Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dy Flwyddyn Torri Trwodd: 5 Diwrnod o Ysbrydoliaeth i Gychwyn dy Flwyddyn Newydd ​​Sampl

Your Breakthrough Year: 5 Days of Inspiration to Kickstart Your New Year

DYDD 5 O 5

DIWRNOD 5 - MARWOLAETH BREUDDWYD

Roedd Melek Sert bum mis yn feichiog pan aeth i'r ysbyty gyda phoen difrifol a gwaedu. Ond yna stopiodd ei gwaedu a chafodd ei rhyddhau o'r ysbyty a dychwelyd adref. Fodd bynnag, y diwrnod wedyn aeth hi a’i gŵr Hasan yn ôl i’r ysbyty gyda’r un gŵyn.

Cafodd ei monitro'n gyson oherwydd y risg o gam-esgor. Yn y diwedd, rhoddodd enedigaeth yn gynnar ond dwedodd y meddygon fod ei mab yn farw-anedig. Cafodd dystysgrif marwolaeth a bag angladd bach gan Ysbyty Talaith Seyhan yn Nhwrci.

Aeth Hasan â'r babi i Fynwent Cymdogaeth Herekli i'w gladdu. Wrth i Hasan yrru i'r fynwent, dechreuodd glywed y baban yn crio. Stopiodd y car ac agor y bag. Tynnodd ei siaced, ei lapio o amgylch y babi, a throi gwresogydd y car yr holl ffordd i fyny.

Daeth yr ambiwlans ac aed â'r babi i Ysbyty Ymchwil Dinas Adana a'i drin mewn gofal dwys. Roedd y babi mewn cyflwr difrifol gyda phwysedd gwaed isel. Ond gwelodd Melek fod ei babi yn fyw! Roedd ei ddwylo a'i draed yn aflonydd, ei galon yn curo.

Roedd y cwpl mewn sioc. Ganed eu mab bach cyn ei amser ond yn fyw nid yn farw. Aethon nhw o anobaith llwyr i lawenydd anhygoel. Mae eu plentyn yn fyw ac yn awr maen nhw’n gweddïo ei fod yn gwella: am ei dyfiant parhaus a'i iechyd llwyr.

Mae Luc 15:24 yn dweud, “Roedd fy mab i wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi'i gael yn ôl.’ Felly dyma'r parti'n dechrau.” Yn y stori hon am y Mab Afradlon, nid oedd mewn gwirionedd wedi marw, ond roedd yn ymddangos fel ei fod oherwydd ei fod wedi gadael cartref. Pan ddychwelodd roedd y tad wrth ei fodd bod ei fab “marw” wedi dod yn ôl adref.

Roedd Hasan a Melek yn meddwl bod eu mab bach wedi marw, roedd y tad yn meddwl bod ei fab afradlon wedi marw ac wedi mynd am byth. Gallwn brofi marwolaeth breuddwyd a gall deimlo mor real ag unrhyw farwolaeth.

Pan dŷn ni'n gobeithio, yn gweddïo dros ac yn gweithio i freuddwyd ddod yn realiti ac nid yw'n wir, mae fel marwolaeth. Cawn ein gadael gyda sioc, poen, a galar. Mae’n ymddangos fel bod y cyfan ar goll. Mae'n ymddangos nad oes pwrpas nac ystyr i'n bywyd.

Ond mae gan Dduw ffordd o adfer yr hyn sy'n goll, ac atgyfodi'r hyn sy'n farw. Falle y byddwn yn barod i gladdu'r freuddwyd pan fydd Duw yn symud mewn ffordd sy'n ddiymwad. Nid yw dy freuddwyd wedi marw - mae'n fyw iawn.

Ysgrythur

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Your Breakthrough Year: 5 Days of Inspiration to Kickstart Your New Year

Fe all y flwyddyn newydd fod yn arloesol i ti. Mae dy ddatblygiad newydd ar y gweill jyst tu draw i’r rhwystr a wynebwyd gen ti'r llynedd. Gall hon fod y flwyddyn y byddi di, o'r diwedd, yn cael y datblygiad arloesol sydd ei angen yn dy fywyd. Bydd y cynllun yn rhannu'r anogaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnat ti gael dy flwyddyn orau erioed. ​.

More

Hoffem ddiolch i The Fedd Agency am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.rickmcdaniel.com/thisisliving.html