Logo YouVersion
Eicon Chwilio

5 Gweddi o OstyngeiddrwyddSampl

5 Prayers of Humility

DYDD 4 O 5

Gweddi 4: “Arglwydd, helpa fi gredu dy Air.”

Gair heb fai ac anffaeledig Duw i ddynolryw yw’r Beibl. Mae Ioan, pennod 1 yn dweud wrthon ni fod y Beibl, rywsut, yn Iesu mewn gwirionedd ar ffurf ysgrifenedig!

Mae'n wir: Iesu yw'r Gair, a'r Gair yw Iesu.

Meddylia am hynny am ychydig. Bydd y gwirionedd anhygoel hwn yn dy lenwi â syndod ac yn dod â thi i addoli wrth draed Crist.

Ond beth sydd a wnelo “y Gair yn gnawd” â gostyngeiddrwydd?

Mae'r Beibl heb fai ac yn anffaeledig. Mae'n hollol, 100% wir. Ac eto, mae'n dweud llawer o bethau na fyddai ein rhesymeg gnawdol efallai'n eu hoffi:

  • Mae'n dweud pethau sy'n ein cyhuddo ni; pethau y mae Duw yn ceisio newid ein calonnau drwyddyn nhw .
  • Mae'n dweud llawer o bethau y mae diwylliant pechadurus yn eu casáu.
  • Yn rhyfeddach oll, mae'n dweud llawer o bethau da nad yw ein calonnau balch weithiau eisiau eu derbyn.

Dyma'r allwedd:

Mae'n cymryd gostyngeiddrwydd i gredu'r pethau da mae Duw yn eu dweud.

Ni allaf hyd yn oed ddweud wrthyt faint o weithiau y mae rhywun wedi dweud wrthyf eu bod yn fodlon gwrando ar yr holl gywiriadau y mae Duw am eu hanfon - y geiriau hynny sy'n dweud wrthym pan fyddwn yn gwneud cam. Ond mae'r bobl hynny wedi eistedd o'm blaen a dweud wrthyf am yn ymarferol yn yr un anadl nad oedden nhw'n fodlon credu dim o'r pethau da mae'r Arglwydd yn eu dweud amdanyn nhw.

Fy ffrind os na fyddwn yn derbyn popeth y mae Gair Duw yn ei ddweud amdanom ein hunain - boed y Gair hwnnw’n galonogol neu’n argyhoeddiad - yna mae gennym broblem balchder.

Os na wnei di dderbyn yr holl bethau mae Duw’n ei ddweud - hyd yn oed y pethau sy'n dy gadarnhau; pethau sy'n gwrthweithio yn erbyn dy hunan-barch drwg - yna rwyt yn falch. Ac os oes gen ti falchder yn dy galon, mae’r balchder hwnnw yn sarhau Duw. Mae'n achosi iddo roi “gwrthyddion” yn dy fywyd. Ac ie, bydd yn dy ddisgyblu i'th helpu i fod yn ostyngedig ...

... ond oni fyddai'n llawer haws benderfynu i'w gredu, waeth beth mae'n ei ddweud?

Dyma pam dŷn ni’n gweddïo, “Arglwydd, helpa fi i gredu dy Air.”

Mae credu yng Ngair Duw yn arwydd o ostyngeiddrwydd. Ac os ydyn ni'n mynd i gredu Gair Duw, mae'n rhaid i ni gredu popeth mae'n ei ddweud - hyd yn oed pan mae ei Air yn rhwygo ein harferion pechadurus, patrymau meddwl drwg, NEU ein hunan-barch isel.

Ffrind, os wyt ti eisiau bod yn ostyngedig, penderfyna gredu popeth mae Duw yn ei ddweud:

  • Creda ei Air pan fydd yn dy gyhuddo, a chreda gymaint mwy pan fydd yn dy gadarnhau.
  • Creda ef pan fydd yn dy ddisgyblu, a chreda ef lawn cymaint pan fydd yn dy fendithio.

Y mae ei Air ef yn wir, ond y mae'n rhaid i ti wrando gyda chymorth ei Ysbryd, gan ymddarostwng dan ei law nerthol, er mwyn elwa ohono.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

5 Prayers of Humility

Angen mwy o ras, ffafr, a bendith Duw? Yna gweddïa’r pum gweddi syml hyn o ostyngeiddrwydd, gan ofyn i'r Arglwydd i ddangos ffafr tuag atat ti a'th helpu. Bydd yn ateb dy weddi; mae'n rhoi gras i'r gostyngedig! Ac os wnei di ddarostwng dy hun gerbron yr Arglwydd, bydd e’n dy ddyrchafa.

More

Hoffem ddiolch i From His Presence Inc. am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.fromhispresence.com