yn yr anialwch a’i meysydd pentrefol, Jasa hefyd a’i meysydd pentrefol, 79Cedemoth hefyd a’i meysydd pentrefol, a Meffaath a’i meysydd pentrefol. 80Ac o lwyth Gad, Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol, Mahanaim hefyd a’i meysydd pentrefol, 81Hesbon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Jaser a’i meysydd pentrefol.

Currently Selected:

1 Cronicl 6: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in