Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diolchgarwch y Cynhaeaf Trwy'r Flwyddyn!Sampl

Harvest Thanksgiving All Year Round!

DYDD 3 O 7

TYRD I MEWN I'W BRESENOLDEB GYDA DIOLCHGARWCH!

" Dewch, gadewch i ni ganu'n llawen i'r ARGLWYDD, a gweiddi'n mawl i'r Graig sy'n ein hachub! Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch; gweiddi'n uchel a chanu mawl iddo! Achos yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr; y Brenin mawr sy'n uwch na'r ‘duwiau’ i gyd " Salm 95:1-3

Mae rhai pobl yn deffro gyda gwên, yn awyddus i'w traed daro'r llawr! Mae eraill yn gorchuddio eu pennau wrth yr arwydd cyntaf o olau dydd ac ochenaid, gan feddwl am beidio â dymuno wynebu'r dydd.

Un peth rwy'n gobeithio y byddwn ni i gyd yn ei ddysgu trwy'r defosiwn hwn yw ein bod ni'n effro bob munud, mae gynnon ni'r fraint a'r cyfle mawr i fod ym mhresenoldeb Duw! Sut ydw i'n gwybod hynny? Oherwydd ar Galfaria, rhwygodd y llen o'r top i'r gwaelod pan ysgydwodd y ddaear, gan ganiatáu i ni ddod gerbron yr orsedd heb gywilydd. Fe wnaeth marwolaeth Iesu ar y groes sicrhau mynediad i ni i'w bresenoldeb e! Does arnom ddim angen yr offeiriad mwyach i fynd i mewn; mae gennyt ti a fi fynediad am ddim!

Y foment dŷn ni’n deffro bob bore, y foment dŷn ni’n gweld ei olau yn disgleirio trwy ein ffenestri, y foment dŷn ni’n gweld yr awyr neu glywed aderyn yn canu, dŷn ni mewn rhyw fath o’i bresenoldeb, oherwydd mai e wnaeth greu popeth. Sut ydyn ni i gyfarch yr Arglwydd? Mae'r ysgrythur yn dweud wrthon ni am ganu, gwneud sŵn llawen, a dod i'w bresenoldeb gyda beth? Gyda diolchgarwch!

YMARFER HEDDIW:

• Os oes gen ti natur foreol sarrug, rho’r gorau i hynny nawr!

• Ymarfer gwenu cyn coffi neu de yn y bore.

• Cyfarcha dy anwyliaid yn siriol a thrïa ddiolch iddyn nhw am rywbeth.

• Gwna rai synau llawen wrth yrru i'r gwaith neu'r siop.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Harvest Thanksgiving All Year Round!

Dw i'n rhyfeddu at y gwersi y gallwn eu dysgu o ddiwylliannau eraill! Mae'n ymddangos bod gan rai lai yn faterol, ac eto maen nhw’n amlygu ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch a llawenydd! Wn i ddim amdanat ti, ond dw i eisiau i ddiolchgarwch a llawenydd fod yn gymaint o ran ohono i fel ei fod mor hawdd ag anadlu! Yn y cynllun hwn, byddwn yn darganfod sut i wneud tymor diolchgarwch yn arfer dyddiol!

More

Diolch i Eternity Matters With Norma am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.facebook.com/eternitymatterswithnorma