21 Dydd i OrlifoSampl
Ffydd a Gweithred
Gorlifo yw gweithredu gyda ffydd yn y goruwchnaturiol. Mae'n gwneud yr hyn oedd yn amhosibl yn bosibl. Dyma beth sy'n digwydd pan fydd gennym ni ffydd yn Nuw ac yn cerdded yn y goruwchnaturiol.
Os nad oes gynnon ni ffydd, allwn ni ddim plesio Duw. Mae ein perthynas â Duw yn seiliedig ar ffydd. Pan gawsom ein geni oddi uchod, ni allai neb brofi ein hiachawdwriaeth trwy rywbeth y gallan nhw ei roi i ni. Hyd yn oed pe baen nhw’n rhoi tystysgrif i ni yn dweud ein bod wedi ein hachub, nid yw'n golygu dim. Profir ein hiachawdwriaeth gan y ffydd wnaethon ni ei roi yn yr Arglwydd Iesu Grist i faddau ein pechodau a'n glanhau o'n hanghyfiawnder. Yn union fel y buom yn arfer ffydd i gael ein geni eto, dŷn ni’n parhau i fyw i Dduw trwy ffydd. Mae'n cymryd ffydd i gael perthynas o ddydd i ddydd ag Iesu Grist. Mae'n cymryd ffydd i weddïo, tystiolaethu, rhoi, a gweinidogaethu. Mae popeth am ein perthynas â Duw yn seiliedig ar ffydd. Dyna pam mae'n amhosib ei blesio hebddo.
Paid â chredu fi na allwn blesio Duw heb ffydd? Edrycha ar Hebreaid 11:6. Ein ffydd ynddo yw’r ffordd gorau i’w blesio!
Mae Hebreaid 11 yn ei gyfanrwydd yn ddarn rhyfeddol sy’n trafod ffydd trwy Air Duw a’r hyn y mae ffydd yn ei olygu mewn gwirionedd. O ffydd Noa ac Abraham i Moses a Jacob, mae’n chwalu nifer o straeon Beiblaidd a sut roedden nhw’n dangos ffydd yn yr Arglwydd.
A'r newyddion da yw, mae gynnon ni i gyd ffydd! Mae Rhufeiniaid 12:3 yn ei drafod. Mae angen i bob un ohonom weithio i arfer y ffydd hon yn Nuw ac ymddiried ym mhopeth y mae'n ei wneud.
Bron bob tro roedd Iesu yn ceryddu Ei ddisgyblion, roedd hynny oherwydd diffyg ffydd. Dyma sut mae Duw yn gweld ffydd. Mae diffyg yn tynnu cerydd ganddo. Mae'n rhaid i ni fyw trwy ffydd, a rhaid iddo fod yn tyfu bob amser. Dyma pam mae'r profion a'r treialon yn dod i'n bywydau. Dyma'r pwrpas i Dduw ganiatáu i bethau ddod atom ni na all ond e eu trwsio. Mae hyn i gyd yn cynyddu ein ffydd. Mae hyn yn caniatáu i allu goruwchnaturiol Duw amlygu ynom ni mewn ffyrdd mwy.
Does gan yr ymosodiadau rwyt yn eu hwynebu fawr ddim i wneud â’r peth yr ymosodir arno. Ychydig iawn sydd ganddyn nhw i'w wneud â phwy wyt ti. Mae'n rhaid iddyn nhw ymwneud â phwy wyt ti’n newid i fod. Felly, mae Satan yn ymosod ar dy nawr,er mwyn iddo allu ymosod ar dy ddyfodol. Mae'n ymosodiad yn erbyn dy ffydd, i'th gadw rhag dy dynged. Os gallwn ganiatáu i'n ffydd gael ei chyffroi a'i hadeiladu, gallwn atal yr ymosodiadau a sicrhau ein dyfodol.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!
More