Matthew 12
12
Y Sabbath er mwyn dyn.
[Marc 2:23–28; Luc 6:1–11]
1Yr amser hwnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath drwy y meusydd ŷd, ac ar ei Ddysgyblion yr oedd eisieu bwyd, ac a ddechreuasant dynu tywys, a bwyta. 2A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy Ddysgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlawn#12:2 Neu, yn oddefol, yn rhydd. ei wneuthur ar y Sabbath. 3Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd pan yr oedd eisieu bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef: 4pa fodd yr aeth efe i fewn i dy Dduw, ac y#12:4 Y bwytaodd [ephagen] C D Al. Tr. Diw.; y bwytasant [ephagon] א B Ti. WH. bwytaodd y torthau gosod (1 Sam 21:6), y rhai nid ydoedd gyfreithlawn iddo eu bwyta, nac i'r rhai oeddynt gydag ef, ond i'r offeiriaid (Lef 24:9) yn unig? 5Neu oni ddarllenasoch yn y Gyfraith (Num 28:9, 10) fod yr offeiriaid ar y Sabbath#12:5 Nid Sabbathau. Deillia y ffurf Roegaidd, Sabbata, o'r Aramaeg, Sabbatha, y Sabbath. Felly, unigol yw yr ystyr, er fod y ffurf yn y rhif lluosog. yn y Deml#12:5 Defnyddir dau air a gyfieithir yn “deml,” sef hieron (y gair a ddefnyddir yma), yr hwn a ddynoda yr holl adeilad, gan gynnwys yr holl gynteddoedd, &c., a naos, yr hwn a ddynoda y Ddau Gyssegr. yn halogi y Sabbath, a'u bod yn ddifai? 6Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod peth#12:6 Peth mwy (yn y ganolryw) א B D Brnd.; un mwy (yn yr wrrywaidd) C L Δ. mwy nâ'r Deml yma. 7Ond pe gwybuasech beth ydyw hyn:
“Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth,”#Hos 6:6
ni chyhoeddasech farn#12:7 Katadikazein, gwahaniaetha oddiwrth krinein, gan y dynoda farn ffurfiol a swyddogol, ac nid yn gymmaint farn y deall a'r rheswm. yn erbyn y difai. 8Canys Arglwydd y Sabbath yw#12:8 Hefyd; gad. א B C D, &c. Mab y Dyn.
Iachad y llaw wywedig.
9Ac wedi iddo ymadael oddiyno, efe a aeth i'w synagog hwynt. 10Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai cyfreithlawn iachau ar y Sabbath? fel y gallent ddwyn cyhuddiad#12:10 Katêgoreô a olyga dwyn achwyniad ffurfiol o flaen llys. yn ei erbyn. 11Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn o honoch, a chanddo un ddafad, ac o syrth hono ar y Sabbath i bwll, nid ymafla ynddi a'i chodi allan? (Deut 22:4). 12Pa faint gwell, gan hyny, yw dyn nâ dafad?#12:12 Neu, Gymmaint gwell, gan hyny, yw dyn nâ dafad! O ganlyniad, y mae gyfreithlawn gwneuthur yn dda ar y Sabbath. 13Yna y dywed efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynodd; a hi a adferwyd, yn iach fel y llall.
Addfwynder ac amynedd Crist.
[Marc 3:7–12; Luc 6:17–19]
14Ond y Phariseaid a aethant allan ac a ymgynghorasant#12:14 Llyth., a gymmerasant gynghor. yn ei erbyn ef pa fodd y dyfethent ef. 15A'r Iesu gan wybod, a giliodd oddiyno; a llawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt oll, 16gan erchi iddynt na wnaent ef yn adnabyddus, 17fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy Esaiah y proffwyd, gan ddywedyd,
18Wele fy ngwas yr Hwn a ddewisais,
Fy Anwylyd, yn yr Hwn y boddlonwyd fy enaid:
Gosodaf fy Yspryd arno,
Ac efe a gyhoedda farn i'r cenedloedd.
19Nid ymryson#12:19 Erizo, ymgecru, croesddadleu, cynhenu. (Crist mor wahanol i'r doctoriaid Iuddewig.) efe, ac ni waedda;
Ac ni chlyw neb ei lais yn y prif heolydd.
20Corsen ysig#12:20 Gair cryf yn dynodi mathru, sathru, briwo, gwasgu yn chwilfriw; felly yma, wedi ei briwo a'i hysigo. nis tyr,
A llin yn mygu nis diffydd,
Hyd oni anfono efe allan farn i fuddugoliaeth,
21Ac yn#12:21 Neu, trwy. ei enw ef y gobeithia y cenedloedd.#Es 42:1–4.
Geiriau segur; cabledd yn erbyn yr Yspryd Glân.
[Marc 3:20–30; Luc 11:14–23]
22Yna y dygwyd ato un cythreulig, dall a mud; ac efe a'i hiachaodd ef, fel#12:22 Felly א B C D Brnd.; fel y darfu i'r dall a'r mud lefaru a gweled C. y darfu i'r mudan lefaru a gweled. 23A'r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw Mab Dafydd? 24Ond pan glybu y Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond drwy Beelzebwl,#12:24 Gweler ar Mat 10:25. pennaeth y cythreuliaid. 25Eithr yn gwybod eu meddyliau, efe a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun a annghyfanneddir, a phob dinas neu dŷ wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, ni saif. 26Ac os Satan#12:26 Groeg, Diabolos, gelyn, cyhuddwr, athrodwr. a fwrw allan Satan, efe a ymranodd yn ei erbyn ei hun: pa fodd, gan hyny, y saif ei deyrnas ef? 27Ac os trwy Beelzebwl yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich meibion chwi yn eu bwrw hwynt allan? O herwydd hyn, hwy eu hunain a fyddant eich barnwyr chwi. 28Eithr os trwy Yspryd Duw yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, yna y mae Teyrnas Dduw wedi cyrhaedd#12:28 Pthanô, dynesu, goddiweddyd, dyfod yn sydyn neu annysgwyliadwy. “Cyrhaedd” (Rhuf 9:31), “cyrhaeddyd” (2 Cor 10:14), y peth y “daethom” ato (Phil 3:16); digofaint Duw a “ddaeth” arnynt (1 Thess 2:16). atoch chwi. 29Neu pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn, ac yspeilio ei ddodrefn#12:29 Neu nwyddau. ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo y cadarn? ac yna y llwyr yspeilia efe ei dŷ ef. 30Y neb nid yw gyda mi sydd yn fy erbyn; a'r neb nid yw yn casglu gyda mi sydd yn gwasgaru. 31Am hyny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion; ond y cabledd yn erbyn yr Yspryd ni faddeuir#12:31 I ddynion C D [Al.]; gad. א B Brnd.. 32A phwy bynag a ddywedo air yn erbyn Mab y Dyn, fe a faddeuir iddo; ond pwy bynag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd Glan, ni faddeuir iddo, nac yn y byd#12:32 Neu oes. Golyga Aiôn (1) oes unigolion, (2) oes y byd, yna (3) y byd, yn enwedig yn ei duedd a'i yspryd, (4) oes annherfynol — “yn oes oesoedd,” “am byth.” Yn mhlith yr Iuddewon, yn gystal ag ysgrifenwyr y Testament Newydd, golygai yr “oes hon” neu “y byd hwn” yr adeg hyd ddychweliad y Messiah, a'r “oes sydd i ddyfod,” neu “y byd a ddaw” — cyfnod ei lawn deyrnasiad. hwn nac yn yr hwn a ddaw. 33Naill ai gwnewch y pren yn dda a'i ffrwyth yn dda, neu gwnewch y pren yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg, canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth. 34O epil gwiberod! pa fodd y gellwch lefaru pethau da a chwi yn ddrwg? Canys o helaethrwydd y galon y llefara y genau. 35Y dyn da o'r trysor da#12:35 O drysor da y galon L 33; o'r trysor da א B C D Brnd. a ddwg#12:35 Llyth., a fwrw allan. allan bethau da; a'r dyn drwg o'r trysor drwg a ddwg#12:35 Llyth., a fwrw allan. allan bethau drwg. 36Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pob gair segur#12:36 Neu anfuddiol, aflesol, niweidiol. a lefaro dynion, rhoddant gyfrif am dano yn Nydd y Farn. 37Canys wrth dy eiriau y'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir#12:37 Katadikazô a ddefnyddir yma, a katakrinô yn adnod 41; dynoda y blaenaf cyhoeddi dedfryd yn ffurfiol a swyddogol, a'r ail, barnu yn fewnol yn ol prawfion a rheswm..
Yr arwydd cymhwys i genedlaeth ddrwg.
[Luc 11:16, 29–32]
38Yna yr atebodd rhai o'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid iddo, gan ddywedyd, Athraw, ni a chwennychem weled arwydd oddiwrthyt. 39Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn dyfal‐geisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi ond arwydd Jonah y Proffwyd. 40Canys fel y bu Jonah yn mol y morfil dridiau a theirnos#Jon 2:1, felly y bydd Mab y Dyn yn nghalon y ddaear dridiau a theirnos.
Ei chondemniad.
41Gwyr Ninife a gyfodant yn y Farn gyda'r genedlaeth hon, ac a'i condemniant#12:41 Katadikazô a ddefnyddir yma, a katakrinô yn adnod 41; dynoda y blaenaf cyhoeddi dedfryd yn ffurfiol a swyddogol, a'r ail, barnu yn fewnol yn ol prawfion a rheswm. hi, am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth#12:41 Neu genadwri. Jonah#Jon 3:1–10, ac wele fwy#12:41 Y mae y gair a gyfieithir “fwy” yn y ganolryw, pleion, “Wele rywbeth mwy nâ Jonah yma.” Y mae Efengyl Crist yn well a mwy nâ chenadwri neb arall, ac y mae Efe ei Hun yn anfeidrol fwy nâ'i holl weision. na Jonah yma. 42Brenines y Dehau a gyfyd yn y Farn gyda'r genedlaeth hon, ac a'i condemnia hi, am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon#1 Bren 10:1–10; ac wele fwy#12:42 Y mae y gair a gyfieithir “fwy” yn y ganolryw, pleion, “Wele rywbeth mwy nâ Jonah yma.” Y mae Efengyl Crist yn well a mwy nâ chenadwri neb arall, ac y mae Efe ei Hun yn anfeidrol fwy nâ'i holl weision. na Solomon yma.
Ei diwedd truenus.
[Luc 11:24–26]
43Ond pan el yr yspryd aflan allan o'r dyn, efe a dramwya drwy leoedd sychion,#12:43 Llyth., diddwfr. gan geisio gorphwysfa, ac nid yw yn ei chael. 44Yna, medd efe, mi a ddychwelaf i'm tŷ, o'r lle y daethum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i drwsio.#12:44 Neu addurno. 45Yna y mae efe yn myned ac yn cymmeryd gydag ef ei hun saith yspryd ereill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i fewn, hwy a ymgartrefant yno; ac y mae cyflwr#12:45 Llyth., pethau diweddaf … … pethau cyntaf. diweddaf y dyn hwnw yn waeth na'r cyntaf. Felly y bydd hefyd i'r genedlaeth ddrwg hon.
Gwir berthynasau Crist.
[Marc 3:31–35; Luc 8:19–21]
46Tra yr oedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele ei fam a'i frodyr oeddynt yn sefyll y tu allan, yn ceisio ymddyddan ag ef. 47A#12:47 Gadewir allan yr adnod hon gan א B L; ond y mae yn C D Z a'r cyfieithadau. Tebygol iddi gael ei gadael allan o herwydd homoeoteleuton, sef cyffelyb ddiwedd i adn 46 a 47 (lalêsai), ac i lygad y copïwr syrthio ar yr olaf wedi copïo y blaenaf. dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr yn sefyll y tu allan, yn ceisio ymddyddan â thi.#12:47 Gadewir allan yr adnod hon gan א B L; ond y mae yn C D Z a'r cyfieithadau. Tebygol iddi gael ei gadael allan o herwydd homoeoteleuton, sef cyffelyb ddiwedd i adn 46 a 47 (lalêsai), ac i lygad y copïwr syrthio ar yr olaf wedi copïo y blaenaf. 48Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam? a phwy yw fy mrodyr I? 49Ac efe a estynodd ei law tuag at ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam I a'm brodyr I. 50Canys pwy bynag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd, efe yw fy mrawd I, a'm chwaer, a'm mam.
Zur Zeit ausgewählt:
Matthew 12: CTE
Markierung
Teilen
Kopieren
Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.