Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diolchgarwch y Cynhaeaf Trwy'r Flwyddyn!Sampl

Harvest Thanksgiving All Year Round!

DYDD 4 O 7

BETH SY’N LLENWI DY FEDDWL?

"Ac un peth arall i gloi, ffrindiau: meddyliwch bob amser am beth sy'n wir ac i'w edmygu - am beth sy'n iawn i'w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus - hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy'n haeddu ei ganmol.”"Philipiaid 4:8

Dydy pobl ddim yn dangos diolchgarwch am fod eu meddyliau ar bethau eraill. Wyt ti erioed wedi teimlo dy fod mor brysur fel dy fod yn cyfarch anwylyd fel gafr ar daranau? Mewn geiriau eraill, rwyt ti mor brysur gyda phethau dibwys fel dy fod wedi colli blaenoriaeth yn yr hyn sy'n bwysig. Mae bywyd yn brysur. Os nad wyt ti wedi ymddeol, gall dy ddiwrnod gynnwys gwaith, plant, ysgol, gweithgareddau allgyrsiol, eglwys, gwirfoddoli, chwaraeon, teithiau i'r farchnad, rhannu lifftiau, ac mae'r rhestr yn mynd yn ei flaen.

Falle nad wyt ti ddim byd fel hyn, ond yn hytrach mae dy feddwl wedi'i lenwi â chwant, pornograffi, yfed, gorfwyta, neu ffilmiau rwyt ti'n gwybod na ddylet ti fod yn eu gwylio.

Mae pobl wedi dysgu ffordd o fyw sy'n ymddangos yn norm cymdeithas. Dŷn ni i wneud ‘popeth’ fel petai nhw i’r Arglwydd! Pan dŷn ni'n gwneud pethau i'r Arglwydd, dylen ni fod yn eu gwneud nhw â chalon ddiolchgar. Os dŷn ni'n gwybod nad yw'r hyn dŷn ni'n ei wneud yn plesio Duw, dŷn ni'n gwybod nad ydyn ni'n dod ato gyda mawl a diolch.

Wnes i sôn am ymddeoliad? Wrth gwrs, dŷn ni’n gallu ymgolli mewn gweithgareddau ar ôl ymddeol fel teithiau, golffio, trysori plant ein plant, a bwyta allan gyda ffrindiau. Gallwn fod mor brysur yn gwneud hobïau a chrefftau a'r holl anturiaethau hwyliog hyn fel ein bod yn llenwi ein meddyliau â phethau yn lle diolchgarwch. Yn sicr does dim byd o’i le â’r pethau hynny, ond rhaid i ni ddysgu gwneud popeth a wnawn gydag Iesu fel ein ffocws a chyda chalon ddiolchgar.

Mae Rhufeiniaid 12:2 yn ein hatgoffa i beidio cydymffurfio â safonau’r byd ond i gael ein trawsffurfio drwy chwyldroi ein ffordd o feddwl am bethau!

Sut ydyn ni’n chwyldroi ein ffordd o feddwl am bethau?

Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni sylweddoli beth sy'n ein gyrru a pham ein bod yn dymuno gwneud y cyfan. Bydd yn onest gyda'r Arglwydd, ac mewn sgwrs ag e, gofynna i ti dy hun os yw dy weithgareddau i ddod â ffocws i’r hunan i gael ei gydnabod gyda chanmoliaeth gan eraill. Rwyt ti'n gwybod mai tynnu sylw atat ti dy hun sy'n meddiannu dy feddwl. Os mai dyma ti, gofynna i Dduw am faddeuant ac am help i newid y pethau sy'n meddiannu dy feddwl.

YMARFER HEDDIW:

· Os wyt yn gweld dy fod yn llenwi gormod o dy amser, meddylia am sut i gwtogi'r rhestr honno.

· Os yw dy feddwl wedi ei lenwi â phethau pechadurus nad ydyn nhw’n gogoneddu dy gerddediad gyda'r Arglwydd, dos at Dduw â chalon ddiffuant a siarad ag e.

· Gwna hunan-ddadansoddiad i benderfynu a yw dy weithredoedd a'th weithgareddau yn rhai sy’n tynnu sylw atat ti dy hun neu'n gogoneddu Duw.

· Penderfyna wneud lle yn dy fywyd i ddiolchgarwch a llawenydd!

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Harvest Thanksgiving All Year Round!

Dw i'n rhyfeddu at y gwersi y gallwn eu dysgu o ddiwylliannau eraill! Mae'n ymddangos bod gan rai lai yn faterol, ac eto maen nhw’n amlygu ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch a llawenydd! Wn i ddim amdanat ti, ond dw i eisiau i ddiolchgarwch a llawenydd fod yn gymaint o ran ohono i fel ei fod mor hawdd ag anadlu! Yn y cynllun hwn, byddwn yn darganfod sut i wneud tymor diolchgarwch yn arfer dyddiol!

More

Diolch i Eternity Matters With Norma am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.facebook.com/eternitymatterswithnorma