Λογότυπο YouVersion
Εικονίδιο αναζήτησης

Ioan 1

1
Y Gair a Duw.
1Yn y Dechreuad#1:1 Llyth.: Mewn dechreuad. Yr oedd y Logos yn y dechreuad, ac felly o flaen pob dechreu, ac felly yn bodoli er tragywyddoldeb. Cyfeiriad yma at Gen 1:1. yr oedd y Gair#1:1 Golyga logos mewn Groeg clasurol gair, ymadrodd, araeth, rheswm (nid y gyneddf o reswm, ond rheswm fel cynyrch y gyneddf). Dynoda air llefaredig (o legô, llefaru), gan olygu, nid y gair yn ei ffurf allanol, ond y gair fel dadganiad o'r meddwl sydd gysylltiedig a'r ffurf allanol; felly y mae yn logos y meddylddrych a'r dadganiad o hono. Y mae felly ynddo ddau syniad; y rheswm neu yr amgyffrediad yn y meddwl, logos endiathetos, a'r amlygiad neu gyflead mewn gair llefaredig o'r hyn sydd yn y meddwl, logos prophorikos. Defnyddid yn y cyfieithiadau Lladinaidd boreuol verbum a sermo am dano: hoff‐air Tertullian oedd ratio; ond ni ddefnyddir logos yn yr ystyr o reswm yn y T. N. Verbum yn unig a fabwysiadwyd yn y cyfieithiadau Lladinaidd diweddarach, a Gair yw yr agosaf a'r llawnaf i gyfleu meddwl y gwreiddiol, er nad yw yn ddigon dadganiadol o'r cyfoeth a'r amrywiaeth a ddynodir gan Logos. Defnyddia Ioan y gair Logos yma, ac yn adn 14 Dad 19:13 [gweler hefyd Heb 4:12] am Grist mewn ystyr neillduol. Ni rydd esboniad o hono, ond ysgrifena fel yn cymmeryd yn ganiataol fod ei ddarllenwyr yn gyfarwydd âg ef. O ba le y cafodd y term? Rhai a ddywedant o weithiau Philo, o Alexandria, yr hwn a flodeuodd tua 50 C.C. Ond nid yw Logos Ioan yn cyfateb i eiddo Philo. Nid yw eiddo yr olaf ond cydgyfarfyddiad o'r priodoleddau Dwyfol, tra y mae Logos Ioan yn Berson Dwyfol. Rhyw ymddangosiad o Dduw heb y sylwedd, deilliad neu ffrydiad anmhersonol o hono, yw y blaenaf; ond y mae yr olaf yn Berson ar wahân â'r Tâd, er mewn cymdeithas agos âg ef. Y mae mwy o debygrwydd rhwng geiriau Ioan a Philo na rhwng eu syniadau. Diamheu fod ‘Gair Duw’ fel y defnyddir ef yn yr Hen Destament yn bresenol i feddwl yr Apostol, o Gen 1:3, 6, 9, 11, 14, &c., i lawr. Personolir Gair Duw i raddau yn yr Hen Destament (Salmau 33:6; 107:20; 119:89, &c.) fel y personolir Doethineb Duw yn Diar 8 a 9. Gwelir hyn yn fwy amlwg yn yr Apocrypha a'r Targumiaid, megys, “Hwy a glywsant lais Gair yr Arglwydd Dduw.” Yn Philo y mae y Logos yn briodoleddol, yn yr Hen Destament yn farddonol, yn Ioan yn hanesyddol. Yr oedd Crist yn ei natur Ddwyfol yn dal yr un berthynas â'r Duwdod cuddiedig ag y gwna gair a meddylddrych: yr oedd yn ymgorfforiad o feddwl Duw, ac yn Ddadguddiad o'i fwriadau grasol tu ag at y byd. Nid oedd Ioan Fedyddiwr ond llais; yr oedd Crist yn Air., a'r Gair oedd gyd â#1:1 Gr. pros, tu ag at, gan ddynodi cyfeiriad tu ag at yn ogystal a phresenoldeb gyd â. Dynoda para, berthynas leol; sun neu meta, bersonau unigol gyd â'u gilydd; ond golyga pros nid yn unig ddau yn nghwmpeini eu gilydd, ond hefyd, megys yn yr enghraifft hon, fod y Gair mewn cymdeithas â Duw, yn tynu neu yn troi tu ag ato, yn glynu wrtho, yn ymhyfrydu ynddo, mewn cymmundeb pur a thragywyddol âg ef. Gweler Mat 13:56; Marc 6:3; 9:16; 2 Cor 5:8; 1 Ioan 1:2. Duw, a Duw oedd y Gair#1:1 Neu, a'r Gair oedd Dduw.. 2Hwn oedd yn y Dechreuad gyd â Duw.
Y Gair a'r Bydysawd.
3Pob peth#1:3 Llyth.: Pob peth trwyddo ef a wnaethpwyd neu a ddaeth [i fodolaeth]. a wnaethpwyd trwyddo ef: ac hebddo#1:3 Llyth.: ar wahan ag. ef ni wnaethpwyd hyd#1:3 hyd y nod un peth [oude hen] A B C Al. Tr. WH. Diw.; dim, ouden א. y nod un peth.
Y Gair a dynion.
4Yr#1:4 Felly A C D L La. Tr. WH. C8 E X, 1, 33, a gysylltant yr hyn sydd wedi ei wneuthur âg adnod 3 “Ac hebddo ef ni wnaethpwyd hyd y nod un peth o'r hyn sydd wedi ei wneuthur.” Y mae y cyfieithiadau yn amrywio: yr Hen Lladin a'r Syr. Curetonaidd yn ffafr y blaenaf, y Memphitaidd yn rhoddi yr olaf. O'r Tâdau, darllena Clem. Alex., Cyril Alex., Origen, Hilari, Awstin, y blaenaf: a Chrysostom ac Epiphanius yr olaf. hyn sydd wedi ei wneuthur ynddo#1:4 Neu, trwyddo ef. ef oedd Bywyd#1:4 Gr. Zôê. Defnyddir dau air yn y T. N. am fywyd, sef bios a Zôê. Dynoda Zôê fodolaeth, bywyd mewn cyferbyniaeth i farwolaeth. Ystyr bios yw bywyd yn ei yspaid, adnoddau, &c., bywoliaeth, “Hi a fwriodd i mewn ei holl fywyd” Marc 12:44. Er mai bios oedd yn wreiddiol y gair rhagoraf, yn y T. N. Zôê a ddynoda y bywyd uwchaf, sef bywyd y crediniol a bywyd Duw yn ei lawnder, ei ddedwyddwch, a'i dragywyddoleb. Hwn yw hoff‐air Ioan; defnyddia ef 36 o weithiau yn ei Efengyl, 13 o weithiau yn ei Epistol Cyntaf, a 15 o weithiau yn y Dadguddiad.#1:4 Felly A C D L La. Tr. WH. C8 E X, 1, 33, a gysylltant yr hyn sydd wedi ei wneuthur âg adnod 3 “Ac hebddo ef ni wnaethpwyd hyd y nod un peth o'r hyn sydd wedi ei wneuthur.” Y mae y cyfieithiadau yn amrywio: yr Hen Lladin a'r Syr. Curetonaidd yn ffafr y blaenaf, y Memphitaidd yn rhoddi yr olaf. O'r Tâdau, darllena Clem. Alex., Cyril Alex., Origen, Hilari, Awstin, y blaenaf: a Chrysostom ac Epiphanius yr olaf.; a'r Bywyd oedd Oleuni dynion#1:4 Llyth.: y dynion, nid fel unigolion, ond fel dosparth, dynolryw..
Y Gair a phechod.
5A'r Goleuni sydd yn llewyrchu yn y Tywyllwch; a'r Tywyllwch nis gorthrechodd#1:5 Katalambanô, cymmeryd gafael ar, cymmeryd meddiant o, gwneyd yn eiddo ddyn ei hun, gorddiwes, goddiweddyd, gorthrechu. “Rhodiwch tra fyddo genych y goleuni, fel na ddalio y tywyllwch chwi,” Ioan 12:35; “Un yn derbyn [yn cymmeryd meddiant, enill] y gamp” 1 Cor 9:24; “Fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu,” Phil 3:12. Dynoda y ferf yn y llais canolog, amgyffred, deall, dirnad (Act 4:13; 10:34; Eph 3:18). Desgrifir y goleuni a'r tywyllwch yma fel dau allu gelynol i'w gilydd, a dangosir anallu yr olaf i oddiweddyd, i drechu, i ddiffoddi, ac i ddyfetha y blaenaf. ef.
Y wawr a'r llawn‐oleuni.
6A daeth#1:6 Neu, yr ydoedd, cyfododd. Yr oedd y Gair, ond daeth y Llef. gwr, wedi ei anfon oddiwrth#1:6 para, oddiwrth, o bresenoldeb Duw, megys llys‐genhadydd. Dduw#Mal 3:1; 4:5, a'i enw Ioan: 7hwn a ddaeth er tystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef#1:7 Sef Ioan.. 8Nid hwnw oedd y Goleuni, ond daeth fel y tystiolaethai am y Goleuni. 9Yr oedd y Goleuni gwirioneddol#1:9 Alêthinos, gwirioneddol, sylweddol, diledryw, perffaith, gwreiddiol, [dygwydda 8 o weithiau yn yr Efengyl, 10 yn y Dadguddiad, a 3 yn yr Epistol Cyntaf]. Dynoda alêthês gwir fel yn wrth‐gyferbyniol i gelwyddog; alêthinos y gwir fel yn wrthgyferbyniol i'r ffugiol. Y mae gair Crist yn wir, ond y mae efe ei hun yn wirioneddol., yr hwn sydd yn goleuo pob dyn, yn dyfod i'r byd#1:9 Rhai a gysylltant yn dyfod i'r byd a phob dyn; ond tebygol fod yma gyfeiriad at ddyfodiad graddol Crist drwy yr oesau, a'i lawn ymddangosiad yn nghyflawnder yr amser.. 10Yn y byd yr oedd efe, a'r byd a wnaethpwyd trwyddo ef, a'r byd#1:10 Tra y dynoda gê, y ddaear, tir, (mewn ystyr materol); oikoumenê, y byd fel yn boplogedig: aiôn, oes, yna oes y byd, y byd fel y mae dan reolaeth amser, y byd yn ei duedd lygredig ac yn ei yrfa bechadurus; ystyr kosmos yw cyfanrwydd y bydysawd fel cyfundraeth, yna dynoliaeth yn y byd, yn enwedig fel wedi syrthio oddiwrth Dduw. Yr olaf yw ei ystyr yn Ioan. Ni ddefnyddia efe aiôn o gwbl, ond kosmos 94 o weithiau yn ei Efengyl, a 24 yn ei Epistolau. nid adnabu ef. 11I'w etifeddiaeth#1:11 Llyth.: I'w eiddo [ta idia, ei feddiannau, ei wlad, ei gartref, ei etifeddiaeth, yn y rhyw ganolog]. ei hun y daeth, a'i bobl#1:11 Llyth.: a'i eiddo [hoi idioi, ei bobl, ei ddeiliaid, yn y rhyw wrrywaidd]. Gweler Dammeg y winllan, Mat 21:33–41; ta idia, y winllan; hoi idioi, y llafurwyr. ei hun nis croesawasant#1:11 Paralambanô, derbyn yn ewyllysgar, croesawu. Defnyddir lambanô, y ferf syml, yn yr adnod nesaf. ef. 12Ond cynifer ag a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt hawl‐fraint#1:12 exousia, awdurdod gyfreithlawn, hawl, rhyddid, caniatâd, gallu wedi ei drosglwyddo, felly hawl‐fraint. i ddyfod yn blant Duw, sef i'r rhai sydd yn credu yn ei enw ef: 13y rhai a genedlwyd nid o waed#1:13 Llyth.: o waedydd, gan gyfeirio, yn ol rhai, at hynafiaid, ac, yn ol eraill, at y tâd a'r fam; ond efallai y defnyddir y gair yn ieithweddol, gan rymusu y syniad mai o'r gwaed yn benaf y ffurffr gwahanol ranau o'r corff., nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr, ond o Dduw.
Crist: ei ymgnawdoliad a'i ras.
14A'r Gair a wnaethpwyd#1:14 Neu, a ddaeth. yn gnawd, ac a ymbabellodd#1:14 skênoô, o skênê, pabell, tabernacl: felly yma, osododd i fyny ei babell. Cyfeiria yr Efengylwr at y Sanctaidd Sancteiddiolaf fel preswylfa Duw. Yr oedd yr Ymgnawdoliad yn sylweddoliad o hyn. Efallai yr awgrymwyd skênoô i Ioan o herwydd ei debygrwydd i Shecinah. Gweler hefyd Dad 21:3. yn ein plith ni, ac ni a welsom#1:14 theaomai, syllu yn daer, dyfal‐edrych, myfyr‐dremu. ei Ogoniant ef, — Gogoniant megys yr Unig‐anedig oddiwrth y Tâd#1:14 Neu, unig‐genedledig oddiwrth dâd [Gweler adnod 18]., ac efe yn llawn#1:14 Y mae yr ansoddair llawn yn perthyn i Gair. gras a gwirionedd. 15Y mae Ioan yn tystiolaethu am dano ef, ac yn para i lefain#1:15 Kekragen, yr amser perffaith, yn dangos effaith parhaol llef Ioan., gan ddywedyd Hwn#1:15 Felly A B2 D L Brnd. ond WH. Hwn oedd efe a ddywedodd א B1 C1. oedd yr un y dywedais am dano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i sydd wedi myned o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i#1:15 Llyth.: canys cyntaf mewn perthynas i mi oedd efe.. 16Canys#1:16 Canys א B C D L X Brnd.; Ac A Δ. o'i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, hyd y nod gras am ras#1:16 Neu, gras gyferbyn a gras, gras yn gyfnewid am ras, gras yn lle gras, fel pe buasai un gras yn cymmeryd lle un arall. Y mae pob gras a dawn i'w defnyddio, a pha fwyaf a roddwn, mwyaf i gyd a dderbyniwn. “Buost ffyddlon ar ychydig; mi a'th osodaf ar lawer.”. 17Canys y Gyfraith a roddwyd trwy Moses: y gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist. 18Nid oes neb erioed wedi gweled Duw: Duw#1:18 Duw Unig‐anedig א B C L; Tr. WH.; yr Unig‐anedig Fab A X Δ Al. Ti. Diw. Unig‐anedig#1:18 Llyth.: Unig‐genedledig. Am ymdriniaeth gyflawn o'r darlleniad pwysig hwn, gweler “Two Dissertations,” gan F. J. A. Hort, Caergrawnt, 1877. Ni wna y darlleniad ond cyfuno y ddau ddywediad, sef, fod y Gair yn Dduw (adn 1), a'i fod yn Unig‐genedledig (adn 14)., yr hwn sydd yn mynwes y Tâd, hwnw a eglurodd#1:18 exêgeomai, arwain allan, esbonio, deongli, amlygu. Defnyddir y gair mewn Groeg Clasurol am ddeongli dirgelion a chyfrinion dwyfol. Crist yw Esboniwr Duw a'i Drefn. yr oll.
Tystiolaeth Ioan Fedyddiwr
[Mat 3:3; Marc 1:3; Luc 1:4]
19A hon yw tystiolaeth Ioan, pan yr anfonodd yr Iuddewon ato#1:19 ato ef B C1 Brnd. Gad. א. ef, allan o Jerusalem, offeiriaid a Lefiaid, i ofyn iddo, Pwy wyt ti? 20Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw y Crist. 21A hwy a ofynasant iddo, Beth ynte? Ai Elias wyt ti#Mal 4:5, 6? Ac y mae efe yn dywedyd, Nag ê#1:21 Llyth.: Nid wyf.. Ai y Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nag ê. 22Dywedasant gan hyny wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i'r rhai a'n danfonodd; beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am danat dy hun? 23Eb efe, Myfi wyf lef un yn gwaeddi,#1:23 Neu, un yn gwaeddi yn y Diffaethwch.
Yn y Diffaethwch unionwch ffordd yr Arglwydd,
fel y dywedodd Esaiah y Proffwyd [[40:3]]. 24Ac#1:24 Felly A B C Brnd. ond La. A'r rhai a anfonasid oedd Δ A2 C3. yr oeddynt wedi eu danfon#1:24 Felly A B C Brnd. ond La. A'r rhai a anfonasid oedd Δ A2 C3. oddiwrth y Phariseaid. 25A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hyny yr wyt ti yn bedyddio, os nad wyt ti y Crist, nac Elias, na'r Proffwyd? 26Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi wyf yn bedyddio mewn dwfr: yn eich canol chwi y mae un yn sefyll, yr hwn nid adwaenoch chwi, 27yr#1:27 efe yw A X Δ. Gad. א B C L Brnd. hwn sydd yn dyfod ar fy ol i,#1:27 yr hwn sydd wedi myned o'm blaen i A. Gad. א B C L Brnd., yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid. 28Y pethau hyn a gymmerasant le yn Bethania#1:28 Nid Bethania Lazarus, Martha, a Mair. Yr oedd dwy dref o'r enw Bethsaida [Marc 6:32; Ioan 1:44], a dwy o'r enw Cesarea [Mat 16:3; Act 8:40]. Bethania neu Batanea oedd y ffurf Arameig o'r gair Hebraeg Bashan. Bethania oedd y rhan‐barth o'r wlad, Bethabara y pentref.#1:28 Bethania א A B C Brnd. Bethabara C2., y tu hwnt i'r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
29Tranoeth y mae#1:29 Ioan E F G. Gad. א A B C, &c., Brnd. efe yn canfod yr Iesu yn dyfod ato, ac y mae yn dywedyd,
Wele Oen#1:29 Oen, gan gyfeirio naill ai at (1) oen y Pasc, neu (2) oen y pech‐aberth (Lef 5:6), neu, yn hytrach, (3) oen prophwydoliaeth Esaiah 53:7. Cymharer Act 8:32. Fel iawn yr enwir ef yma. Defynddir amnos yma ac adnod 36, a 1 Petr 1:19; arnion, oen bychan, 30 o weithiau yn y Dadguddiad. Duw,
Yr hwn sydd yn cymmeryd ymaith#1:29 Golyga airôn naill ai cymmeryd ymaith neu cymmeryd arno. Crist yn dwyn pechod y byd gawn yn Es 53: pherô a ddefnyddir gan y LXX. yno, tra y dynodir cymmeryd ymaith bechod ganddynt gan airô, 1 Sam 15:25; 25:28. Y mae un yn golygu y llall: cymmerodd Crist bechod y byd arno, er mwyn ei gymmeryd ymaith. bechod y byd.
30Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ol i y mae gwr yn dyfod, yr hwn sydd wedi myned o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i#1:30 Gwel adnod 15.. 31Ac myfi nid adwaenwn ef; eithr fel yr amlygid ef i Israel, o herwydd hyn y daethum i, gan fedyddio mewn dwfr. 32Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Yr wyf wedi gweled#1:32 tetheamai, yr wyf wedi sylwi yn fanwl, wedi myfyr‐dremu ar. yr Yspryd yn disgyn fel colomen allan o'r Nef, ac a arosodd arno ef#Es 11:2. 33Ac myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a'm hanfonodd i fedyddio mewn dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar bwy bynag y gwelych yr Yspryd yn disgyn ac yn aros arno, hwnw yw yr un sydd yn bedyddio mewn Yspryd Glân#1:33 Heb fannod, gan ddangos yr elfen Ddwyfol y bedyddid ynddi.. 34Ac yr wyf wedi gweled, ac wedi tystiolaethu, mai hwn yw Mab Duw.
Y Dysgyblion boreuaf.
35Tranoeth drachefn yr oedd Ioan yn sefyll a dau o'i Ddysgyblion ef; 36a chan edrych ar yr Iesu yn rhodio o amgylch, efe a ddywed, Wele Oen Duw. 37A'r ddau Ddysgybl a'i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu. 38A'r Iesu a droes; ac yn eu canfod hwynt yn canlyn, efe a ddywed wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, (yr hyn a olyga, wedi ei gyfieithu, Athraw), pa le yr wyt ti yn aros? 39Efe a ddywed wrthynt, Deuwch a chwi#1:39 chwi a welwch B C L Brnd. ond La. gwelwch א A Δ La. [o adnod 47]. a welwch. Hwy a ddaethant gan#1:39 gan hyny א A B C L X, &c. hyny, ac a welsant lle y mae efe yn aros, ac a arosasant gyd âg ef y diwrnod hwnw: yr oedd hi ynghylch y ddegfed#1:39 Deg o'r gloch yn y boreu, os yw Ioan yn mabwysiadu y cyfrifiad Rhufeinig o amser, ond y mae yn fwy tebygol mai y cyfrifiad Iuddewig a ddylyna, fel yr Efengylwyr eraill, yn enwedig gan yr ysgrifena ar gyfer Groegiaid Asia Leiaf, y rhai a gyfrifent amser yr un fath â'r Iuddewon. O du y cyfrifiad Rhufeinig, cawn Westcott, Ewald, Tholuck: o du yr un Iuddewig, Alford, Lange, Meyer, Godet. awr. 40Andreas, brawd Simon Petr, oedd un o'r ddau a glywsant o#1:40 Llyth.: oddiwrth. enau Ioan, ac a'i dylynasant ef. 41Y mae hwn yn cael gafael yn#1:41 Felly [prôton] A B X La. Tr. Al. Hwn oedd y cyntaf [prôtos] i gael gafael [h, y. o flaen Ioan] א L Tr. gyntaf yn ei frawd ei hun, Simon, ac y mae yn dywedyd wrtho, Yr ydym ni wedi cael gafael yn y Messia#1:41 Yr Hebraeg am Grist. Dygwydda yma a 4:25. (yr hyn wedi ei gyfieithu yw, Crist#1:41 Crist A B X Brnd.). 42Efe a'i dug ef at yr Iesu. Yr Iesu, wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Ioan#1:42 Ioan א B L Brnd.: Jonah A Δ [yn Mat 16:17].: ti a elwir Cephas (yr hwn a gyfieithir, Petr#1:42 Neu, Carreg neu Graig.).
Dysgyblion ychwanegol.
43Tranoeth yr ewyllysiodd efe#1:43 yr Iesu F G H. Gad. א B L Brnd. fyned allan i Galilea, ac y mae efe yn cael Philip, ac yn dywedyd wrtho, Canlyn fi. 44A Philip oedd o Bethsaida#1:44 Sef Bethsaida Galilea, ar y tu gorllewinol i'r Môr, ac nid Bethsaida Julias., o ddinas Andreas a Phetr. 45Y mae Philip yn cael Nathanael#1:45 Nathanael, Rhodd Duw Num 1:8; 1 Cor 2:14. Lled debyg yr un a Bartholomeus., ac a ddywed wrtho, Yr ydym wedi cael yr hwn yr ysgrifenodd Moses yn y Gyfraith, a'r Proffwydi, am dano, Iesu o Nazareth, mab Joseph. 46A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon unrhyw beth da ddyfod#1:46 Llyth.: fod, “A ddichon unrhyw beth da fodoli, ag sydd yn rhan o, neu yn dal cysylltiad â Nazareth?” allan o Nazareth? Y mae Philip yn dywedyd wrtho, Tyred a gwel. 47Iesu a welodd Nathanael yn dyfod ato, ac y mae yn dywedyd am dano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes twyll. 48Y mae Nathanael yn dywedyd wrtho, Pa fodd y mae#1:48 Gr. pothen, o ba le? pa fodd y gall fod? Gofyniad yn cyfleu syndod. dy fod yn fy adnabod i? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw, pan oeddit tàn y ffigysbren, mi a'th welais di. 49Nathanael a atebodd#1:49 ac a ddywed A. Gad. B L; gad. iddo א. iddo, Rabbi, Ti ydwyt Fab Duw; ti ydwyt Frenin Israel. 50Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Ai o herwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a'th welais di dan y ffigysbren, yr ydwyt ti yn credu? ti a weli bethau mwy na'r rhai hyn. 51Ac y mae yn dywedyd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, chwi#1:51 O hyn allan A Δ. Gad. א B L Brnd. a welwch y Nefoedd wedi agoryd, ac Angelion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn#1:51 Y mae y Vulgate, argraffiadau Lachmann, Tischendorf, Alford, Lange, &c., yn cynnwys 52 o adnodau. Rhanant 38 yn ddwy adnod..

Επιλέχθηκαν προς το παρόν:

Ioan 1: CTE

Επισημάνσεις

Κοινοποίηση

Αντιγραφή

None

Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε