Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dy Flwyddyn Torri Trwodd: 5 Diwrnod o Ysbrydoliaeth i Gychwyn dy Flwyddyn Newydd ​​Sampl

Your Breakthrough Year: 5 Days of Inspiration to Kickstart Your New Year

DYDD 2 O 5

DIWRNOD 2 - DIGWYDDIAD PRIN

Beichiogodd menyw yn Lloegr tra’n feichiog eisoes, gan roi genedigaeth yn y pen draw i efeilliaid prin a genhedlwyd tair wythnos ar wahân! Fel arfer, pan fydd menyw yn beichiogi mae ei chorff yn dechrau sawl proses i atal beichiogrwydd cydamserol, gan gynnwys rhyddhau hormonau i atal ofyliad.

Ond mewn achosion prin, gallai menyw feichiog barhau i ofwleiddio ac yna gallai'r wy hwnnw gael ei ffrwythloni gan sberm a'i fewnblannu yn y groth. Mae'r ffenomen ryfeddol hon, lle mae dau wy wedi'u ffrwythloni yn cael eu mewnblannu yn y groth ar wahanol adegau yn cael ei alw'n beichiogrwydd deuol (superfetation).

Ar ôl 12 wythnos fe wnaeth meddygon ddarganfod ail faban wrth gynnal scan uwchsain a oedd â gwahaniaeth maint o dair wythnos i'r babi cyntaf. Oherwydd bod beichiogrwydd deuol mor anghyffredin allai'r meddygon ddim esbonio'r gwahaniaeth maint rhwng y ddau faban i ddechrau. Yna gwnaeth meddygon ddiagnosis o feichiogrwydd deuol.

Cafodd y babanod, Noah a Rosalie, eu geni'n ar yr un diwrnod. Treuliodd Noah dair wythnos a threuliodd Rosalie 13 wythnos yn yr ysbyty. Ond mae'r ddau fabi bellach gartref ac yn iach.

Mae beichiogrwydd deuol mor anarferol oherwydd mae'n rhaid i dri digwyddiad annhebygol ar wahân ddigwydd er mwyn iddo ddigwydd. Mae ofwleiddio, sy'n cael ei atal fel arfer gan hormonau beichiogrwydd, ffrwythloniad, fel arfer yn dod i ben yn gynnar yn ystod beichiogrwydd pan fydd plwg mwcws yn ffurfio i atal sberm rhag pasio trwy'r serfics a'r mewnblaniad, sy'n gofyn am ddigon o le ar gyfer embryo arall yn y groth, yn ogystal â hormonau na fyddai fel arfer yn cael ei ryddhau unwaith y bydd menyw yn feichiog.

Ond digwyddodd yr holl ddigwyddiadau hynny a beichiogodd Rebecca Roberts yn 39 oed a chael efeilliaid.

Mae yna adegau pan fydd Duw yn trefnu digwyddiadau ac amgylchiadau i wneud rhywbeth gwyrthiol. Falle na welwn sut y gellir gweithio allan y sefyllfa, dŷn ni’n credu nad oes unrhyw ffordd i bethau wella, a dŷn ni’n sicr ddim yn meddwl bod yna ateb.

Ac yna mae Duw yn gwneud rhywbeth prin, anghyffredin, anghyffredin. Mae'n dod â digwyddiadau ynghyd yn y ffordd berffaith fel bod yr hyn oedd yn amhosibl yn dod yn bosibl. Mae Duw yn gweithio trwy nerth yr Ysbryd Glân.

Pan dŷn ni'n agor ein hunain i Dduw, mae'r Ysbryd yn gweithio ynom ni gyda nerth a byddwn ni'n gweld ei waith creadigol. Bydd yn arwain ein bywyd; gallwn orffwys yn ei arweiniad. A byddwn yn dyst i'r pethau rhyfeddol y bydd yn eu gwneud.

Dwedodd Iesu yn Ioan 14:26 “Ond mae un fydd yn sefyll gyda chi, sef yr Ysbryd Glân mae'r Tad yn mynd i'w anfon ar fy rhan. Bydd e'n dysgu popeth i chi ac yn eich atgoffa o bopeth dw i wedi'i ddweud.” Trwy weithrediad yr Ysbryd, byddwn yn profi digwyddiadau sy'n ein helpu ni ac na ellir ond eu deall fel rhai sy'n dod oddi wrth Dduw.

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Your Breakthrough Year: 5 Days of Inspiration to Kickstart Your New Year

Fe all y flwyddyn newydd fod yn arloesol i ti. Mae dy ddatblygiad newydd ar y gweill jyst tu draw i’r rhwystr a wynebwyd gen ti'r llynedd. Gall hon fod y flwyddyn y byddi di, o'r diwedd, yn cael y datblygiad arloesol sydd ei angen yn dy fywyd. Bydd y cynllun yn rhannu'r anogaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnat ti gael dy flwyddyn orau erioed. ​.

More

Hoffem ddiolch i The Fedd Agency am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.rickmcdaniel.com/thisisliving.html