Beth yw Cariad go iawn?Sampl
Canlyniad Cariad Go Iawn? LL! A! W! E! N! Y! DD!
Pa bynnag ddiwrnod yw hi mae ein henaid yn gallu dioddef o bechod mewnol, ac mae ein calon yn galaru yn ein gwendid. Byddai John Owen yn dweud ei fod yn teimlo'n wan fel dŵr. Gsall ambell ddiwrnod fod yn waeth na'i gilydd. Mae gwyntoedd yn cylchdroi a stormydd treialon bywyd yn mynd a dod. Mae'r gelyn yn cyhuddo. Ble mae ein gobaith? Yng Nghrist! Ble mae cariad pan fydd treialon yn llethu am fisoedd, degawdau, a hyd yn oed blynyddoedd? Ble mae ein gobaith? Yng Nghrist! Mae ein ildio i Dduw yn cael ei brofi a'i farnu. Ble mae ein ffyddlondeb? Drwy Grist! Yng ngwewyr cael ein profi mae cymaint o syniadau a theimladau yn llethu ein meddwl a'n calon. Ble mae ein hegni, ein cryfder, a'n brwdfrydedd llencynnol? Yng Nghrist!
IESU yw dy gyfan oll. Gwranda arno a chreda ei eiriau, ac nid beth rwyt yn ei feddwl, neu beth mae rhywun arall yn ei ddweud, neu'r hyn rwyt yn deimlo. Mae o'n ganolog, yn sylfaenol, yn greiddiol, yn bopeth, yn oruchaf - Y CWBL. Crist! Roedd ei fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad, y tri, er ein mwyn pechaduriaid gwrthryfelgar annheilwng, fel ti a fi. Ildiodd ei le a'i goron gan aberthu ei hun. Rydym yn cael ein galw i farwolaeth yr hunan hefyd er nwyn Crist ac eraill.
UFUDD-DOD. Bydd yn ufudd i Air Duw gan ymddiried ynddo drwy dy feddwl, gair a gweithred. Glyna wrth Grist a'i gariad. Dewisa i roi heibio unrhyw deimladau a hen ffyrdd o feddwl a gwisga amdanat ffydd, gan gredu fod Gair Duw yn wir adnewyddu.
Sut mae dilyn ffynhonnell cariad go iawn gan adael i'w gariad lifo i mewn a thrwy ein bywydau? Sut mae dysgu i gadw wrth ei ochr gan gadw gam wrth gam gyda'i Ysbryd a dilyn ei gymhellion ef yn hytrach na rai ein hunain?
Yn gyntaf: Ydyn ni wedi crwydro oddi wrth lwybr ei gariad? Hola dy hun: "Ydw i'n gweld yn glir? Ydw i'n cerdded law yn llaw â ti? Gallwn ddweud gweddi fer drwy gydol y dydd i'n helpu: Helpa fi i gredu a cherdded yn dy gariad! Arglwydd, dw i eisiau dy garu. Helpa fi i'th garu â'm holl galon, enaid, meddwl, a nerth a helpa fi i garu eraill."
Mae dy lencyndod wedi'i adnewyddu o'r newydd! Mae gennyt lawenydd a nerth yn yr Arglwydd!

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hwn gan Thistlebend Ministries yn chwilio am ystyr Beiblaidd cariad a sut i garu Duw ac eraill yn well.
More
Hoffem ddiolch i Thistlebend Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.thistlebendministries.org