Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Beth yw Cariad go iawn?Sampl

What Is True Love?

DYDD 10 O 12

Ein dymuniad pennaf yw Cariad Go Iawn.

Darllena Salm 27:4-9, 11, 14 a Nehemeia 8:10.

Os mai ein dymuniad pennaf yw caru Crist yn gyfan gwbl mae'n rhaid i ni lynu wrth ei ochr a'i ddilyn doed a ddêl. I'w dilyn ef yn gyfan gwbl rhaid i ni godi ein croes ac ildio ein bywyd iddo. Rhaid i'r hunan farw, a felly hefyd ein ffyrdd, ein awch, ein gorawen, Mae marwolaeth yr hunan yn agor drws ein bywyd i Grist. Rhaid i ni edrych at Iesu - neb arall a dim arall, am heddwch, i gael ein derbyn, ein cydnabod, cael arweiniad, ac adnabod ein gwerth. Rhaid darganfod ein holl lawenydd ynddo ef. Ein gwobr yw ef. Rhaid pwyso'n gyfan gwbl ar y gobaith rydym yn gobeithio ei gael ynddo ef. Rhaid i ni bwyso ar Iesu ac nid ar ein cyfiawnhad ein hunain. Rhaid i ni beidio roi ein gobaith yn yr hunan. Os byddwn yn gadael yr hunan o'n hôl byddwn yn profi Crist gymaint mwy.

Fodd bynnag, mae gadael yr hunan o'n hôl yn gamp fawr. Mae'n golygu gadael o'n hôl ein ffyrdd, mewnddirnadaeth, ein holl eisiau, ewyllys, ofnau, ansicrwydd, problemau, pryderon, ein hangen am bopeth, ac yn y blaen. Po fwyaf o ffyrdd y byd hwn y byddwn yn gadael o'n hôl, po fwyaf y gallwn lynu at gysur a ffyrdd Crist. Po fwyaf y byddwn yn barod i ymfalchio yng Nghrist, po fwyaf y byddwn yn barod i wasanaethu a dioddef drosto, gan leihau'r peryg o gael ein harwain oddi wrtho. Llawenydd yr Arglwydd yw ein cryfder.

Os ydym yn ceisio cael ein llenwi gan ei gariad, rhaid i ni gerdded law yn llaw drwy gydol y dydd, er gwaethaf cryfder y storm, unrhyw ymgais i darfu ar ein sylw neu gryfder unrhyw demtasiwn a ddaw i'n profi.

Yfory fe welwn sut olwg sydd ar hyn, yn ymarferol, o ddydd i ddydd.

Y Gwirionedd yn cyffwrdd y galon: Dewisa ran o'r Ysgrythur i adnewyddu dy feddwl a thrawsnewid dy galon.

Rhoi'r Hunan i Farwolaeth: Pa bechod penodol sy'n cael sylw gennyt yn dy fywyd gan yr Ysgrythur a sgwennwyd gennyt? Mae Paul yn dweud yn ddigon clir wrthon i roi heibio'r hunan hen.

Dod â'r Gwirionedd yn Fyw: Gwisgo Crist amdanat. Pa newidiadau penodol, sydd angen i ti eu gwneud, yn dy feddwl, agwedd, neu ymddygiad i ildio iddo ef a chyflwyno ei wirionedd i'th feddwl a'th galon?
Diwrnod 9Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

What Is True Love?

Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hwn gan Thistlebend Ministries yn chwilio am ystyr Beiblaidd cariad a sut i garu Duw ac eraill yn well.

More

Hoffem ddiolch i Thistlebend Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.thistlebendministries.org