Matthew 13

13
Dammeg yr un had a'r amryw fath o dir.
[Marc 4:1–9; Luc 8:4–8]
1Y dydd hwnw yr aeth yr Iesu allan o'r tŷ, ac a eisteddodd wrth lan y môr; 2a thorfeydd lawer a ymgynnullasant ato ef, fel yr aeth efe i gwch, ac yr eisteddodd; a'r holl dyrfa oedd yn sefyll ar y traeth. 3Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau mewn dammegion, gan ddywedyd, Wele, yr hauwr a aeth allan i hau; 4ac fel yr oedd efe yn hau, peth hadau a syrthiasant ar fin y ffordd; a'r adar a ddaethant ac a'u difasant; 5ac ereill a syrthiasant ar y creigleoedd, lle ni chawsant fawr daear; ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear. 6Ond wedi i'r haul godi deifiwyd hwynt, ac am nad oedd iddynt wreiddyn, hwy a wywasant. 7A rhai ereill a syrthiasant ar y drain; a'r drain a dyfasant, ac a'u tagasant. 8Ac ereill a syrthiasant ar y tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ei ganfed, peth ei dri ugeinfed, a pheth ei ddegfed ar hugain. 9Y neb sydd ganddo glustiau#13:9 I wrando C D Z Δ; Gad. א B L Brnd., gwrandawed.
Y Rheswm am lefaru mewn dammegion.
[Marc 4:10–12; Luc 8:9, 10]
10A daeth y Dysgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt mewn dammegion? 11Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, I chwi y mae wedi ei roddi i wybod dirgelion Teyrnas Nefoedd, ond iddynt hwy nid yw wedi ei roddi. 12Oblegyd pwy bynag sydd ganddo y rhoddir iddo, ac efe a gaiff helaethrwydd#13:12 Llyth., a wneir yn helaeth, a gyflenwir, neu a wneir yn rhagorach (megys yn 1 Cor 8:8).; eithr pwy bynag nid oes ganddo — ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir ymaith oddiarno. 13Am hyny, yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy mewn dammegion, canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled, ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. 14Ac iddynt#13:14 Iddynt א B C Brnd.; ynddynt neu arnynt hwy D M hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Esaiah, yr hon sydd yn dywedyd,
“Trwy glywed y clywch, ac ni ddeallwch ddim#13:14 Neu o gwbl; dyma lawn ystyr ou mê.;
Ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim#13:14 Neu o gwbl; dyma lawn ystyr ou mê.;
15Canys brashawyd#13:15 Pachunô, tewychu, brashau, caledu, hyny yw, gwneyd yn ddideimlad neu ddifater. calon y bobl hyn,
Ac â'u clustiau y clywant yn drwm,
Ac a gauasant#13:15 Kammuô; cau i lawr. Golyga yr Hebraeg yn Esaiah 6:10, dwbio, selio (besmear). Cymharer hefyd Esaiah 29:10; 44:18. Desgrifir cau y llygaid fel barn Ddwyfol. eu llygaid,
Rhag canfod o gwbl â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau,
A deall â'r galon,
A throi, ac i mi eu hiachau hwynt.”#13:15 Es 6:9, 10
16Eithr dedwydd eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled, a'ch clustiau, am eu bod yn clywed. 17Oblegyd yn wir y dywedaf i chwi, i lawer o broffwydi a rhai cyfiawn chwennychu gweled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.
Deongliad y ddammeg.
[Marc 4:13–20; Luc 8:11–15]
18Gwrandewch chwithau, gan hyny, ddammeg yr hauwr. 19Pan glywo neb air y Deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae yr Un Drwg yn dyfod ac yn cipio yr hyn sydd wedi ei hau yn ei galon ef. Dyma yr hwn a hauwyd ar fin y ffordd. 20A'r hwn a hauwyd ar y creigleoedd, efe yw yr hwn sydd yn gwrando y gair, ac yn y fan gyda llawenydd yn ei dderbyn; 21ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr am dymhor y mae; a phan ddelo gorthrymder neu erlid o herwydd y gair, yn y fan efe a rwystrir.#13:21 A ga achlysur i dramgwyddo, a adgwympa, a lithra. 22A'r hwn a hauwyd yn mhlith y drain, efe yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair; ac y mae pryder y byd#13:22 Neu gofal yr oes.#13:22 Y byd א B D Brnd.; y byd hwn C. a thwyll cyfoeth yn tagu y gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. 23Ond yr hwn a hauwyd ar y tir da, hwn yw efe sydd yn gwrando y gair, ac yn ei ddeall; yr hwn yn wir sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.
Dammeg y gwenith a'r efrau.
24Dammeg arall a osodododd#13:24 Fel bwyd neu wledd (gweler Luc 9:16). efe o'u blaen, gan ddywedyd, Cyffelybir Teyrnas Nefoedd i ddyn a hauodd had da yn ei faes; 25ond tra yr oedd dynion yn cysgu#13:25 Hyny yw, yn y nos. Neu, y dynion, sef ei weision., daeth ei elyn ef, ac a hauodd#13:25 a hauodd drosodd neu drachefn [epêspeiren] B א2 Brnd.; a hauodd C D. drachefn efrau#13:25 Zizanion, efr, llèr, yd meddw. Gair Semitaidd neu Ddwyreiniol; zunin yn yr ysgrifenwyr Talmudaidd; lolium yn y Lladin; darnel yn y Saesneg. Yn ol rhai, nid oedd ond gwenith dirywiedig; ond yn dra thebyg yr oedd o wahanol rywiaeth (gweler Thomson, The Land and the Book, pennod 28). yn mhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. 26Ac wedi i'r eginyn dyfu#13:26 Blaguro, blaendarddu, tori allan. a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd. 27A gweision#13:27 Caethweision. gwr#13:27 Llyth., meistr y ty. y ty a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, onid had da a hauaist di yn dy faes? O ba le gan hyny y daeth#13:27 Llyth., y cafodd efrau. efrau? 28Yntau a ddywedodd wrthynt, Dyn sydd elyn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedant wrth, A fyni di gan hyny i ni fyned ymaith a'u casglu hwynt? 29Ond efe a ddywed, nid felly, rhag dygwydd i chwi wrth gasglu yr efrau, dynu o'r gwraidd y gwenith gyda hwynt. 30Gadewch i'r ddau gyd‐dyfu hyd y cynauaf; ac yn nhymhor y cynauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau#13:30 Llyth., sypynau. er eu llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.
Dammeg y mwstard.
[Marc 4:30–32; Luc 12:18, 19]
31Dammeg arall a osododd#13:31 Fel bwyd neu wledd (gweler Luc 9:16). efe o'u blaen, gan ddywedyd, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i ronyn mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a'i hauodd yn ei faes. 32Yr hwn yn wir sydd lai nâ'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, y mae yn fwy nâ'r llysiau#13:32 Lachanon (o'r ferf, ystyr yr hon yw cloddio, palu), a ddynoda lysieuyn fel ffrwyth hau a gwrteithio; felly yma, garddlysiau, tyfolion (vegetables), mewn cyferbyniad i blanhigion gwylltion., ac yn dyfod yn bren, fel y mae adar y nef yn dyfod ac yn ymlochesu#13:32 Kataskênoô, pabellu, llettya, trigo; am adar, myned i'r glwyd. yn ei gangau ef.
Dammeg y lefain.
[Luc 13:20, 21]
33Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i lefain#13:33 Neu surdoes., yr hwn a gymmerodd gwraig ac a'i cuddiodd mewn tri mesur#13:33 Saton, Groeg; seah, Hebraeg. Yr oedd yn fesur sych, tua phecaid a hanner. Yr oedd tri saton yn gwneyd un ephah. Dyma y gyfran arferol, yn debyg, i wneyd pobaid a ffyrnaid. Yr oedd yr ephah o'r un maintioli â'r bath (Luc 16:6) o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl.
34Hyn oll a lefarodd yr Iesu mewn dammegion wrth y torfeydd; ac heb ddammeg ni lefarodd ddim#13:34 ddim א B C M Δ Brnd.; Gad. D. wrthynt; 35fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd drwy y proffwyd#13:35 Esaiah א Ti.: Gad. B C D Brnd., gan ddywedyd,
Agoraf fy ngenau mewn dammegion,
Mynegaf bethau cuddiedig er seiliad y byd.#13:35 Y byd א C D. Gad. B א2 Brnd.#Salm 78:2
36Yna y gadawodd efe#13:36 Dywed i ni C D Ti. Al.; eglura i ni א B Tr. WH. Diw. y torfeydd ac a aeth i'r ty; a'i Ddysgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura#13:36 Dywed i ni C D Ti. Al.; eglura i ni א B Tr. WH. Diw. i ni ddammeg efrau y maes. 37Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn hau yr had da yw Mab y Dyn; 38a'r maes yw y byd; a'r had da, hwynthwy yw meibion y Deyrnas; a'r efrau yw meibion yr Un Drwg; 39a'r gelyn yr hwn a'u hauodd hwynt yw y Diafol; a'r cynauaf yw diwedd y byd#13:39 Neu, terfyn oes., a'r medelwyr ydynt Angelion. 40Megys gan hyny y cesglir yr efrau, ac eu llosgir â thân; felly y bydd yn niwedd y byd#13:40 Y byd hwn C P; y byd א B D Γ Brnd.. 41Mab y Dyn a ddenfyn allan ei Angelion, a hwy a gasglant allan o'i Deyrnas ef yr holl bethau a achosant dramgwydd#13:41 Neu “yr holl faglau dinystriol.” Llyth., yr holl faglau. Skandalon, magl, rhwyd, bachell, yslepan; yna, unrhyw wrthddrych a achlysura gwymp neu dramgwydd., â'r rhai a wnant anwiredd#13:41 Llyth., annghyfreithder, afreolusder., 42ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd. 43Yna y rhai cyfiawn a lewyrchant allan fel yr haul yn Nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau#13:43 I wrando C D P [Tr.]; gad. א B Ti. Al. WH. Diw., gwrandawed.
Y trysor cuddiedig.
44Cyffelyb#13:44 Drachefn C P; gad. א B D Brnd. yw Teyrnas Nefoedd i drysor wedi ei guddio yn y maes, yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, efe a'i cuddiodd; ac o lawenydd am dano, y mae yn myned ymaith, ac yn gwerthu yr oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnw.
Yr un perl gwerthfawr.
45Drachefn, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i farchnatäwr yn ceisio perlau teg; 46ac wedi cael un perl gwerthfawr, efe a aeth ymaith, ac a werthodd yr oll a feddai ac a'i prynodd ef.
Y dynrwyd.
[Marc 4:33, 34]
47Drachefn, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i dynrwyd#13:47 Sagênê, llusg‐rwyd, tynrwyd — rhwyd fawr a ddefnyddid i ddal heigiaid o bysgod. Saesneg, seine. a fwriwyd i'r môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth, 48yr hon wedi ei llenwi a ddygasant i fyny ar y traeth, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da i lestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg. 49Felly y bydd yn Niwedd y Byd; yr Angelion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn, 50ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân; yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.
Yr efengyl yn hen a newydd.
51A#13:51 Iesu a ddywedodd wrthynt C Δ; gad. א B D Brnd. ddeallasoch y pethau hyn oll? Hwythau a ddywedant wrtho, Do.#13:51 Arglwydd C; gad. א B D Brnd. 52Ac efe a ddywedodd wrthynt, Am hyny pob ysgrifenydd yr hwn a wnaed yn ddysgybl i Deyrnas Nefoedd, sydd gyffelyb i ddyn sydd i feistr ty, yr hwn sydd yn dwyn#13:52 Llyth., bwrw allan. allan o'i drysor bethau newydd a hen.
Y Proffwyd yn ei wlad ei hun.
[Marc 6:1–6; Luc 4:16–30]
53A bu, wedi i'r Iesu orphen y dammegion hyn, efe a symmudodd oddiyno. 54Ac wedi iddo ddyfod i'w wlad ei hun, yr oedd efe yn eu dysgu hwynt yn eu synagog, yn gymmaint ag iddynt synu a dywedyd, O ba le y daeth i'r dyn hwn y doethineb hwn a'r galluoedd nerthol? 55Onid hwn yw mab y saer? Onid Mair y gelwir ei fam ef? a Iago, a Joseph#13:55 Joseph B C Brnd.; Ioses L Δ K; Ioan א D X E Γ, &c., a Simon, a Judas, ei frodyr#13:55 (1) Plant Joseph a Mair, yn ol Alford, Farrar, &c.; (2) plant Joseph o wraig flaenorol, yn ol Origen, Eusebius, &c.; (3) plant Cleopas a Mair, chwaer mam Crist, yn ol Jerome, Awstin, &c. ef? 56A'i chwiorydd ef, onid ydynt hwy oll gyda ni? O ba le gan hyny y mae gan hwn y pethau hyn oll? 57A hwy a rwystrwyd#13:57 Hyny yw, “a gawsant achlysur tramgwydd ynddo ef,” “a gawsant graig rwystr ynddo ef,” “hwy a syrthiasant i fagl mewn perthynas iddo ef.” Yr oeddynt wedi ymddyrysu yn eu meddyliau, wedi eu “dal mewn magl,” o herwydd eu rhagfarn. ynddo ef. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei wlad ac yn ei dy ei hun. 58Ac ni wnaeth efe lawer o weithredoedd nerthol yno, oblegyd eu hannghrediniaeth hwynt.

Zur Zeit ausgewählt:

Matthew 13: CTE

Markierung

Teilen

Kopieren

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.