5 Gweddi o OstyngeiddrwyddSampl
Gweddi 1: “Arglwydd, gwna fi'n ostyngedig.”
Mae gostyngeiddrwydd gerbron Duw yn hollbwysig; gall y weddi syml o "Arglwydd, gwna fi'n ostyngedig!" newid dy fywyd.
Ond, fel gydag unrhyw beth, allwn ni ddim dod yn ostyngedig heb gymorth Duw! Allwn ni ddim gwneud dim o gwbl heb ei help e. Cofia’r hyn a ddwedodd Iesu yn Ioan 15:5: Ond allwch chi wneud dim ar wahân i mi.
Pam dylen ni ofyn i Dduw ein gwneud ni’n ostyngedig?
Yn gyntaf mae 1 Pedr 5:5-6 yn dweud wrthym fod Duw yn gwrthwynebu pobl falch, ond yn hael at y rhai gostyngedig. Mae Gair Duw hefyd yn dangos i ni fod Iesu yn ostyngedig; ac, wrth gwrs, dŷn ni i fod i efelychu Iesu.
Ar y daith i ostyngeiddrwydd, ein rhan ni yw ildio ein hunain i Iesu o’r newydd ac o’r newydd bob dydd. Wrth inni wneud hynny, gan ganolbwyntio ar aros yng Nghrist ennyd, bydd yn gwneud ei ran - sef newid ein calonnau a'n cydymffurfio â'i ddelwedd e. Duw yn unig sydd â'r gallu i newid ein calonnau.
Bydd Duw yn rhoi dwylo glân i ti a chalon lân os byddi di’n n gofyn iddo wneud hynny.
Dw i’n gofyn iddo am hyn bron bob dydd. (Hoffwn pe bawn yn gofyn bob dydd, ond weithiau rwy'n anghofio). Ond bob tro dw i’n gofyn iddo fy ngwneud yn ostyngedig, dw i’n teimlo ei fod yn fy nhynnu ychydig yn nes ato'i hun.
Bydd yn gwneud yr un peth i ti. Os byddi’n gofyn bob dydd i'r Arglwydd dy wneud yn ostyngedig, bydd yn dy drawsnewid ac yn dy helpu i gerdded o'i flaen mewn sancteiddrwydd ac agosatrwydd ag ef ei hun.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Angen mwy o ras, ffafr, a bendith Duw? Yna gweddïa’r pum gweddi syml hyn o ostyngeiddrwydd, gan ofyn i'r Arglwydd i ddangos ffafr tuag atat ti a'th helpu. Bydd yn ateb dy weddi; mae'n rhoi gras i'r gostyngedig! Ac os wnei di ddarostwng dy hun gerbron yr Arglwydd, bydd e’n dy ddyrchafa.
More