Λογότυπο YouVersion
Εικονίδιο αναζήτησης

Ioan 2

2
Yr arwydd cyntaf: troi dwfr yn win.
1A'r trydydd#2:1 Ar ol galwad Philip (1:43). dydd yr oedd priodas‐wledd#2:1 Gweler Mat 22:2; Luc 12:36. yn Cana#2:1 Yr oedd Cana hefyd yn Cœlo‐Syria, neu Canah yn perthyn i Aser (Jos 19:28). Ni enwir Cana Galilea na Nazareth yn yr Hen Destament. yn Galilea: ac yr oedd mam yr Iesu yno. 2A galwyd yr Iesu hefyd a'i Ddysgyblion i'r briodas‐wledd. 3A#2:3 Felly llawysgrifau a Brnd. ond Ti. Ychwanega א nid oedd ganddynt win, canys gwin y briodas‐wledd a ddarfyddodd; yna Ti. phan ballodd gwin, y mae mam yr Iesu yn dywedyd wrtho ef, Nid oes ganddynt win. 4Y mae yr Iesu yn dywedyd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi#2:4 Llyth.: Beth sydd i mi ac i ti? gweler Marc 5:7; Mat 8:29. Y mae O wraig yn deitl anrhydeddus., O wraig? Ni ddaeth fy Awr i eto. 5Y mae ei fam yn dywedyd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynag a ddywedo efe wrthych, gwnewch. 6Ac yr oedd yno chwech o ddyfr‐lestri meini#2:6 Yn ol traddodiad Iuddewig dylid defnyddio llestri pridd neu gerrig pan yn ymolchi cyn ac wedi bwyta. Tansuddid ynddynt hefyd gwpanau, glythau, &c. (Marc 7:3, 4)., wedi eu gosod yn ol arfer puredigaeth yr Iuddewon, y rhai a ddalient ddau neu dri bath#2:6 Gr. metrêtês, llyth. mesurydd. Rhydd Ioan y mesur Atticaidd, ond yr oedd hwn yr un â'r mesur Iuddewig bath, yn cynnwys tri saton (Mat 13:33), neu yn agos i naw galwyn. Ni chynwysa ffircyn ond saith a haner galwyn. yr un. 7Ac y mae yr Iesu yn dywedyd wrthynt, Llenwch y dyfr‐lestri o ddwfr. A hwy a'u llanwasant hyd yr ymyl. 8Ac y mae efe yn dywedyd wrthynt, Tynwch#2:8 antleô [o antlos, agenddwr, dwfr ar waelod llong] tynu dwfr, &c., trwy sugn‐dynu neu trwy ei godi mewn llestri. Meddylia Westcott fod y gorchymyn i'r gweision i barhâu i dynu o'r ffynon, ac nid o'r llestri. allan a dygwch i lywodraethwr#2:8 Architriklinos, meistr y bwrdd, [triklinon], ystafell a thri o orwedd‐feinciau [couches]. Yn ol rhai, nid llywydd [sumposiarchos] y gwesteion neu y gwahoddedigion, ond arolygydd y gwasanaethwyr, gwaith yr hwn hefyd oedd profi y bwyd a'r ddiod. y wledd. A hwy a ddygasant. 9Ond pan brofodd llywodraethwr#2:9 Architriklinos, meistr y bwrdd, [triklinon], ystafell a thri o orwedd‐feinciau [couches]. Yn ol rhai, nid llywydd [sumposiarchos] y gwesteion neu y gwahoddedigion, ond arolygydd y gwasanaethwyr, gwaith yr hwn hefyd oedd profi y bwyd a'r ddiod. y wledd y dwfr sydd wedi dyfod yn win, ac ni wyddai o ba le y mae, (eithr y gwasanaethwyr a wyddent, y rhai oeddynt wedi tynu y dwfr) y mae llywodraethwr y wledd yn galw y priod‐fab, ac yn dywedyd wrtho, 10Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; a phan wedi yfed yn drwm#2:10 methuskô, meddwi, (Luc 12:45; Act 2:15; Eph 5:18; 1 Thess 5:7; Dad 17:2) yfed yn helaeth, madroni. Y mae yr ymadrodd yn haner-chwerthingar, yn haner‐difrifol., yna yr hyn sydd waeth: ti ydwyt wedi cadw y gwin da hyd yr awr hon. 11Hyn o ddechreu yr arwyddion#2:11 Defnyddir gwahanol eiriau yn y T. N. am weithredoedd gwyrthiol Crist, sef, sêmeia, arwyddion [o'i Fessiayddiaeth]; dunameis, galluoedd [yn dangos ei Ddwyfoldeb]; terata, rhyfeddodau [yn dangos yr effaith a gynyrchent ar feddyliau y bobl]; hefyd erga, gweithredoedd, (yn Ioan) yr hyn a awgryma, er eu bod yn oruwch‐naturiol yn ngolwg dyn, eu bod mor naturiol i Grist ag unrhyw weithred arall. Saif ‘gwyrth’ am yr oll (o gwyro, allan o'r llwybr cyffredin, uwchlaw neu wahanol i'r naturiol). a wnaeth Iesu yn Cana yn Galilea, ac a amlygodd ei ogoniant, a'i Ddysgyblion a gredasant arno ef.
Crist yn glanhâu y Deml y tro cyntaf
[Mat 21:12, 13; Marc 11:15–17; Luc 19:45, 46]
12Wedi hyn efe a aeth i waered i Capernaum#2:12 Groeg, yn y llaw‐ysgrifau goreu, Capharnaum., efe, a'i Fam, a'i Frodyr, a'i Ddysgyblion: ac yno nid arosasant#2:12 arosasant א B L X Brnd.; arosodd A F G. nemawr o ddyddiau.
13A Phasc yr Iuddewon oedd yn agos, a'r Iesu a aeth i fyny i Jerusalem. 14Ac efe a gafodd yn y Deml y rhai oedd yn gwerthu ychain a defaid, a cholomenod, a'r cyfnewidwyr arian#2:14 Kermatistês [o kermatizô, tori yn ddarnau bychain], trafnidiwr mewn arian mân. Defnyddia Matthew a Marc kollubistês: Ioan hefyd yn adn 15. Golyga kollubos y pris am gyfnewid. yn eistedd. 15Ac wedi gwneuthur fflangell o fân-reffynau#2:15 schoinion [bychanigyn o schoinos, brwynen], rheffyn wedi ei wneyd o frwyn., efe a fwriodd allan oll o'r Deml, y defaid hefyd a'r ychain; ac a dywalltodd allan arian y cyfnewidwyr#2:15 Kermatistês [o kermatizô, tori yn ddarnau bychain], trafnidiwr mewn arian mân. Defnyddia Matthew a Marc kollubistês: Ioan hefyd yn adn 15. Golyga kollubos y pris am gyfnewid., ac a ddymchwelodd y byrddau; 16ac wrth y rhai oedd yn gwerthu y colomenod y dywedodd, Dygwch ymaith y rhai hyn oddiyma: na wnewch Dŷ fy Nhâd yn dŷ marchnad.
17Ei Ddysgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Zêl dy dŷ di a'm llwyr‐ysa#2:17 Kataphagetai [amser dyf.] א A B L Brnd. i#Salm 69:9.
Rhag‐ddywedyd ei Farwolaeth a'i Adgyfodiad.
18Yr Iuddewon#2:18 Wrth yr Iuddewon yn Ioan y golygir preswylwyr Judea, ac yn enwedig y dosparth llywodraethol a gwrthwynebol i Grist. gan hyny a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn? 19Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Tynwch i lawr#2:19 Luô, datod, rhyddhâu, chwalu, tynu i lawr, tori i fyny. y Cysegr hwn, ac mewn tridiau y cyfodaf ef. 20Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant, Yn yspaid chwe blynedd a deugain yr adeiladwyd y Cysegr hwn; ac a gyfodi di ef mewn tridiau? 21Ond efe a ddywedasai am Gysegr ei gorff. 22Pan gan hyny y cyfodwyd ef o feirw, ei Ddysgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn#2:22 wrthynt hwy K: gad. א A B P Brnd.; a hwy a gredasant yr Ysgrythyr#2:22 Wrth yr Ysgrythyr yn Ioan y golygir adran o'r Ysgrythyr: eithriadau, 17:12; 20:9. Pan y dynoda yr Hen Destament, defnyddia y rhif lluosog, Ysgrythyrau.#Salm 16:10, a'r gair a ddywedasai yr Iesu.
Crediniaeth mewn gwyrthiau yn unig yn ddiffrwyth.
23Ac fel yr oedd efe yn Jerusalem ar y Pasc yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn#2:23 Llyth.: i'w enw ef. Y mae credu yn ei enw yn golygu crediniaeth yn yr hyn a hawlir ac a ddysgir ganddo. ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe. 24Ond yr Iesu ei hun nid ymddiriedodd#2:24 Llyth.: ni chredodd: “nid oedd ganddo ffydd yn eu ffydd.” Godet. ei hun iddynt, o herwydd yr adwaenai efe bawb; 25ac nad oedd raid iddo i neb dystiolaethu am ddyn; canys yr oedd efe ei hun yn gwybod#2:25 ginoskein, gwybod trwy sylwadaeth a myfyrdod: eidenai, gwybod yn hollol, heb gyfryngau. Yr oedd Crist yn gweled trwy yr arwynebol, nid yn unig am ei fod yn Dduw, ond hefyd am ei fod yn ddyn perffaith. pa beth oedd mewn dyn.

Επιλέχθηκαν προς το παρόν:

Ioan 2: CTE

Επισημάνσεις

Κοινοποίηση

Αντιγραφή

None

Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε